Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am gamddefnydd gan ddefnyddwyr eraill?

Gallwch adrodd am gamddefnyddio offer gan ddefnyddwyr eraill yn My Blackboard Pan rydych chi'n rhoi gwybod am ddefnyddiwr, mae'ch sefydliad yn adolygu'r cynnwys a'r defnyddiwr, ac yn gweithredu yn seiliedig ar ei bolisïau ar ddiogelwch ar-lein.

Gallwch roi gwybod am ddefnyddwyr eraill yn ddienw. Ni fydd y defnyddwyr eraill byth yn gwybod pwy roddodd wybod amdanynt. 

O broffil neu gerdyn proffil y defnyddiwr, dewiswch y faner i gyflwyno adroddiad. Rhowch y wybodaeth sydd ei hangen a chyflwynwch yr adroddiad.


Offer eraill y gallwch eu defnyddio i fynd i'r afael â chamddefnydd

Efallai byddwch yn gweld cynnwys sy'n sarhaus yn ôl eich safonau chi ond nad sy'n bodloni meini prawf eich sefydliad i dynnu neu flocio defnyddiwr. Mae offer eraill ar gael i'ch helpu i gael mwy o reolaeth dros yr hyn a welwch.

  • Blocio: Gallwch flocio defnyddwyr unigol. Ni fyddwch yn ymddangos yn rhwydwaith y person a flocioch chi bellach a ni fydd y person a flocioch chi yn ymddangos yn eich rhwydwaith. Ni fydd eich diweddariadau proffil yn ymddangos yn ffrwd Fy Blackboard y person a flocioch chi, a ni fydd diweddariadau proffil y person a flocioch chi yn ymddangos yn eich ffrwd Fy Blackboard. Ni fydd y person a flocioch chi'n gallu eich dilyn neu anfon negeseuon uniongyrchol atoch. Os byddwch yn penderfynu blocio pobl, gallwch eu dadflocio yn ddiweddarach.
  • Dad-ddilyn: Gallwch stopio dilyn defnyddiwr yr ydych yn dewis ei dilyn. Ni fydd diweddariadau proffil y person yn ymddangos yn eich ffrwd Fy Blackboard.