Dylai fod modd i bawb ddarllen eich testun

Mae'n bwysig bod modd gweld y testun a'i bod yn ddarllenadwy. Os ydych eisiau i’ch ymwelwyr ei ddeall, bydd rhaid iddynt allu ei darllen.

Mae cyferbyniad testun da yn sicrhau y gall pawb weld y testun yn erbyn y cefndir.

Nid yw pawb yn gweld lliwiau yn yr un modd. Mae WCAG wedi diffinio gofynion cyferbyniad penodol yng nghanllawiau WCAG 2.1 AA i sicrhau y gall pawb ddarllen y testun. Dilynwch y gofynion hynny ac ein harferion da cyferbyniad i drwsio neu atal problemau cyferbyniad.

Mae Ally yn dilyn y gofynion cyferbyniad i ddilysu bod ddigon o gyferbyniad rhwng lliw’r testun a lliw’r cefndir. Mae cyferbyniad testun gwael yn broblem fawr. Mae problemau mawr yn effeithio ar hygyrchedd, ac er nad ydynt yn ddifrifol, mae angen sylw arnynt.

Defnyddiwch Ally i ganfod testun â chyferbyniad gwael

Defnyddiwch adroddiad hygyrchedd Ally i ddarganfod a thrwsio problemau hygyrchedd ar eich safle. Defnyddiwch y ddolen a ddarparwyd ar gyfer yr adroddiad a mewngofnodwch. Agorwch yr adroddiad ac edrychwch ar y rhestr o broblemau yn y tabl Problemau Hygyrchedd.

Mae’r tabl Problemau Hygyrchedd yn y tabiau Trosolwg a Parth. Dechreuwch yn y tab Parth i weld problemau sy’n benodol i barth. 

Mae cael testun â chyferbyniad gwael yn broblem fawr. Defnyddiwch y tab Mawr yn y tabl Problemau Hygyrchedd i weld y rhestr o broblemau mawr. Dewiswch y problemau sydd â phroblemau cyferbyniad.

Os ydych yn dechrau yn y tab Trosolwg, dewiswch y broblem ac wedyn y parth sydd â’r broblem.

Gall problemau cyferbyniad ddechrau gyda Dogfen neu HTML yn y rhestr.

O’r rhestr o broblemau cyferbyniad yn y parth, dewiswch y dangosydd sgôr nesaf at eitem â'r broblem. Bydd y panel adborth i olygyddion cynnwys yn agor.

Cael rhagolwg o’r testun â chyferbyniad gwael

Mae panel adborth Ally yn dangos rhagolwg o’r cynnwys yn ogystal ag adborth manwl a chymorth i'ch helpu i drwsio eich problemau hygyrchedd. Defnyddiwch y rhagolwg i weld y testun sydd â chyferbyniad gwael.

Mae'r rhagolwg yn amlygu ble gallwch ganfod problemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau'n dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, os oes gan eich testun gyferbyniad gwael, bydd yr amlygiadau yn dangos lle mae'r broblem benodol hon yn digwydd.

Offer y rhagolwg

Defnyddiwch offer y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.

  • Symudwch trwy’r rhagolwg fesul tudalen.
  • Gweld y nifer o weithiau mae problem benodol yn digwydd.
  • Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
  • Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
  • Chwyddo cynnwys y rhagolwg i mewn neu allan.
  • Os yw'r broblem mewn dogfen wedi’i hatodi, lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.

Dilynwch gamau dan arweiniad Ally i drwsio cyferbyniad gwael

Mae Ally yn cymryd eich bod yn gwybod hanfodion HTML a sut i ddefnyddio eich System Rheoli Cynnwys (CMS). I ddilyn y camau dan arweiniad, bydd angen i chi wybod sut i olygu tudalen we yng nghod HTML neu god ffynhonnell yn eich CMS.

Mae Ally hefyd yn cymryd bod gennych ganiatâd i ddiweddaru lliw ar eich gwefan. Yn aml, diffinnir lliw yng nghanllaw arddull gwefan ac mae’n gallu adlewyrchu brandio. Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau, gwiriwch ganllaw arddull eich gwefan. 

Wrth ochr y rhagolwg, mae Ally yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi am sut i drwsio'r broblem. Mae Ally yn trefnu’r adborth mewn coeden benderfyniad. Yr unig beth mae angen i chi ei wneud yw darllen y cyfarwyddiadau ac ymateb i'r hysbysiadau. Dysgu beth yw'r broblem, pam mae'n bwysig, a sut i'w chywiro'n briodol.

Dewiswch Sut i drwsio cyferbyniad i ddilyn y camau dan arweiniad.

Ffyrdd o drwsio problemau cyferbyniad

Pan mae gan destun gyferbyniad gwael, mae’n golygu nad oes digon o gyferbyniad lliw rhwng y testun a'r cefndir.

Mae camau dan arweiniad Ally yn esbonio sut i newid lliw’r testun. Gallwch hefyd newid lliw’r cefndir. 

Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau, gwiriwch ganllaw arddull eich safle. Yn aml, mae lliw yn gysylltiedig â brandio a dylech fod yn ofalus os ydych yn ei newid.

Mae camau dan arweiniad Ally hefyd yn esbonio sut i wneud y diweddariadau yng nghod ffynhonnell HTML tudalennau gwe unigol. Gall Systemau Rheoli Cynnwys amrywio. Mae gan rai CMS Olygydd Testun Cyfoethog (RTE) a allai ddarparu ffyrdd hawdd ei ddefnyddio i newid arddull testun. Gallwch ddefnyddio RTEs i ddewis yr arddull rhagosodedig ar gyfer penawdau, lliwiau, ffontiau, delweddau ac ati. Fodd bynnag, nid yw pob CMS yn darparu RTE a bydd rhaid gwneud newidiadau yn y cod ffynhonnell â HTML. Weithiau, bydd HTML ac RTE ar gael.

Ar gyfer problemau cyferbyniad cylchol, efallai byddwch am ddiweddaru’r templed yn hytrach na gwneud newidiadau unigol. Mae angen cael gwybodaeth benodol am HTML a CSS i ddiweddaru templedi ac efallai bydd yn dibynnu ar frand eich gwefan. 

Ewch i w3schools i ddysgu rhagor am HTML a CSS

HEX Lliw neu RGB

Mae HEX ac RGB yn ffyrdd gwahanol y gallwch eu defnyddio i ddiffinio lliw.

  • Mae RGB yn diffinio lliw yn ôl cymaint o goch (R), gwyrdd (G) a glas (B) a ddefnyddir. Er enghraifft, gellir diffinio arlliw coch fel RGB (253, 2, 2).
  • Mae HEX yn fformat hecsadegol sy’n diffinio lliw yn ôl gwerthoedd coch, gwyrdd a glas mewn cyfuniad chwe llythyren a rhif. Mae hecsadegolion yn dechrau gyda rhif neu hashnod (#). Er enghraifft, byddwn yn diffinio’r un arlliw coch fel #fd0202.

Y fformat hecsadegol yw’r ffordd fwyaf cyffredin o ddiffinio lliwiau ar dudalennau gwe.

Arferion gorau gyda chyferbyniad testun

Mae nifer o addasiadau syml y gallwch eu gwneud i wella darllenadwyedd testun.

  • Defnyddiwch ffontiau gyda llythrennau llydan.
  • Defnyddiwch faint ffont o 12px ar y lleiaf. Os ydych yn defnyddio ffont gyda strociau llythrennau tenau, defnyddiwch 16px ar y lleiaf.
  • Defnyddiwch ffontiau "tenau" ar gefndiroedd tywyll yn unig.
  • Defnyddiwch destun golau ar gefndiroedd tywyll.
  • Defnyddiwch destun tywyll ar gefndir golau.
  • Osgowch y cyfuniadau lliw canlynol:
    • Gwyrdd a choch
    • Gwyrdd a brown
    • Glas a phorffor
    • Gwyrdd a glas
    • Gwyrdd golau a melyn
    • Glas a llwyd
    • Gwyrdd a llwyd
    • Gwyrdd a du

Ddim yn siŵr os oes digon o gyferbyniad yn eich testun?  Defnyddiwch Colour Contrast Analyser gan The Paciello Group i wirio'ch cynnwys.


Pam fod cyferbyniad testun yn bwysig?

Gall fod yn anodd darllen testun cyferbyniad isel mewn nifer o sefyllfaoedd.

  • Pan gaiff ei dangos yn y dosbarth
  • Ar gyfer myfyrwyr gyda dallineb lliw
  • Ar ffôn symudol gyda golau llachar neu rhywbeth yn disgleirio ar y sgrin.
  • Ar fonitorau o ansawdd gwael

Mae cyferbyniad isel yn gallu achosi straeon ar y llygaid, ei gwneud yn anoddach darganfod a sganio cynnwys, ac yn achosi rhwystredigaeth.

Mae cyferbyniad da yn golygu bod pawb yn gallu gweld y testun yn glir a'u bod yn cael profiad gwell wrth ddarllen eich cynnwys.