Ydych am wybod beth sy’n achosi trafferth i’ch myfyrwyr?
Gweld Cwestiynau Myfyrwyr Am Aseiniadau. Wedyn, defnyddiwch swyddogaeth yn ôl eich porwr i ddychwelyd i'r pwnc hwn.
Sut mae creu aseiniadau?
Gallwch greu aseiniadau mewn ardaloedd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers a ffolderi.
- O'r ddewislen Asesiadau, dewiswchAseiniad a darparwch yr enw, y cyfarwyddiadau a’r ffeiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun ac ychwanegu ffeiliau. Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau yn yr adran Ffeiliau Aseiniad.
- Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Caiff y ffeil ei chadw yn ffolder lefel uchaf ystorfa ffeiliau eich cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. Gallwch atodi ffeil o'r gronfa ffeiliau.
-NEU-
Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw'r porwr yn caniatáu i chi gyflwyno'ch aseiniad ar ôl i chi uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch ag atodi yn rhes y ffolder i'w dynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.
Ni fyddwch yn gallu llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.
Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.
- Os oes angen, dewiswch Dyddiad Cyflwyno. Bydd aseiniadau sydd â dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn awtomatig yn y calendr.
- Yn adran Graddio, teipiwch y Pwyntiau Posibl ac os oes angen, ychwanegwch gyfarwyddyd. Ehangwch yr adrannau er mwyn gallu dewis, megis graddio dienw, sut y caiff y radd ei dangos a nifer yr ymgeisiau. Gallwch ganiatáu i’r myfyrwyr roi tro arall ar basio aseiniad.
- Sicrhewch fod yr aseiniad ar gael pan fyddwch yn barod i’r myfyrwyr ei weld. Dewiswch yr opsiynau priodol ar gyfer argaeledd, tracio a dyddiadau arddangos. Dydy dyddiadau arddangos ddim yn effeithio ar argaeledd aseiniadau, maent ond yn effeithio ar y dyddiadau y byddant i’w gweld.
- Dewiswch Cyflwyno.
Gallwch greu aseiniad grŵp hefyd a’i ryddhau i un grŵp neu fwy yn eich cwrs.
- Mae pob grŵp yn cyflwyno un aseiniad cydweithrediadol ac mae pob aelod yn derbyn yr un radd.
- Gallwch greu aseiniad unigol a'i neilltuo i bob grŵp, neu greu sawl aseiniad unigryw a'u neilltuo i grwpiau unigol.
Cuddio Colofnau rhag Myfyrwyr
Allaf reoli pan fydd myfyrwyr yn gweld eu graddau ac adborth?
Gallwch guddio colofn o dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr wrth ichi aseinio graddau ac adborth. Pan fyddwch yn cuddio colofn rhag eich myfyrwyr, byddwch yn ei gweld o hyd yng ngrid y Ganolfan Raddau.
- O'r Ganolfan Raddau, ewch i ddewislen colofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth am y Golofn.
- Ar dudalen Golygu Colofn page, ewch i'r adran Opsiynau.
- Dewiswch Na ar gyfer Cynnwys y golofn hon yng nghyfrifiadau'r Ganolfan Raddau a Dangos y golofn hon i fyfyrwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.
Ni fydd y gwaith a raddiwyd yn ymddangos i fyfyrwyr ar eu tudalennau Fy Ngraddau. Os yw myfyriwr yn cyrchu'r gwaith a raddiwyd o fewn ardal cynnwys, nid ymddengys gradd nac adborth.
Yng ngrid y Ganolfan Raddau, ymddengys y golofn gyda'r eicon Nid yw'r Golofn yn Weladwy i Ddefnyddwyr nesaf at deitl y golofn.
Pan fyddwch yn barod i ryddhau graddau ac adborth i fyfyrwyr, ewch i'r dudalen Golygu Colofn a dewiswch Ie ar gyfer y ddau opsiwn.
Sut y bydd myfyrwyr yn gwybod eu bod wedi llwyddo i gyflwyno’u haseiniadau?
Pan fydd y myfyrwyr wedi cyflwyno aseiniad yn llwyddiannus, bydd tudalenAdolygu Hanes Cyflwyniadau yn ymddangos gyda gwybodaeth am yr aseiniadau y maent wedi eu cyflwyno, ynghyd â neges gyda rhif cadarnhau sy’n nodi eu bod wedi llwyddo i gyflwyno gwaith. Gall myfyrwyr gopïo ac arbed y rhif hwn fel prawf o'u cyflwyniadau a thystiolaeth ar gyfer anghydfodau academaidd. Ar gyfer aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog, bydd myfyrwyr yn derbyn rhif gwahanol ar gyfer pob cyflwyniad. Os yw'ch sefydliad wedi galluogi hysbysiadau e-bost ar gyfer derbyniadau cyflwyno, bydd eich myfyrwyr hefyd yn derbyn e-bost gyda rhif cadarnhau a manylion eraill ar gyfer pob cyflwyniad.
Ni fyddwch chi na’ch myfyrwyr yn gallu gweld y rhifau cadarnhau os yw eich sefydliad yn defnyddio Blackboard Learn 9.1 Q4 2014 neu gynharach. Cyflwynwyd hysbysiadau e-bost i fyfyrwyr a gallu myfyrwyr i weld cofnodion o’r gwaith maent wedi ei gyflwyno am y tro cyntaf yn Blackboard Learn 9.1 Q2 2017.
Mae gan weinyddwyr ac hyfforddwyr gofnod adferadwy yn y system bellach, hyd yn oed os bydd ymgais, aseiniad neu fyfyriwr yn cael ei ddileu’n ddiweddarach o’r cwrs. Caiff y cofnodion hyn eu cadw yn y cwrs, a bydd modd cael gafael arnynt ar ôl y broes archifo ac adfer.
Sut mae marcio aseiniadau?
Pan fyddwch yn creu aseiniad, caiff colofn ei chreu'n awtomatig yn y Ganolfan Raddau. O dudalen y Ganolfan Raddau neu Angen Graddio, gallwch weld pwy sydd wedi cyflwyno’i waith a dechrau marcio. Mae myfyrwyr yn cael mynediad at eu graddau o dudalen Fy Ngraddau neu o dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau yr aseiniad.
Gallwch farcio aseiniadau yn y porwr, trwy ddirprwyo neu drwy farcio dienw, neu drwy SafeAssign.
Allaf i olygu, dileu neu ad-drefnu aseiniadau?
Gallwch, wrth gwrs! Defnyddiwch y swyddogaeth llusgo a gollwng neu’r teclyn ad-drefnu y gallwch ei ddefnyddio trwy’r bysellfwrdd. Ewch i’r pwnc help manwl isod am fanylion.
Mwy o wybodaeth am greu a golygu aseiniadau
Sut mae defnyddio SafeAssign?
Mae SafeAssign yn wasanaeth datgelu llên-ladrad y gallwch ei alluogi wrth greu aseiniad.
- Yn y Ganolfan Raddau, lleolwch yr aseiniad sydd â SafeAssign wedi’i alluogi. Pan fydd y myfyrwyr wedi cyflwyno gwaith, byddwch yn gweld yr eicon Angen Graddio. Agorwch ddewislen y gell a dewiswch yr ymgais.
- Ar y dudalen Aseinio Gradd, bydd adran SafeAssign yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Tra bod yr adroddiad yn prosesu, bydd y datganiad hwn yn ymddangos: Adroddiad ar y gweill...
- Pan fydd yr adroddiad yn barod i’w weld, bydd canran yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Ehangwch y ddolen SafeAssign a dewiswch Gweld Originality Report i weld y canlyniadau mewn ffenestr newydd.