Sut ydw i’n sicrhau bod fy nghwrs ar gael i fyfyrwyr?
Gosodwch argaeledd eich cwrs: Panel Rheoli > Addasu > Priodweddau > Gosod Argaeledd
- Yn adran Gosod Argaeledd, dewiswch Ie neu Na.
- Os oes angen, wrth gyhoeddi cwrs, gallwch ddewis un o’r opsiynau yn adran Gosod Hyd y Cwrs:
- Parhaus (diofyn), os ydych chi am i’r cwrs fod ar gael heb ddyddiad dechrau na dyddiad dod i ben
- Dewis Dyddiadau i ddewis dyddiad dechrau a/neu ddyddiad dod i ben
- Diwrnodau o'r Dyddiad Ymrestru i bennu cyfnod penodol o amser sydd gan ddefnyddwyr i fynd at y cwrs ar ôl iddynt ymrestru. Yr opsiwn hwn sydd orau ar gyfer cyrsiau lle mae defnyddwyr yn gweithio ar eu cyflymder eu hunain.
- Dewiswch Cyflwyno.
Gallwch reoli pan fydd eich cwrs yn breifat—neu heb fod ar gael—i'ch myfyrwyr.
Mwy o wybodaeth am argaeledd cyrsiau
Sut mae creu cynnwys?
Barod i ychwanegu cynnwys at eich cwrs? Rydych yn creu darnau unigol o gynnwys mewn cynhwysyddion cynnwys: ardaloedd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers, a ffolderi. Mewn cynhwysydd cynnwys, rydych yn creu cynnwys o ddewislenni ar gyfer eitemau cynnwys, profion, aseiniadau a dolenni at offer.
Mwy o wybodaeth am greu cynnwys cwrs
Alla i guddio cynnwys cwrs rhag myfyrwyr hyd nes fy mod yn barod i’w ddangos iddynt?
Ydych. Wrth greu cynnwys, gallwch bennu’i argaeledd. Gallwch guddio cynnwys rhag myfyrwyr hyd nes eich bod yn barod iddynt ei weld. Hefyd, gallwch gyfyngu ar beth all y myfyrwyr ei weld yn ôl dyddiad, amser, defnyddwyr unigol, grwpiau cwrs, a pherfformiad myfyrwyr ar eitemau sy’n cael eu marcio.
Pa fathau o gynnwys y gallaf eu hychwanegu?
Mae rhai dewisiadau yn dibynnu ar osodiadau gweinyddol eich sefydliad, ond fel arfer gallwch ychwanegu ffeiliau, ffeiliau sain, fideos, meysydd llafur, dolenni a ffolderi.
Rhagor am fathau o gynnwys cwrs
Sut ydw i'n gwneud cynnwys fy nghwrs yn fwy hygyrch?
Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.
Mae Ally yn sganio cynnwys eich cyrsiau'n awtomatig ac yn cwblhau camau i wneud ffeiliau'n fwy hygyrch.
Beth yw pecynnau iaith?
Mae pecynnau iaith yn sicrhau bod Blackboard Learn yn cydweddu ag iaith a normau cymdeithasol cynulleidfaoedd gwahanol. Diffinnir pecynnau iaith ar lefel y system, y cwrs neu’r sefydliad, a’r defnyddiwr.
Tair lefel o becynnau iaith
Lefel y system
Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae’r iaith yn ymddangos os na ddewisir pecyn iaith arall ar lefel y cwrs neu’r defnyddiwr.
Lefel y cwrs
Mewn amgylchedd Gwreiddiol, gallwch osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, er mwyn i bob defnyddiwr ar gwrs weld yr un pecyn iaith. Er enghraifft, os ydych yn addysgu dosbarth Sbaeneg, efallai byddwch eisiau dewis Sbaeneg fel yr iaith a ddangosir ar lefel y cwrs.
Lefel y defnyddiwr
Caiff unigolion ddewis becyn iaith, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt eisoes.
Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.
Sut mae gosod pecyn iaith?
- Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Priodweddau.
- Ar dudalen Priodweddau dewiswch iaith o’r rhestr.
- Dewiswch Gorfodi'r Pecyn Iaith fel bod y cwrs bob tro yn ymddangos yn yr iaith honno.
- Dewiswch Cyflwyno.
Os na ddewiswch becyn iaith ar gyfer cwrs, bydd y cwrs yn ymddangos yn newis iaith y defnyddiwr. Neu, os nad yw’r defnyddiwr wedi dewis pecyn iaith, bydd iaith ddiofyn y system yn cael ei defnyddio.
Pam nad yw newid y pecyn iaith yn effeithio ar bob maes cwrs?
Fel arfer, bydd y Panel Rheoli yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer cwrs, ac nid yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr. Bydd rhai rhannau o gwrs yn ymddangos yn iaith ddiofyn y system neu yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr, yn hytrach nag yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs cyfan. Ni fydd y tudalennau hyn yn ymddangos yn y pecyn iaith ar gyfer y cwrs a ddewiswyd:
- Panel Rheoli > Gwybodaeth Cwrs > Golygu Eitem, Copïo Eitem, Ychwanegu Eitem, Dileu Eitem
- Panel Rheoli > Copïo Ffeiliau i'r Casgliad o Gynnwys
- Panel Rheoli > Bwrdd Trafod > Ychwanegu Fforwm
- Panel Rheoli > Cyhoeddiadau > Derbynneb cadarnhau
Pan fyddwch yn defnyddio iaith o’r dde i'r chwith, ni newidir cyfeiriad rhifau Saesneg byth. Er enghraifft, bydd rhywbeth fel A58B265 yn aros yr un peth yn ieithoedd o'r chwith i'r dde ac o'r dde i'r chwith. Ni fydd dyddiadau, slaesau na rheolyddion cyfryngau yn newid cyfeiriau, ond bydd bariau sgrolio a chyfeiriolion yn newid cyfeiriau neu leoliad.
Pa un yw’n galendr Hijri neu Gregori, os ysgrifennir y calendr yn Saesneg gyda rhifau Saesneg, bydd y calendr yn arddangos o'r chwith i'r dde. Fodd bynnag, os yw’r calendr yn Arabeg, mae’r calendr yn newid cyfeiriad ac yn cael ei ddangos o'r dde i'r chwith.