Beth yw’r gwahaniaethau rhwng prawf, cronfa ac arolwg?
Caiff profion ac asesiadau eu gwerthuso am radd.
Mae arolygon yn ddienw ac ni chânt eu sgorio. Gallwch wirio bod myfyriwr wedi cwblhau arolwg, a gweld y canlyniadau yn eu cyfanrwydd.
Mae cronfeydd yn grwpiau o gwestiynau y gallwch eu cynnwys mewn profion ac arolygon.
Beth dylwn i ei wybod cyn creu prawf?
Ar ôl i chi adeiladu prawf neu arolwg, rydych yn creu cwestiynau neu ychwanegu cwestiynau cyfredol o brofion, arolygon, a chronfeydd eraill. Ar dudalen Gosodiadau Cwestiwn, gallwch addasu’r gosodiadau cwestiwn.
Rhagor ynghylch gosodiadau cwestiynau
Yna, byddwch yn dewis yr opsiynau ac yn lleoli’r prawf neu’r arolwg mewn maes cynnwys neu ffolder. Pan fyddwch yn ychwanegu prawf neu arolwg at faes cynnwys, fe'i "defnyddir."
Rhagor ynghylch dewisiadau profion ac arolygon
Rydych yn ychwanegu cwestiynau at brofion ac arolygon yn yr un modd, ond allwch ddim ychwanegu pwyntiau at gwestiynau arolwg oherwydd ni chânt eu marcio.
Rhagor am ganlyniadau prawf ac arolwg
Sut mae creu prawf?
Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Profion, Arolygon a Chronfeydd > Profion neu Arolygon
- Yn y dudalen Profion, dewiswch Adeiladu Prawf.
- Yn y dudalen Manylion Prawf , teipiwch enw. Neu, rhowch ddisgrifiad a chyfarwyddiadau.
- Dewiswch Cyflwyno.
- Yn Cynfas y Prawf ar ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch fath o gwestiwn.
- Ar y tudalen Creu/Golygu, rhowch y wybodaeth angenrheidiol i greu cwestiwn.
- Dewiswch Cyflwyno.
- Pa fyddwch wedi ychwanegu’r holl gwestiynau sydd eu hangen arnoch, dewiswch Iawn. Ychwanegir y prawf at y rhestr ar dudalen Profion ac mae’n barod i’r myfyrwyr.
Mwy o wybodaeth am ychwanegu ac ad-drefnu cwestiynau