Sut ydw i'n ychwanegu testun?

Mae'r golygydd yn ymddangos lle bynnag rydych yn gallu ychwanegu a fformatio testun, megis mewn aseiniadau, profion, trafodaethau, blogiau a chyfnodolion.

Content editor example for adding text

Gallwch hefyd ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i atodi ffeiliau, plannu ffeiliau amlgyfrwng, a mewnosod hafaliadau, dolenni a thablau. Mae gennych reolaeth greadigol dros sut mae'ch cynnwys yn ymddangos a'r hyblygrwydd i newid y drefn a'r ymddangosiad.

Y wedd ddiofyn yw WYSIWYG (Yr Hyn A Welwch Yw'r Hyn a Gewch). Gallwch ddewis eicon y Cod ffynhonnell a golygu neu ychwanegu cod, neu’r eicon Mewnosod/golygu sampl o god.

Gallwch hefyd dde-glicio ar destun i gael mynediad at y swyddogaethau a ddefnyddir yn aml. Mae'r ddewislen yn newid yn seiliedig ar leoliad y cyrchwr ac os ydych wedi dethol testun ai beidio.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch Alt + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + OPT + F10. Rhoddir y ffocws ar yr eicon cyntaf ar y chwith yn y rhes gyntaf. Defnyddiwch y bysellau saeth i'r dde a'r chwith i symud ymlaen ac yn ôl. Nid yw'r saethau ar i fyny ac i lawr yn gweithio i lywio i resi gwahanol. Defnyddiwch y bysellau saeth i symud i ddiwedd un rhes ac wedyn i fyny neu i lawr i'r rhes nesaf sydd ar gael.


A allaf atal colli testun?

Wrth ychwanegu testun at eich cwrs, gallwch eich diogelu rhag colli gwaith os ydych yn colli eich cysylltiad â'r rhyngrwyd neu os oes gwall gyda'r feddalwedd. Gallwch deipio mewn golygydd testun syml heb gyswllt, megis Notepad neu TextEdit, a chopïo a gludo'ch gwaith i mewn i'ch cwrs.

Neu, cyn i chi gyflwyno neu gadw, gallwch gopïo’r holl destun rydych chi eisiau ei ychwanegu. Dewiswch y testun a de-gliciwch i'w gopïo. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfuniadau ar y bysellfwrdd i gopïo a gludo:

  • Windows: Ctrl + A i ddethol yr holl destun, Ctrl + C i gopïo, a Ctrl + V i ludo.
  • Mac: Command + A i ddethol yr holl destun, Command + C i gopïo, a Command + V i ludo.

Ydw i'n gallu gludo testun o Microsoft® Word?

Fe gewch y canlyniadau gorau os ydych yn teipio'ch testun yn uniongyrchol yn y golygydd ac yn ei fformatio gyda'r opsiynau sydd ar gael.

Efallai y cewch broblemau os byddwch yn copïo ac yn gludo o ddogfen Word yn uniongyrchol i mewn i'r golygydd. Efallai ni fydd eich fformatio yn ymddangos fel y dymunwch. Efallai ni fyddwch chwaith yn gallu tynnu neu ychwanego fformation ar ôl i chi ei gludo i mewn i'r golygydd. Er mwyn osgoi'r problemau fformatio, gallwch dynnu'r fformat a'i ailfformatio gyda'r swyddogaethau yn y golygydd.

I dynnu fformatio Word ar ôl i chi ludo'r testun yn y golygydd, dewiswch yr holl destun a dewiswch eicon Tynnu'r Fformatio. Dylech ddefnyddio'r opsiwn hwn dim ond os ydych yn deall y bydd yr holl fformatio yn cael ei dynnu. Bydd unrhyw fwledi, rhestrau â rhifau, mewnoliadau, bylchau rhwng llinellau, testun a ganolwyd, a fformatio a maint testun yn cael eu tynnu.

Remove text formatting

Neu, cyn i chi ychwanegu'ch testun yn y golygydd, gallwch ei ludo i mewn i olygydd testun syml all-lein, megis Pad Ysgrifennu neu TextEdit, a chlirio'r fformatio. Wedyn, gallwch ludo'r testun i mewn i'r golygydd a'i fformatio fel y mynnwch.