Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae cynllun gwers yn gynhwysydd ar gyfer cynnwys tebyg i ffolder. Mae cynllun gwers yn gallu cynnwys proffil o'r wers, amcanion, ac eitemau cynnwys sydd eu hangen arnoch i gwblhau gwers.

Gall eich hyfforddwr ddarparu gwybodaeth ddewisol am sut caiff eich gwybodaeth ei fesur a'r deunyddiau angenrheidiol. Efallai byddwch hefyd yn gallu gweld hyd y dysgu a'r hyn sydd ei angen i chi ei ddysgu.

Cyrchu cynllun gwers

Fel arfer, gallwch gael mynediad at gynlluniau gwers yn y rhestr o gynnwys, ond gall eich hyfforddwr hefyd eu hychwanegu at fodiwlau dysgu a ffolderi. Os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu disgrifiad, mae'n ymddangos ar ôl teitl y cynllun gwers.

Dewiswch deitl y cynllun gwers i'w agor. Mae'r adran gyntaf yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y wers. Mae'r adran nesaf yn cynnwys yr eitemau cynnwys.

Gall y cynnwys ymddangos ar ffurf rhestr neu wedi'i drefnu yn ddwy golofn. Eich hyfforddwr sy'n dewis os oes eiconau'n ymddangos gyda phob darn o gynnwys.