Mae Blackboard Learn yn system ar gyfer dysgu, addysgu, adeiladu cymunedau a rhannu gwybodaeth ar lein.

Gallwch chi ddefnyddio unrhyw theori neu fodel wrth ddysgu’ch cwrs ar lein, oherwydd bod Blackboard Learn yn agored, hyblyg ac yn canolbwyntio ar gyrhaeddiad myfyrwyr.

Yn Blackboard, rydyn ni’n meithrin dysgwyr ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwneud addysg yn bosibl, a hynny ym maes addysg orfodol hyd at 16 ac addysg uwch i addysg oedolion a hyfforddiant yn y gweithle.

Wrth ichi fwrw ati yn Blackboard Learn, byddwch yn gweld bod addysgu ar lein ac addysgu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth yn debyg.

Ewch i wefan gorfforaethol Blackboard


Addysgu a dysgu ar lein

Gall dysgu ar lein ddigwydd yn gydamserol neu’n anghydamserol. Mewn awyrgylch cydamserol, mae gan fyfyrwyr a hyfforddwyr rhyngweithiad ar unwaith neu mewn "amser real". Mae angen i aelodau cwrs gwrdd ar amser penodol a gall hyn fod yn rhywbeth gwael ar adegau. Fodd bynnag, mae amser penodol yn gallu helpu myfyrwyr i gadw ar y trywydd cywir a rheoli'u hamser. Mae Blackboard Collaborate yn esiampl o offeryn cydamserol. Yn Collaborate, gall eich dosbarth gwrdd am ddarlith. Gallwch gynnal oriau swyddfa a sesiynau astudio, cael trafodaethau byr rybudd a gwahodd siaradwyr gwadd.

Mwy ar Collaborate

Mewn awyrgylch anghydamserol, bydd y rhyngweithio’n digwydd dros gyfnodau estynedig, fel gyda thrafodaethau. Gall myfyrwyr gymryd yr amser i feddwl cyn cyfathrebu.

Gadewch i fyfyrwyr wybod pa mor aml rydych chi’n gwirio teclynnau cyfathrebu, pa mor aml y byddant yn clywed gennych, a phryd y byddwch ar gael i ateb eu cwestiynau a gwrando ar bryderon.

Tasgau cyfarwydd

Mae’ch profiad a’ch gwybodaeth fel hyfforddwr ystafell ddosbarth yn amhrisiadwy pan fyddwch yn addysgu ar lein. Gallwch chi ddefnyddio llawer o’r adnoddau sydd yn Blackboard Learn i gyflawni tasgau yr ydych chi’n gyfarwydd â hwy wrth addysgu wyneb yn wyneb.

  • Ar ddechrau gwers mewn ystafell ddosbarth arferol, mae’n debygol y byddwch yn cymryd ychydig funudau i atgoffa myfyrwyr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Yn Blackboard Learn, gallwch chi bostio negeseuon i gyflawni’r un dasg.
  • Yn eich ystafell ddosbarth arferol, rydych chi’n gofyn cwestiynau i wirio dealltwriaeth eich myfyrwyr o’r deunydd. Yn Blackboard Learn, gallwch chi ofyn cwestiynau mewn trafodaethau, cynnal sesiwn Collaborate, neu ofyn i fyfyrwyr gwblhau cwis na fydd yn cael ei farcio.
  • Mae’n rhaid i’r disgwyliadau fod yn glir i’r dysgwyr. Gallwch chi ei gwneud yn hawdd dod o hyd i ddyddiadau cyflwyno, canllawiau marcio a chyfarwyddiadau.
  • Dangoswch i’r myfyrwyr eu bod yn bwysig ichi. Mae’r myfyrwyr am gael sgyrsiau ystyrlon a phersonol â chi.

Mathau o gyrsiau ar lein

Pan fyddwn yn meddwl am ddysgu ar lein, rydym yn meddwl yn aml am gwrs llawn ar lein lle mae’r cynnwys, gweithgareddau a chyfathrebu oll ar lein.

Fodd bynnag, defnyddir Blackboard Learn i ategu cyrsiau wyneb yn wyneb traddodiadol yn aml. Yn wir, os ydych chi’n newydd i ddysgu ar lein, gallwch chi ategu’ch cwrs yn yr ystafell ddosbarth â maes llafur, trafodaethau a gweithgareddau ar lein. Wrth ichi fagu hyder, gallwch chi drawsnewid eich cwrs yn raddol a’i droi’n gwrs ar lein hybrid neu gwrs sydd ond yn cael ei gynnig ar lein.

Dewch inni fwrw golwg dros y tri math hyn o gwrs.

Ar lein yn llawn

  • Dydy’r cyfranogwyr ddim yn cyfarfod wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth. Yn hytrach, maen nhw’n rhyngweithio ar lein yn unig.
  • Rydych chi’n darparu deunyddiau cwrs ar lein.
  • Rydych chi’n cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r myfyrwyr gan ddefnyddio teclynnau ar lein.
  • Mae’r myfyrwyr yn rhyngweithio, cyfathrebu ac yn cydweithio ar lein.
  • Rydych chi’n asesu gwaith myfyrwyr ar lein.

Hybrid neu gymysg

  • Bydd cyfranogwyr yn dal yn cyfarfod ar gyfer amser yn yr ystafell ddosbarth neu labordy, ond bydd llai o amser yn cael ei dreulio yno. Er enghraifft, rydych chi’n dysgu cwrs sydd fel arfer yn cynnwys tri sesiwn yn yr ystafell ddosbarth bob wythnos. O ychwanegu rhai elfennau ar lein, mae’n bosibl mai dim ond dau sesiwn y bydd eu hangen yn yr ystafell ddosbarth.
  • Gallwch chi ddylunio gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar lein sy’n atgyfnerthu, ategu neu’n cefnogi’r naill a’r llall.
  • Gallwch chi gyfuno nodweddion gorau addysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyrsiau ar lein. Bydd myfyrwyr yn cael budd o gyfarfod â’u hyfforddwr yn rheolaidd, ond yn parhau i fwynhau hyblygrwydd dysgu ar lein.

Dysgu wedi ei wella gan y we

  • Mae cyfranogwyr yn cyfarfod yn yr ystafell ddosbarth am yr oriau a drefnwyd, ond gallwch chi ychwanegu gweithgareddau dysgu ar lein.
  • Caiff rhai deunyddiau atodol, fel maes llafur cwrs, aseiniadau gwaith cartref, a thrafodaethau dewisol eu darparu ar lein. Nod y rhain yw ategu gwaith cwrs wyneb yn wyneb, nid ei ddisodli.

Apiau symudol

Blackboard: Bydd myfyrwyr yn derbyn diweddariadau ar eu ffonau symudol am eich cyrsiau, cwblhau aseiniadau a phrofion, cymryd rhan mewn trafodaethau, lansio sesiynau Collaborate, a gweld eu graddau.

Blackboard Instructor: Ap symudol yw Blackboard Instructor sy'n caniatáu i hyfforddwyr weld cynnwys cyrsiau, graddio aseiniadau, cysylltu â myfyrwyr mewn trafodaethau, a lansio sesiynau Collaborate.


A ydych yn barod i ddechrau arni?

Hyd yn oed os ydych chi’n newydd i addysgu ar lein, bydd modd ichi greu cwrs sylfaenol mewn byr o dro. Gallwch chi gychwyn arni gyda gwerth wythnos neu ddwy o ddeunyddiau ac ychwanegu rhagor yn hwyrach ymlaen.

Rydyn ni wedi casglu ynghyd rai awgrymiadau a chamau sylfaenol ar gyfer hyfforddwyr sy’n newydd i Blackboard Learn ac sydd am ddysgu sut i greu cynnwys ar gwrs ar lein. Rydyn ni am eich helpu gyda’r prif egwyddorion a phrosesau sy’n berthnasol wrth lunio cwrs newydd sbon.

Mwy o wybodaeth am y camau sylfaenol