Sut ydw i'n gweld Blackboard Learn mewn iaith arall?

Gallwch weld Blackboard Learn mewn gwahanol ieithoedd gyda phecynnau iaith. Gallwch osod pecynnau iaith ar dair lefel: system, lefel cwrs, a defnyddiwr.

Lefel y system

Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae'r iaith hon yn ymddangos os nad oes unrhyw becynnau iaith eraill wedi'u gosod ar lefel cwrs neu ddefnyddiwr.

Lefel y cwrs

Mewn rhai achosion, gall hyfforddwyr osod pecyn iaith gwahanol. Os gorfodir y pecyn iaith, mae pawb yn gweld y pecyn iaith hwnnw. Er enghraifft, gallai hyfforddwr Sbaeneg orfodi pob defnyddiwr i weld deunyddiau'r cwrs yn Sbaeneg. Os nad yw'r pecyn iaith wedi'i orfodi, gallwch osod eich pecyn iaith i iaith arall, os yw ar gael. Mae'ch dewis o becyn iaith yn disodli pecyn iaith y cwrs os nad yw pecyn iaith y cwrs wedi'i orfodi.

Lefel y defnyddiwr

Ar lefel y defnyddiwr, gall unigolion ddewis y pecynnau iaith sy'n well ganddynt.


Ydw i'n gallu cael cymorth ar y safle hwn mewn ieithoedd eraill?

Gallwch, mae Blackboard yn cyfieithu'r cymorth ar gyfer rhai cynnyrch i ieithoedd eraill. I newid yr iaith rydych yn gweld, dewiswch iaith arall yn y gornel dde ar dop y dudalen hon.


Sut ydw i'n newid y pecyn iaith?

  1. Dewiswch y saeth nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen ar frig y dudalen.
  2. Dewiswch Gosodiadau.
  3. Dewiswch Gwybodaeth Bersonol.
  4. Dewiswch Newid Gosodiadau Personol.
  5. Dewiswch becyn iaith o'r ddewislen.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Mae gosodiadau dewis iaith yn aros yn yr un lleoliad pa iaith bynnag y byddwch yn ei dewis.

Mae'r offeryn gwirio sillafu'n cefnogi Saesneg (Yr Unol Daleithiau), Saesneg (Prydain Fawr), Ffrangeg a Sbaeneg. Nid yw'r gwirydd sillafu'n gweithio gyda phecynnau iaith eraill. Os nad yw'r offeryn gwirio sillafu'n adnabod y pecyn iaith, bydd yn defnyddio geiriadur a gefnogir.