Sut ydw i'n cael mynediad at Blackboard?

Rhowch gynnig ar chwilio'r we am enw eich sefydliad + Blackboard.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i safle eich sefydliad, cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.


Sut ydw i’n mewngofnodi?

Mae angen tri darn o wybodaeth ar bawb i gael mynediad at Blackboard:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad gwe yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt neu yr ydych yn eu dysgu.


Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair. Sut ydw i'n ei ailosod?

Defnyddiwch y camau hyn os yw’ch sefydliad yn caniatau i chi ailosod eich cyfrinair:

  1. Llywiwch i'r URL lle rydych yn cael mynediad at Blackboard.
  2. Ar y dudalen mewngofnodi, dewiswch Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? neu Anghofio Cyfrinair?
  3. Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol nes i chi ei newid.

Os na allwch gyrchu’r opsiwn Wedi Anghofio Cyfrinair, cysylltwch â desg gymorth eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.


Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair?

Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin ar gyfer eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.

Mewngofnodwch i newid eich cyfrinair. Cyrchwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Cyfrinair.

Mae rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae rhaid iddynt fod o leiaf un nod o hyd. Gall cyfrineiriau gynnwys uchafswm o 32 nod.

Video: Change Your Password

Watch a video about changing your password

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Change your password shows how to access the user menu and change your password.


Sut ydw i’n allgofnodi?

Dewiswch y botwm allgofnodi yn y gornel dde ar frig y dudalen.


Rwyf wedi mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif arall. Sut ydw i'n allgofnodi o Blackboard Learn?

Mae'n bosibl bod eich sefydliad yn defnyddio dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) i ddilysu defnyddwyr yn Blackboard Learn. Mae'r dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) yn caniatáu i ddefnyddwyr Blackboard Learn fewngofnodi gan ddefnyddio eu henwau defnyddiwr a chyfrineiriau o sefydliad neu raglen arall. Mae'r dull cyflwyno'ch hun unwaith (SSO) yn arbed amser i ddefnyddwyr ac yn darparu integreiddiad hwylus wrth fewngofnodi.

Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch cyfrif Google i fewngofnodi i Learn. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi i Google ar eich porwr cyfredol, bydd Learn yn eich mewngofnodi'n awtomatig hefyd.

Os byddwch yn allgofnodi o Blackboard Learn, bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych eisiau diweddu'r holl sesiynau perthnasol neu barhau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, bydd y system yn diweddu pob sesiwn ymhen dwy funud. Os ydych am barhau â'ch sesiwn, bydd angen i chi fewngofnodi eto er diogelwch.


Rwyf wedi fy nghloi allan o fy nghyfrif. Sut ydw i'n ei ddatgloi?

Er eich diogelwch, efallai bydd y system yn eich cloi allan os ydych wedi rhoi’ch enw defnyddiwr na chyfrinair yn anghywir ormod o weithiau neu os yw'r broses mewngofnodi yn cymryd rhy hir.

Efallai bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif os ydych yn ailosod eich cyfrinair. Dewiswch Wedi Anghofio’ch Cyfrinair? neu Wedi anghofio’ch cyfrinair? a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair a datgloi eich cyfrif.

Os nad yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi aros nes bod y cyfnod cloi yn dod i ben neu cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad i ddatgloi’ch cyfrif. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.