Ble ydw i’n marcio gwaith fy myfyrwyr?
Rydych yn cyrchu'r Ganolfan Raddau o'r Panel Rheoli.
Ehangwch adran y Ganolfan Raddau i ddangos y dolenni i'r dudalen Angen Graddio, y Ganolfan Raddau Lawn, a'r gweddau clyfar.
Ar y dudalen Angen Graddio, gallwch ddechrau graddio aseiniadau, aseiniadau grŵp, profion, cofnodion blog a siwrnal, tudalennau wiki wedi'u cadw, a phostiadau trafod.
Mwy o wybodaeth ynghylch marcio
Sut mae aseinio graddau?
Dyfernir sgoriau yn awtomatig yn achos profion ar-lein ac holiaduron nid ydynt yn cynnwys cwestiynau y mae angen ichi eu marcio â llaw. Gallwch olygu graddau â llaw a sgorir yn awtomatig.
Gallwch aseinio graddau yn y Ganolfan Raddau trwy'r dulliau hyn:
- Ewch at yr aseiniadau i’w marcio yn y Ganolfan Raddau neu ar dudalen Angen Graddio.
- Dyfarnwch graddau â llaw yn y Ganolfan Raddau. Gallwch ddyfarnu graddau i rai eitemau, fel blogiau neu drafodaethau, yn y system.
- Uwchlwytho graddau o ffynhonnell allanol, fel ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu gydag atalnod (CSV) neu daenlen Excel. Gallwch weithio oddi ar-lein ac wedyn uwchlwytho graddau i'r Ganolfan Raddau.
Mwy o wybodaeth am farcio tasgau, gan gynnwys marcio ymgeisiau a dileu graddau
Cuddio Colofnau rhag Myfyrwyr
Allaf reoli pan fydd myfyrwyr yn gweld eu graddau ac adborth?
Gallwch guddio colofn o dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr wrth ichi aseinio graddau ac adborth. Pan fyddwch yn cuddio colofn rhag eich myfyrwyr, byddwch yn ei gweld o hyd yng ngrid y Ganolfan Raddau.
- O'r Ganolfan Raddau, ewch i ddewislen colofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth am y Golofn.
- Ar dudalen Golygu Colofn page, ewch i'r adran Opsiynau.
- Dewiswch Na ar gyfer Cynnwys y golofn hon yng nghyfrifiadau'r Ganolfan Raddau a Dangos y golofn hon i fyfyrwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.
Ni fydd y gwaith a raddiwyd yn ymddangos i fyfyrwyr ar eu tudalennau Fy Ngraddau. Os yw myfyriwr yn cyrchu'r gwaith a raddiwyd o fewn ardal cynnwys, nid ymddengys gradd nac adborth.
Yng ngrid y Ganolfan Raddau, ymddengys y golofn gyda'r eicon Nid yw'r Golofn yn Weladwy i Ddefnyddwyr nesaf at deitl y golofn.
Pan fyddwch yn barod i ryddhau graddau ac adborth i fyfyrwyr, ewch i'r dudalen Golygu Colofn a dewiswch Ie ar gyfer y ddau opsiwn.