Mae darllen testun hir dwys hir heb amlinelliad neu drefn glir yn gallu bod yn anodd iawn. Mae penawdau yn gallu gwneud darllen a deall cynnwys yn haws oherwydd y strwythur a ddarparwyd.

Mae penawdau gweledol yn fwy amlwg na weddill y cynnwys. Mae’r newid hwn i olwg tudalen yn gwneud mwy na rannu'r dudalen yn weledol, mae hefyd yn helpu darllenwyr i sganio'r dudalen a dod o hyd i beth maent yn chwilio amdano.

Er enghraifft, mae'r penawdau ar y dudalen help hon yn rhoi gwybod i chi yn sydyn ble gallwch ddod o hyd i'r ffyrdd o ddefnyddio lefelau penawdau ac arferion gorau ar gyfer strwythuro penawdau.

Pan grëir penawdau yn gywir, gallant helpu pobl i lywio'r dudalen yn haws. Gall porwyr, ategion, a darllenwyr sgrin ddefnyddio penawdau i fynd yn uniongyrchol i bwnc. Er enghraifft, mae defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gallu gwrando ar restr penawdau, dewis neidio’n uniongyrchol i’r pennawd maent eisiau mynd iddo, a dechrau darllen o’r man hwnnw.

Strwythur penawdau

Dylai penawdau ddilyn trefn ddisgynnol a dilyniannol, ac ni ddylent neidio lefel. Defnyddir rhifau i gynrychioli lefel y pennawd, gydag 1 fel y lefel uchaf a 6 fel yr is-adran isaf.

Cyfyngir y rhan fwyaf o dechnolegau, gan gynnwys darllenwyr sgrin, i chwe lefel o benawdau. Mae cael mwy na chwe lefel yn gallu golygu nad yw penawdau yn cael eu darllen, felly ni ddylech wneud hynny.

Yn aml, mae lefel pennawd 1 yn cynrychioli teitl y dudalen we neu'r ddogfen. Gallwch hefyd feddwl am y lefel hwn fel teitl llyfr. Os yw’r llyfr yn cynnwys tair act, byddwch yn defnyddio lefel pennawd 2 ar gyfer penawdau'r actau. Wedyn, byddwch yn defnyddio pennawd 3 ar gyfer penawdau penodau ym mhob act ac ati.

Os nad yw'r penawdau mewn trefn resymegol, bydd Ally yn nodi hyn fel problem fach. Dylech barhau i drwsio problemau bach i gynnig profiad gwell. 

Mae Ally yn eich helpu i adnabod y penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol ac yn esbonio sut i'w trwsio. Mae Ally yn gwneud y gwiriadau hyn:

  • A oes penawdau yn y dudalen we neu'r ddogfen?
  • A yw lefelau'r penawdau yn dechrau o 1?
  • A oes trefn a hierarchaeth resymegol a chyson? 
  • A yw lefelau'r penawdau yn mynd tu hwnt i lefel pennawd 6?

Os na fydd cynnwys yn pasio unrhyw un o’r gwiriadau, bydd Ally yn marcio'r pennawd fel problem.

Defnyddiwch Ally i ganfod penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol

Defnyddiwch adroddiad hygyrchedd Ally i ddarganfod a thrwsio problemau hygyrchedd ar eich safle. Defnyddiwch y ddolen a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad a mewngofnodwch. Agorwch yr adroddiad ac edrychwch ar y rhestr o broblemau yn y tabl Problemau Hygyrchedd.

Mae’r tabl Problemau Hygyrchedd yn y tabiau Trosolwg a Parth. Dechreuwch yn y tab Parth i weld problemau sy’n benodol i barth.

Os nad yw'r penawdau mewn trefn resymegol, bydd Ally yn nodi hyn fel problem fach. Defnyddiwch y tab Bach yn y tabl Problemau Hygyrchedd i weld y rhestr o broblemau bach. Dewiswch y problemau sydd â phenawdau nad ydynt mewn trefn resymegol.

Os ydych yn dechrau yn y tab Trosolwg, dewiswch y broblem ac wedyn y parth sydd â’r broblem. Gall problemau penawdau ddechrau gyda Dogfen neu HTML yn y rhestr.

O’r rhestr o broblemau yn y parth, dewiswch y dangosydd sgôr nesaf at eitem â'r broblem. Bydd y panel adborth i olygyddion cynnwys yn agor.

Gweld rhagolwg o’r penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol

Mae panel adborth Ally yn dangos rhagolwg o’r cynnwys yn ogystal ag adborth manwl a chymorth i'ch helpu i drwsio eich problemau hygyrchedd. Defnyddiwch y rhagolwg i weld y penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol.

Mae'r rhagolwg yn amlygu ble gallwch ganfod problemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau'n dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, ar gyfer problem penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol, bydd y rhagolwg yn amlygu pob pennawd sydd â’r broblem benodol hon.

Offer y rhagolwg

Defnyddiwch offer y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.

  • Symudwch trwy’r rhagolwg fesul tudalen.
  • Gweld y nifer o weithiau mae problem benodol yn digwydd.
  • Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
  • Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
  • Chwyddo cynnwys y rhagolwg i mewn neu allan.
  • Os yw'r broblem mewn dogfen wedi’i hatodi, lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.

Dilynwch gamau dan arweiniad Ally i drwsio lefelau penawdau

Mae Ally yn cymryd eich bod yn gwybod hanfodion HTML a sut i ddefnyddio eich System Rheoli Cynnwys (CMS). I ddilyn y camau dan arweiniad, bydd angen i chi wybod sut i olygu tudalen we yng nghod HTML neu god ffynhonnell yn eich CMS.

Wrth ochr y rhagolwg, mae Ally yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi am sut i drwsio'r broblem. Mae Ally yn trefnu’r adborth mewn coeden benderfyniad. Yr unig beth mae angen i chi ei wneud yw darllen y cyfarwyddiadau ac ymateb i'r hysbysiadau. Dysgu beth yw'r broblem, pam mae'n bwysig, a sut i'w chywiro'n briodol.

Dewiswch Sut i drwsio trefn penawdau i ddilyn y camau dan arweiniad.

Ffyrdd o ddefnyddio lefelau penawdau ar dudalennau gwe

Mae mwy nag un ffordd o ddefnyddio lefelau penawdau ar eich tudalennau gwe.

  • HTML: Mae camau dan arweiniad Ally yn eich arwain trwy sut i ganfod a golygu lefelau penawdau yn HTML. Yn syml, dewch o hyd i'r dudalen we sy’n cynnwys y pennawd. Golygwch y dudalen. Yn y cod HTML, diweddarwch dag y pennawd i'r lefel cywir. Cadwch y dudalen.
  • Golygydd Testun Cyfoethog (RTE): Mae gan rai Systemau Rheoli Cynnwys Olygydd Testun Cyfoethog (RTE) a allai ddarparu ffyrdd hawdd ei ddefnyddio o ddefnyddio penawdau. Dewch o hyd i'r pennawd ar y dudalen we. Dewiswch y pennawd a defnyddiwch offer y System Rheoli Cynnwys i ddefnyddio lefel pennawd newydd. Cadwch y dudalen.

Ewch i w3schools i ddysgu rhagor am HTML a CSS

Pam nad ydwyf yn gweld y lefel pennawd rydwyf am ei ddewis fel opsiwn?

Nid yw Ally yn rheoli’r lefelau penawdau sydd ar gael yn eich System Rheoli Cynnwys. Mae Ally yn chwilio am drefn penawdau resymegol yn seiliedig ar y lefelau penawdau a ddefnyddir.

Mae cyfyngu nifer y lefelau penawdau i chwech yn arfer da. Ond, mae’n bosibl na fyddwch yn gweld pob un o'r chwe lefel yn eich golygydd cynnwys.

Gall nifer y lefelau penawdau gael ei ddiffinio mewn canllaw arddull gwefan a bod yn rhan o dempled. Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau, gwiriwch ganllaw arddull eich gwefan.

Mewn rhai achosion, defnyddir lefelau penawdau uwch fel rhan o'r System Rheoli Cynnwys. Er enghraifft, mae teitl y dudalen help hon yw lefel pennawd 1. Gan fod y teitl yn defnyddio lefel pennawd 1, mae lefelau’r penawdau yn y golygydd yn ddechrau o lefel 2.

Defnyddiwch y lefelau penawdau sydd ar gael i chi i greu trefn penawdau resymegol ar y dudalen.

Arferion gorau strwythuro penawdau

Peidiwch â defnyddio maint y ffont na lliw'r ffont i amlygu penawdau yn y cynnwys. Defnyddiwch opsiynau lefelau penawdau yn eich offeryn golygu.

Dewiswch “Pennawd 1” ar gyfer y lefel pennawd uchaf. Dewiswch "Pennawd 2" ar gyfer penawdau adrannau, "Pennawd 3" ar gyfer penawdau is-adrannau, ac ati. Defnyddir "Normal" ar gyfer paragraffau.

Os ydych yn diweddaru dogfen, defnyddiwch yr arddulliau penawdau sy'n gynwysedig yn eich meddalwedd prosesu geiriau.

Arddulliau penawdau

Peidiwch â defnyddio maint y ffont na lliw'r ffont i amlygu penawdau yn y cynnwys. Mae’n bwysig defnyddio’r lefelau penawdau a ddarparwyd yn eich offeryn golygu cynnwys neu'r tagiau penawdau cywir <h1>. Mae’r lefelau a thagiau penawdau a ddarparwyd yn hanfodol er mwyn i ddefnyddwyr darllenyddion sgrin allu llywio'r dudalen.

Os nad ydych yn hoffi arddull y pennawd, efallai byddwch am ddiweddaru'r templed.

Yn aml, diffinnir arddulliau penawdau yng nghanllaw arddull gwefan ac mae’n gallu adlewyrchu brandio. Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau, gwiriwch ganllaw arddull eich gwefan.