Archwilio tab Fy Sefydliad

Ar ôl i chi fewngofnodi, rydych yn glanio ar dab Fy Sefydliad. Ar draws y top, gallai tabiau eraill fod ar gael i chi.

Efallai bydd gan eich rhyngwyneb liwiau, logos, tabiau, offer ac enwau sy'n benodol i'ch sefydliad. Er enghraifft, gall eich sefydliad ailenwi tab Fy Sefydliad i gyd-fynd ag enw eich sefydliad neu dynnu tab neu ddarn o offer yn gyfan gwbl.

  1. Fy Blackboard a'r ddewislen i ddefnyddwyr: Mae'r dewislenni hyn ar gael bob man yn Blackboard Learn ac yn rhoi blas personol i chi ar eich awyrgylch ar-lein. Gallwch gael mynediad at y dewislenni nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen. Mae'r ddewislen i ddefnyddwyr yn darparu mynediad at bob un o'ch cyrsiau a'ch gosodiadau personol, megis maint testun a gwybodaeth bersonol. Mae Fy Blackboard yn darparu mynediad at ddyddiadau dyledus, defnyddwyr, ac offer sy'n eich helpu i ddarganfod, gysylltu, cyfathrebu a chydweithio â'ch rhwydwaith dysgu ar Blackboard.
  2. Offer: Mae'r offer sydd ar gael ar y dudalen hon yn dangos gwybodaeth o bob un o'ch cyrsiau. Er enghraifft, mae'r calendr yn dangos digwyddiadau ar gyfer pob cwrs.
  3. Modiwlau: Mae'r modiwlau ar dab Fy Sefydliad yn casglu gwybodaeth o'r holl gyrsiau rydych wedi yn eu dysgu. Eich sefydliad sy'n rheoli pa fodiwlau sy'n ymddangos ac os ydych yn gallu ychwanegu modiwlau.

    Defnyddiwch dolenni yn y modiwlau i edrych ar wybodaeth a llywio i'r meysydd hynny yn eich cyrsiau. Gallwch leihau ffenestri unigol a llusgo modiwlau i safleoedd newydd ar y tudalen.

    Modiwlau y gallech eu gweld:

    • Fy Nghyrsiau: Cael mynediad at y cyrsiau rydych yn eu dysgu.
    • Fy Nghyhoeddiadau: Mae'n arddangos cyhoeddiadau ar gyfer cyrsiau a gan eich sefydliad. Mae cyhoeddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig, sy'n sensitif o ran amser.
    • Fy Nhasgau: Yn dangos tasgau rydych wedi'u hychwanegu ar gyfer eich myfyrwyr. Gallwch ychwanegu tasgau personol pan rydych yn cael mynediad at dasgau o Offer.
  4. Ychwanegu Modiwl: Dewiswch hwn i weld rhestr o fodiwlau sydd ar gael, megis geiriadur, cerdyn adroddiad a nodiadau. Darperir disgrifiadau yn y rhestr er mwyn i chi allu dewis yr opsiwn mwyaf perthnasol. Eich sefydliad sy'n rheoli os ydych yn cael ychwanegu modiwlau.
  5. Personoli Tudalen: Newidiwch gynllun lliw y tudalen. Eich sefydliad sy'n rheoli os ydych yn cael personoli'r dudalen.

Tabiau eraill

Efallai bydd gennych fynediad at dabiau eraill sy'n cynnwys modiwlau. Er enghraifft, os oes gan eich sefydliad fynediad at nodweddion rheoli cynnwys, bydd gennych dab Casgliad o Gynnwys. Mae sefydliadau sydd â mynediad at nodweddion ymgysylltu â'r gymuned yn gallu creu tabiau personol a dangos tabiau gwahanol i ddefnyddwyr yn seiliedig ar eu rolau.