Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa fodiwlau sy'n ymddangos ar dab Fy Sefydliad a gallant ailenwi'r tab.

Mae modiwlau yn cynnwys gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn eich cyrsiau, ac mae’n bosibl y bydd gennych fynediad at adnoddau a ddefnyddir yn gyffredin. Ymhlith yr esiamplau o fodiwlau mae Fy Nghyoeddiadau, Beth sy'n Newydd, a'r Gyfrifiannell. Efallai byddwch yn gallu lleihau neu dynnu modiwlau, ond mae'ch sefydliad yn gallu gorfodi bod rhai modiwlau'n ymddangos. Efallai y byddwch hefyd yn gallu golygu'r gosodiadau ar gyfer rhai modiwlau.

Gall y modiwlau ymddangos ar dab Fy Sefydliad neu ar dudalennau modiwlau cwrs mae hyfforddwyr yn eu hychwanegu at gyrsiau, megis yr Hafan.

Mae'r system yn cynhyrchu'r wybodaeth ym mhob modiwl. Allwch chi ddim ychwanegu’ch cynnwys eich hun at dudalennau modiwl.

Modiwlau tab Fy Sefydliad

Mae modiwlau ar dab Fy Sefydliad yn casglu gwybodaeth o'ch holl gyrsiau i roi darlun cyflawn i chi o newyddion a gweithgareddau ar gyfer eich cyrsiau.

Mwy ar dab Fy Sefydliad


Y modiwlau Beth sy'n Newydd a Rhestr Tasgau

Mae modiwl Beth sy'n Newydd yn adrodd ar ychwanegiadau a newidiadau i gynnwys y cwrs. Mae'r modiwl yn dangos nifer yr eitemau newydd ar gyfer pob math o gynnwys ac yn darparu dolenni iddynt yn eich cyrsiau. Mae'r modiwl yn dangos eitemau o fewn y saith niwrnod diwethaf.

Caiff y mathau hyn o gynnwys eu hadrodd yn y modiwl:

  • Profion ac arolygon
  • Aseiniadau
  • Blogiau
  • Cynnwys
  • Postiadau trafod
  • Negeseuon cwrs

Mae'r modiwl Beth sy'n Newydd yn rhoi gwybod am newidiadau unwaith y diwrnod. Gallwch weld yr hyn sydd wedi newid y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi y diwrnod hwnnw. Nid yw newidiadau a wnaed ar ôl i chi allgofnodi yn ymddangos yn y modiwl tan y diwrnod nesaf oni bai eich bod yn dewis Adnewyddu yn newislen Gweithrediadau.

Modiwl Rhestr Tasgau

Mae modiwl Rhestr Tasgau yn darparu rhestr gronolegol o ddyddiadau dyledus sydd ar ddod. Mae'r modiwl hwn wedi'i rannu yn Beth sy'n Hwyr a Beth sy'n Ddyledus.

Nid yw modiwl Rhestr Tasgau yr un fath â'r offeryn tasgau.

Dau fodiwl arall y gallech ystyried eu hychwanegu yw'r modiwlau Rhybuddion ac Angen Sylw. Mae'r modiwlau hyn at eich defnydd chi'n unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth i fyfyrwyr.


Gosodiadau a gweithrediadau hysbysiadau

Gallwch olygu'ch gosodiadau hysbysiadau i reoli pa ddigwyddiadau rydych yn cael eu hysbysu amdanynt a sut mae'r hysbysiadau'n cael eu cyflwyno. Mae rhai modiwlau'n cynnwys dewislen Gweithrediadau gydag opsiynau i ehangu, cwympo neu ddiystyru hysbysiadau'r modiwl hwnnw.

Mwy ar olygu'ch gosodiadau hysbysiadau


Ychwanegu a thynnu modiwlau

Efallai byddwch yn gallu ychwanegu modiwlau at dab Fy Sefydliad neu dab arall sy'n cynnwys modiwlau.

  1. Dewiswch Ychwanegu Modiwlau.
  2. Ar dudalen Ychwanegu Modiwl, dewiswch y modiwlau yr ydych eisiau iddynt ymddangos ar y tab. Gallwch chwilio yn ôl gair allweddol neu bori yn ôl categori i ddod o hyd i fodiwlau. Gall eich sefydliad analluogi opsiynau.
  3. Dewiswch Ychwanegu i roi'r modiwl ar y tab.

I dynnu modiwl, dewiswch yr eicon Cau sydd wedi'i leoli ar dop pob modiwl. Yn y neidlen, dewiswch Iawn. Pan fyddwch yn cau modiwl, nid yw'r modiwl yn cael ei dileu'n barhaol. Gallwch adfer modiwlau a gaewyd gyda'r swyddogaeth Ychwanegu Modiwl. Mae modiwlau heb eicon Cau yn rhai gofynnol.


Rheoli cynnwys modiwlau

I olygu gwybodaeth, dewiswch yr eicon Rheoli sydd wedi'i leoli ar dop pob modiwl.

Lleihau modiwl

I leihau modiwl, dewiswch eicon Cwympo sydd wedi'i leoli ar dop pob modiwl. I fwyhau modiwl, dewiswch eicon Mwyhau sydd wedi'i leoli ar dop pob modiwl.

Agor modiwl mewn ffenestr newydd

I agor modiwl mewn ffenestr ar wahân, dewiswch eicon Agor mewn ffenestr newydd sydd wedi'i leoli ar dop pob modiwl. Os nad yw'r eicon yn ymddangos, nid yw'r opsiwn ar gael ar gyfer y modiwl hwnnw.


Personoli gosodiad modiwl

Defnyddiwch y ffwythiant lusgo a gollwng ar yr offeryn aildrefnu hygyrch i'r bysellfwrdd i aildrefnu’r modiwlau.

Swyddogaeth llusgo a gollwng

Gwasgwch a llusgwch bennawd modiwl i'w symud i leoliad newydd. Amgylchynir y modiwl gan linell doredig wrth i chi ei symud. Gollyngwch y modiwl i'w leoli yn ei leoliad newydd.

Aildrefnu hygyrch o'r bysellfwrdd

Gallwch ddefnyddio offeryn hygyrchedd i aildrefnu eitemau.

Dewiswch un o'r modiwlau. Defnyddiwch yr eiconau Symud i Fyny a Symud i Lawr i symud y modiwl i safle newydd ar y rhestr. Defnyddiwch yr eiconau Symud i'r Chwith a Symud i'r Dde i symud modiwl rhwng colofnau.


Personoli'r dudalen

Efallai byddwch yn gallu personoli tab sy'n cynnwys modiwlau. Dewiswch Personoli'r Dudalen. Ar y dudalen Personoli, dewiswch gasgliad o liwiau o'r Llyfrgell Liwiau.


Tudalennau modiwl cwrs

Yn ddiofyn, mae'ch cwrs Gwreiddiol yn cynnwys Hafan ar ddewislen y cwrs. Mae’r Hafan yn dudalen modiwl cwrs. Gallwch ailenwi neu ddileu'r dudalen hon, a chreu tudalennau modiwl cwrs eraill. Gallwch hefyd ddewis pa fodiwlau sy'n ymddangos.

Mae tudalennau modiwl cwrs yn cynnwys manylion am gynnwys newydd a dyddiadau dyledus ar gyfer y cwrs rydych chi ynddo.

Rhagor am ychwanegu tudalennau modiwl cwrs