Ble mae fy ngraddau?
Mae gennych ddau opsiwn:
- Gallwch weld graddau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ar unwaith.
- Gallwch weld graddau ar gyfer un cwrs ar y tro.
Graddau ar gyfer pob cwrs
Yn y rhestr ble mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Graddau.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.
Trefnir eich graddau yn ôl enw cwrs a thymor yn nhrefn yr wyddor. Gallwch ddewis y rhan fwyaf o eitemau mewn unrhyw gwrs i weld y manylion.
Eisiau cael rhagor o fanylion am gwrs penodol? Dewiswch enw cwrs i fynd i dudalen graddau'r cwrs hwnnw. Mae'n bosib y bydd gennych ddau fath o gwrs.
Graddau ar gyfer un cwrs
I weld y graddau ar gyfer y cwrs rydych ynddo, dewiswch ddolen Fy Ngraddau ar ddewislen y cwrs ar y dudalen Offer.
Eich hyfforddwr sy'n rheoli pa ddolenni sy'n ymddangos yn newislen y cwrs.