Mae fy rhestr o gyrsiau'n anghywir.

Mae'n flin gennym, ond nid oes gan Blackboard fynediad at safle Blackboard Learn eich ysgol felly ni all eich helpu gyda materion ymrestru penodol. Mae pob ysgol yn ymdrin ag ymrestriadau cyrsiau yn wahanol.

Yn seiliedig ar sut mae Blackboard Learn wedi'i ffurfweddu yn eich ysgol, efallai bydd gennych y gallu i guddio cyrsiau o fodiwl Fy Nghyrsiau. Dewiswch yr eicon gêr ar y top ar y dde. Ar dudalen Personoli: Fy Nghyrsiau, gallwch ddewis pa gyrsiau sy'n ymddangos yn eich modiwl Fy Nghyrsiau a Cyflwyno. Os nad ydych yn gallu gwneud hynny, cysylltwch â desg gymorth gyfrifiadurol eich ysgol am gymorth.


Sut ydw i'n gollwng neu'n ychwanegu cwrs?

Mae'n flin gennym, ond nid oes gan Blackboard fynediad at safle Blackboard Learn eich ysgol felly ni all eich helpu gyda materion ymrestru penodol. Mae pob ysgol yn ymdrin ag ymrestriadau cyrsiau yn wahanol. Cysylltwch â'ch cofrestrydd.


Dydw i'n methu dod o hyd i neu agor cynnwys yn fy nghwrs.

Cysylltwch â'ch hyfforddwr. Mae eich hyfforddwr yn rheoli argaeledd profion, aseiniadau, a chynnwys arall. Weithiau mae'ch hyfforddwr wedi rhoi amodau ar ryddhau cynnwys. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid i chi nodi darlith fel wedi ei hadolygu cyn i chi allu cael mynediad i aseiniad.

Hefyd, efallai y byddwch eisiau gwirio eich bod yn defnyddio porwr gwe a system weithredu a'u cefnogir.


Rydw i angen mwy o amser yn fy nghwrs.

Os oes angen i chi ymestyn eich mynediad at eich cwrs oherwydd i chi gofrestru'n hwyr neu oherwydd salwch, cysylltwch â'ch hyfforddwr. Mae pob ysgol yn ymdrin ag ymrestriadau cyrsiau yn wahanol. Yn seiliedig ar sut mae Blackboard Learn wedi'i ffurfweddu yn eich ysgol, os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu mynediad at gwrs mewn tymor blaenorol, bydd eich cwrs yn ymddangos ar eich tudalen Cyrsiau o dan y tymor perthnasol.


Roeddwn yng nghanol tasg pan wnes i golli popeth.

Yn anffodus, mae'n debygol y collwyd y wybodaeth am byth. Bydd angen i chi ail-greu’r dasg. Os ydych chi'n cael problemau yn ystod prawf a'ch bod yn methu parhau, cysylltwch â'ch hyfforddwr ar unwaith. Nid oes gan Blackboard fynediad at safle Blackboard Learn eich ysgol a ni allant eich helpu gyda'r materion hyn.

Efallai byddwch yn colli gwybodaeth os fydd un o'r sefyllfaoedd hyn yn digwydd:

  • Collwyd cysylltiad y rhyngrwyd.
  • Adnewyddwyd y porwr.
  • Mae eich porwr wedi dod i ben oherwydd segurdod. Mae gan Blackboard osodiad diogelwch sy'n eich allgofnodi os ydych yn segur am gyfnod o amser.

Gall y darnau hyn o gyngor eich helpu i osgoi'r materion hyn yn y dyfodol:

  • Defnyddiwch gyswllt wedi'i wifro, os yn bosib, pan fyddwch yn cymryd prawf. Mae rhai cysylltiadau gwe di-wifr yn llai dibynadwy.
  • Peidiwch ag adnewyddu'r dudalen yn y porwr.
  • Peidiwch â chau ffenestr y porwr.
  • Peidiwch â defnyddio botwm yn ôl y porwr.
  • Os yn bosibl, ysgrifennwch y prawf mewn rhaglen allanol, ac yna gludwch y gwaith i mewn i Blackboard Learn. Mae gweithio heb gysylltu yn gyntaf yn sicrhau y bydd eich gwaith ddim yn cael ei golli pan fyddwch yn gweithio arno yn Blackboard.
  • Os ydych yn gweithio ar aseiniadau, cadwch eich gwaith yn gyson er mwyn osgoi problemau gyda therfyn amser y porwr.

Mae gen i gwestiwn am aseiniad neu SafeAssign.

Os oes angen gwybod arnoch lle y lleolir aseiniad ac ym mha fformat i'w gyflwyno, cysylltwch â'ch hyfforddwr.

Am gyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno aseiniadau yn Blackboard Learn yn ogystal â rhestr o Gwestiynau Cyffredin ychwanegol ar aseiniadau, edrychwch ar Cyflwyno Aseiniadau.

Am gyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno aseiniad gan ddefnyddio SafeAssign, edrychwch ar Cyflwyno gyda SafeAssign.


Beth am Turnitin?

Am gymorth gyda Turnitin, edrychwch ar Ganolfan Gymorth Turnitin.


Beth am Respondus?

Am gymorth gyda Respondus, edrychwch ar dudalen Cefnogaeth Respondus.


Beth yw fformatau amgen ffeiliau?

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gall hyfforddwyr ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Ar ôl i'ch hyfforddwr atodi ffeil at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau