Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae aseiniadau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Cyn aseinio gwaith grŵp
Nid ydych eisiau i fyfyrwyr weld gweithgareddau grŵp fel gwaith prysur. Os nad yw gwaith grŵp yn gwella'ch amcanion dysgu ac yn darparu gwerth, ystyriwch dechnegau addysgu amgen. Dylech ddefnyddio gwaith grŵp dim ond ar gyfer prosiectau na all myfyrwyr unigol eu gwneud cystal ar eu pennau eu hunain a gorffen yn y cyfnod amser penodedig.
Mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr yn gweithio'n galetach pan fydd eraill yn dibynnu arnynt. I annog y gyd-ddibyniaeth hon, crëwch aseiniadau grŵp sy'n gofyn bod myfyrwyr yn rhannu'r gwaith er mwyn cwrdd â'r nod, yn cwestiynu a herio syniadau ei gilydd ac yn rhannu adborth ac anogaeth.
Cyn ymgorffori gwaith grŵp yn eich cwrs, ystyriwch y cwestiynau hyn:
- A fydd gwaith grŵp yn ychwanegu at amcanion fy nghwrs?
- Pa ddeunyddiau cyflwyniadol neu wybodaeth adnoddau grŵp allaf eu darparu i helpu myfyrwyr i lwyddo?
- Sut ffurfir y grwpiau?
- A fydd myfyrwyr yn ymwneud â chynllunio'r grwpiau?
- Sut fyddaf yn asesu dysgu myfyrwyr a chynnal atebolrwydd unigol? A fydd angen deilliant grŵp arnaf?
- Sut fyddaf yn ymdrin â phryderon a phroblemau?
Ffynhonnell: "44 Benefits of Collaborative Learning." gdrc.org n.d. Gwe. 3 Ion. 2020.
Creu aseiniadau grŵp
Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn rhyngweithio ac yn cydweithio, gallwch ddefnyddio offeryn grwpiau ac aseiniadau grŵp i feithrin awyrgylch rhyngweithiol ar-lein.
Gallwch greu aseiniad grŵp a’i ryddhau i un grŵp neu ragor yn eich cwrs. Mae pob grŵp yn cyflwyno un aseiniad cydweithrediadol ac mae pob aelod yn derbyn yr un radd. Gallwch greu aseiniad unigol a'i neilltuo i bob grŵp, neu greu sawl aseiniad unigryw a'u neilltuo i grwpiau unigol. Chi ac aelodau grŵp yw'r unig rai â mynediad at yr aseiniad.
Cyn ichi ddechrau arni
- Rhaid bod grŵp cwrs yn bodoli cyn i chi greu aseiniadau grŵp ar ei gyfer.
- Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru mewn mwy nag un grŵp sy'n derbyn yr un aseiniad yn gallu cyflwyno mwy nag un ymgais ar gyfer yr aseiniad hwn. Efallai bydd angen i chi ddarparu gradd gyffredinol ar gyfer yr aseiniad i'r myfyrwyr hynny.
- Ni fydd gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar yr adeg o gyflwyno aseiniad grŵp fynediad at y cyflwyniad hwnnw. Yr unig beth bydd y myfyrwyr hyn yn gallu gweld yw bod y cyflwyniad wedi digwydd.
- Ni fydd myfyrwyr rydych yn eu tynnu o grŵp yn gallu gweld yr aseiniadau grŵp. Gallant gael mynediad at eu cyflwyniadau o Fy Ngraddau.
- Os byddwch yn golygu'r aseiniad rhwng y dyddiad creu a'r dyddiad dyledus, mae'n bosib y bydd y grŵp cyfan yn colli unrhyw waith sydd eisoes ar y gweill.
- Os byddwch yn dileu grŵp o'r aseiniad ar ôl i fyfyrwyr gychwyn ar ymgais ond cyn iddynt ei gyflwyno, byddant yn colli mynediad at yr aseiniad ac yn colli'u gwaith.
Rydych yn creu aseiniad grŵp yn yr un modd ag yr ydych yn creu aseiniadau i fyfyrwyr eu cwblhau'n unigol. Pan fyddwch yn creu aseiniad grŵp, crëir eitem yn y Ganolfan Raddau yn awtomatig. Gallwch greu aseiniadau grŵp mewn ardaloedd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers a ffolderi. Bydd yr aseiniad grŵp yn ymddangos yn ardal y cwrs lle byddwch yn ei greu ac ar hafan y grŵp.
Ar y dudalen Creu Aseiniad, ehangwch adran Manylion Cyflwyno i gyflwyno aseiniad i'r grwpiau.
- Dewiswch Cyflwyniad Grŵp.
- Ym mlwch Eitemau i'w Dewis, dewiswch y grŵp neu grwpiau i dderbyn yr aseiniad hwn. Dewiswch y saeth tuag at y dde i symud y detholiad i flwch Eitemau a Ddewiswyd. I ddewis grwpiau lluosog ar unwaith ar gyfrifiadur Windows, pwyswch a dal bysell Shift a dewiswch pob grŵp. I ddewis grwpiau allan o drefn, pwyswch fysell Ctrl a dewiswch bob grŵp. Ar gyfer cyfrifiaduron Mac, pwyswch y fysell Command yn lle’r fysell Ctrl. Defnyddiwch swyddogaeth Dewis y Cwbl os ydych chi eisiau cynnwys pob grŵp.
- Dewiswch nifer yr ymgeisiau. Gallwch ganiatáu mwy nag un ymgais ar aseiniad grŵp.