Mae tudalennau gwe yn defnyddio dolenni i anfon ymwelwyr i gynnwys newydd neu ychwanegol. Gall dolenni fod yn destun a delweddau. Mae dolenni yn offer llywio pwerus ac mae rhaid iddynt gael eu strwythuro’n gywir i gynnig y profiad gorau.
Mae’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yn ofynion penodol wedi’u diffinio i sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bawb. Yn unol â Chanllawiau WCAG 2.2 AA, mae rhaid i ddolenni esbonio diben y ddolen er mwyn i ymwelwyr allu penderfynu a ydynt eisiau ei dilyn. Mae angen i ddolenni gynnwys testun canfyddadwy sy’n rhoi gwybod i'r ymwelwyr am ble y byddant yn mynd ar ôl clicio ar y ddolen.
Beth yw testun canfyddadwy?
Fel arfer, mae gan ddolenni ddau fath o wybodaeth:
- URL: Cyfeiriad gwe lle bydd yr ymwelwyr yn mynd ar ôl dewis dolen
- Testun arddangos: Testun gweladwy sy’n dweud wrth ymwelwyr beth i’w ddisgwyl os byddant yn dewis y ddolen
Ystyriwch y ddolen hon i arferion gorau: Arferion gorau dolenni. Yn y cod ffynhonnell HTML, mae'r ddolen arferion gorau yn edrych fel hyn:<a href="#best-practices">Best practices for links</a>
Pan fydd y testun arddangos, neu'r testun rhwng y tagiau <a> ar goll, ni fydd y ddolen yn cynnwys testun canfyddadwy. Mae testun canfyddadwy yn rhoi gwybod am ddiben y ddolen i'ch ymwelwyr.
Os nad oes gan ddolenni destun canfyddadwy, bydd Ally yn nodi hyn fel problem fach. Trwsiwch broblemau bach i gynnig profiad gwell. Gall dolenni heb destun neu sydd â thestun amhendant ddrysu ymwelwyr wrth lywio a llesteirio pobl ag anableddau.
Sut mae pobl ag anableddau yn defnyddio dolenni dolen i waelod y dudalen
Mae Ally yn eich helpu i adnabod pan nad yw dolenni yn cynnwys testun ac yn esbonio sut i'w trwsio. Mae Ally yn gwneud y gwiriadau hyn:
- A oes testun rhwng tagiau'r hyperddolen <a>?
- A yw’r testun rhwng y tagiau <a> wedi’i guddio?
- A oes gan ddelweddau a ddefnyddir fel dolenni ddisgrifiadau amgen?
Os na fydd y ddolen yn pasio unrhyw un o’r gwiriadau, bydd Ally yn marcio'r ddolen fel problem.
Defnyddiwch Ally i ganfod dolenni sydd â thestun ar goll
Defnyddiwch adroddiad Hygyrchedd Ally i ddarganfod a thrwsio problemau hygyrchedd ar eich safle. Defnyddiwch y ddolen a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad a mewngofnodwch. Agorwch yr adroddiad ac edrychwch ar y rhestr o broblemau yn y tabl Problemau Hygyrchedd.
Mae’r tabl Problemau Hygyrchedd yn y tabiau Trosolwg a Parth. Dechreuwch yn y tab Parth i weld problemau sy’n benodol i barth.
Bydd Ally yn fflagio dolenni heb destun canfyddadwy fel problem fach. Defnyddiwch y tab Bach yn y tabl Problemau Hygyrchedd i weld y rhestr o broblemau bach. Dewiswch y problemau sydd â dolenni heb destun canfyddadwy.
Os ydych yn dechrau yn y tab Trosolwg, dewiswch y broblem ac wedyn y parth sydd â’r broblem.
O’r rhestr o broblemau yn y parth, dewiswch y dangosydd sgôr nesaf at eitem â'r broblem. Bydd y panel adborth i olygyddion cynnwys yn agor.
Agorwch ragolwg o’r dolenni heb destun
Mae panel adborth Ally yn dangos rhagolwg o’r cynnwys yn ogystal ag adborth manwl a chymorth i'ch helpu i drwsio eich problemau hygyrchedd. Defnyddiwch y rhagolwg i weld y dolenni heb destun.
Mae'r rhagolwg yn amlygu ble gallwch ddod o hyd i broblemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau'n dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, ar gyfer problem dolenni heb destun, bydd y rhagolwg yn amlygu pob enghraifft sydd â’r broblem benodol hon.
Offer y rhagolwg
Defnyddiwch offer y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.
- Symudwch trwy’r rhagolwg fesul tudalen.
- Gweld y nifer o weithiau mae problem benodol yn digwydd.
- Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
- Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
- Chwyddo cynnwys y rhagolwg i mewn neu allan.
- Os yw'r broblem mewn dogfen wedi’i hatodi, lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.
Dilynwch gamau dan arweiniad Ally i ychwanegu testun at y ddolen
Mae Ally yn cymryd eich bod yn gwybod hanfodion HTML a sut i ddefnyddio eich System Rheoli Cynnwys (CMS). I ddilyn y camau dan arweiniad, bydd angen i chi wybod sut i olygu tudalen we yng nghod HTML neu god ffynhonnell yn eich CMS.
Wrth ochr y rhagolwg, mae Ally yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi am sut i drwsio'r broblem. Mae Ally yn trefnu’r adborth mewn coeden benderfyniad. Darllenwch y cyfarwyddiadau ac ymatebwch i'r hysbysiadau. Dysgu beth yw'r broblem, pam mae'n bwysig, a sut i'w chywiro'n briodol.
Dewiswch Sut i drwsio testun dolenni i ddilyn y camau dan arweiniad.
Ffyrdd o ychwanegu testun at ddolenni
Mae mwy nag un ffordd o drwsio testun dolenni ar eich tudalennau gwe.
- HTML: Mae camau dan arweiniad Ally yn eich arwain trwy sut i ganfod a thrwsio testun dolenni yn HTML. Yn syml, dewch o hyd i'r dudalen we sy’n cynnwys y ddolen. Golygwch y dudalen. Yn y cod HTML, ychwanegwch destun rhwng y tagiau <a>. Cadwch y dudalen.
- Golygydd Testun Cyfoethog (RTE): Mae gan rai Systemau Rheoli Cynnwys Olygydd Testun Cyfoethog (RTE) a allai ddarparu ffyrdd hawdd o drwsio dolenni. Dewch o hyd i'r ddolen ar y dudalen we. Dewiswch y ddolen a defnyddiwch offer y CMS i ychwanegu testun. Cadwch y dudalen.
Ewch i w3schools i ddysgu rhagor am HTML a CSS
Arferion gorau dolenni
- Dylai testun dolenni fod yn ystyrlon. Dywedwch wrth eich ymwelwyr ble y byddant yn mynd. Disgrifiwch yr hyn y gall y defnyddiwr ei ddisgwyl ar ôl dewis y ddolen.
- Osgowch ddefnyddio testun fel “cliciwch yma” neu “gweld mwy”. Nid yw'r ymadroddion hyn yn dweud wrth ymwelwyr beth i’w ddisgwyl os byddant yn dewis y ddolen. Mae gan rai technoleg gynorthwyol offeryn sy’n rhestru’r dolenni ar y dudalen yn unig. Ni fydd gan ymadroddion fel hyn ystyr os ydynt yn cael eu dangos y tu allan o gyd-destun y dudalen mewn rhestr.
- Osgowch ddefnyddio URLau fel testun gweladwy dolenni. Efallai na fydd URL yn ddisgrifiadol. Mae darllenwyr sgrin hefyd yn darllen pob llythyr URL yn unigol, a allai lesteirio’r ymwelwyr hynny.
- Dylai testun dolenni fod yn unigryw. Dylai pob dolen fod yn unigryw o’i chymharu â'r dolenni eraill ar y dudalen. Gall ailddefnyddio testun dolenni ddrysu ymwelwyr y tu allan o gyd-destun y dudalen ac wedi’i ddangos mewn offer rhestru dolenni.
- Dylai dolenni fod yn amlwg. Dylai fod yn glir mai dolen yw hi. Os nad ydych yn hoffi arddull y ddolen, efallai byddwch am ddiweddaru'r templed.
Gwahaniaethwch rhwng dolenni a'r testun o'u cwmpas mewn modd nad yw'n dibynnu ar liw yn unig. WCAG 2.1 - 1.4.1
Yn aml, diffinnir sut bydd dolenni yn ymddangos yng nghanllaw arddull safle ac maent yn gallu adlewyrchu brandio. Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau, gwiriwch ganllaw arddull eich safle a gofynnwch i weinyddwr y safle.
- Dywedwch wrth ddefnyddwyr a fydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd. Gall agor dolenni mewn ffenestr newydd fod yn ddryslyd. Dywedwch wrth eich defnyddwyr pan rydych yn eu hanfon i ffenestr neu dab newydd.
- Peidiwch â defnyddio delwedd i gynrychioli rhywbeth y gallwch ei greu yn yr HTML. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio delwedd botwm yn lle botwm go iawn. Peidiwch â defnyddio delwedd tabl yn lle tabl a grëwyd yn y cod ffynhonnell HTML.
Sut mae pobl ag anableddau yn defnyddio dolenni
Mae dolenni cywir sy’n cynnwys dolen a thestun dolen ystyrlon yn cynnig profiad gwell i bawb. Mae dolenni a ffurfweddwyd yn gywir yn offer llywio pwerus, ac yn ei gwneud yn glir beth i'w ddisgwyl. Fodd bynnag, mae dolenni cywir yn hanfodol i ymwelwyr â nam ar y golwg.
Gall dolenni â thestun ystyrlon ac unigryw helpu llawer o ddefnyddwyr i lywio'n gyflym.
- Nid oes angen i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin wrando ar y dudalen gyfan. Gallant ddewis gwrando ar a rhyngweithio gyda rhestr o ddolenni yn lle hynny.
- Mae defnyddwyr offer adnabod llais yn rhyngweithio gyda dolenni trwy ddweud y ddolen y maent am ei dewis yn uchel.
Gall dolenni a ffurfweddwyd yn gywir fod yn hawdd eu gweld a’u defnyddio i lawer o ddefnyddwyr.
- Gall defnyddwyr sy’n defnyddio’r bysellfwrdd yn unig, efallai nad oes modd iddynt ddefnyddio llygoden, ddefnyddio eu bysellfwrdd i lywio i elfennau ar y dudalen fel dolenni.
- Efallai na fydd defnyddwyr sy’n ddall i liwiau yn gweld yr amrywiaethau o ran lliw ond gallant weld dolenni wedi’u tanlinellu.