Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae Fy Blackboard a'r ddewislen i ddefnyddwyr ar gael bob man yn Blackboard Learn ac yn rhoi blas personol i chi o'ch awyrgylch dysgu.
Gallwch gael mynediad at y dewislenni nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen. Mae'r ddewislen i ddefnyddwyr yn darparu mynediad at bob un o'ch cyrsiau a'ch gosodiadau personol, megis maint testun a gwybodaeth bersonol.
Mae Fy Blackboard yn darparu mynediad at ddyddiadau dyledus, defnyddwyr, ac offer sy'n eich helpu i ddarganfod, gysylltu, cyfathrebu a chydweithio â'ch rhwydwaith dysgu ar Blackboard.
Mae eiconau Fy Blackboard yn dynodi sawl eitem newydd sy'n ymddangos ym mhob ardal. Mae myfyrwyr hefyd yn gweld eicon Fy Ngraddau, lle gallant weld eu heitemau a raddiwyd yn fwyaf diweddar, cyrchu eu hymgeisiau, a gweld gwaith cwrs sydd ar y gweill.
Video: My Blackboard and the User Menu
Watch a video about My Blackboard
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: My Blackboard and the user menu shows how to access My Blackboard and the user menu where you can receive information about all your courses and change personal settings.
Cael mynediad at fy offer Fy Blackboard
Pan rydych yn dewis un o'r eiconau, mae tudalen yn agor. Gallwch gael mynediad at ddewislen Fy Blackboard ar ochr chwith y dudalen.
Offer diofyn Fy Blackboard
Mae'r tabl hwn yn disgrifio'r offer y gallai fod modd i chi eu cyrchu yn Fy Blackboard.
Offer | Disgrifiad |
---|---|
Bb Home: Mae'n rhoi trosolwg o'r eitemau y mae angen i chi eu graddio a phostiadau diweddar. Os yw eich sefydliad wedi troi negeseuon ymlaen, mae Bb Home yn dangos rhagolwg o'ch negeseuon heb eu darllen. |
|
Calendr: Cadw cofnod o aseiniadau, digwyddiadau a dyddiadau cyflwyno eraill sydd ar ddod. | |
Postiadau: Yn dangos cyhoeddiadau diweddar, sylwadau ac ymatebion o drafodaethau, blogiau, dyddlyfrau a wikis ym mhob un o'ch cyrsiau a mudiadau. Os yw eich sefydliad wedi troi'r offeryn pobl a meysydd ymlaen, mae'r negeseuon diweddaraf gan y bobl a'r meysydd rydych yn eu dilyn hefyd yn ymddangos. |
|
Diweddariadau: Gweld rhestr o hysbysiadau sy'n rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau a gwybodaeth bwysig ym mhob un o'ch cyrsiau a mudiadau. | |
Canolfan Dargadw: Gwiriwch iechyd academaidd cyffredinol eich cyrsiau yn y prif dabl a chael gwedd fwy manwl i weld pwy sy'n profi anhawster. | |
Hafan: Yn dangos safle neu ardal y dewiswyd gan eich sefydliad. | |
Cymorth: Ewch i'r Tu Ôl i'r Blackboard, ar gyfer llawlyfrau, sesiynau tiwtorial, a mwy. |
Tudalen Postiadau
Mae pob post newydd yn ymddangos gyda rhagolwg o gynnwys, lleoliad ac awdur. Dewiswch gyhoeddiad y ehangu'r cynnwys yn y panel ar y dde. Mewn postiadau trafod, dewiswch Ymateb neu Dyfynnu i gyfrannu. Gallwch ddarparu a gweld sylwadau ar gyfer wikis a blogiau, ond mae hyfforddwr yn gallu gwrthod sylwadau ar wiki. Hyfforddwyr yn unig gall wneud sylwadau ar gofnodion cyfnodolion.
Os yw eich sefydliad wedi troi'r offeryn pobl a meysydd ymlaen, mae'r negeseuon diweddaraf gan y bobl a'r meysydd rydych yn eu dilyn hefyd yn ymddangos.
Hidlo postiadau
Mae'r opsiynau hidlo hyn yn ymddangos yn y panel ar y chwith:
- Y Cwbl: Gweld yr holl byst yn eich cyrsiau, hyd yn oed os nad ydych wedi postio. Nid yw'r opsiwn hidlo hwn yn ymddangos os does neb wedi postio.
- @fi: Edrychwch ar eich postiadau'n unig. Nid yw'r opsiwn hidlo hwn yn ymddangos os nad ydych wedi postio unrhyw beth.
- Personol: Os oes postiadau'n bodoli yn eich cyrsiau, mae'r opsiwn hidlo hwn yn ymddangos. Os ydych chi wedi postio, gallwch ddewis y blwch ticio yn y neidlen i weld y postiadau mewn cyrsiau rydych wedi cymryd rhan ynddynt yn unig. Os nad ydych wedi postio, mae'r neidlen bersonol yn wag neu heb flwch ticio.
Os ydych angen gweld post hŷn sydd ddim yn ymddangos, ewch i'r cwrs a'r offeryn lle wnaethpwyd y cyhoeddiad.
Ar dudalen Diweddariadau, fe welwch hysbysiadau ar gyfer pob cwrs a mudiad rydych wedi cofrestru arnynt neu lle rydych yn dysgu.
I gael mynediad at dudalen Diweddariadau, ewch i'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen. Bydd dewislen Fy Blackboard yn agor. Dewiswch eicon Diweddariadau.
Os gofynnir i chi, bydd rhaid i chi dderbyn y telerau defnydd a darparu cyfeiriad e-bost cyn i chi allu defnyddio'r offeryn hwn am y tro cyntaf.
Tudalen Diweddariadau
- Porwch yr holl hysbysiadau.
- Edrychwch ar hysbysiadau yn ôl cwrs.
- Agor dewislen hysbysiad i weithredu.
- Dewiswch y mathau o hysbysiadau rydych am eu dangos. Os byddwch yn cuddio hysbysiad o'r dudalen Diweddariadau, nid yw'r hysbysiad yn cael ei dynnu o'ch gosodiadau hysbysiadau ar y system yn gyffredinol.
Am faint mae hysbysiadau'n para?
Mae pyst yn aros yn Fy Blackboard am saith niwrnod. Mae graddau yn aros yn Fy Blackboard am y cyfnod y mae gennych fynediad at eich cyrsiau. Gyda diweddariadau, eich sefydliad sy'n rheoli am faint mae hysbysiadau'n aros yn Fy Blackboard. Gallwch ddiystyru diweddariad ar ôl i chi edrych arno.