Sut ydw i'n cael mynediad at gynnwys yn fy nghwrs?
Gall eich hyfforddwyr ychwanegu gwahanol fathau o gynnwys at eich cyrsiau, megis ffeiliau, testun, aseiniadau, delweddau, ffeiliau amlgyfrwng a dolenni. Gallant drefnu cynnwys mewn ffolderi, modiwlau dysgu neu gynlluniau gwersi.
Gallwch gael mynediad at gynnwys cyrsiau o ddolenni ar ddewislen y cwrs. Gelwir dolenni sy'n cadw cynnwys yn ardaloedd cynnwys. Er enghraifft, efallai bydd eich hyfforddwr yn ychwanegu ardal gynnwys sy'n cynnwys gwerth wythnos o ddeunydd cwrs. Gallai Wythnos 1 gynnwys cynnwys megis darlleniadau, aseiniadau, trafodaeth a dolen i wefan. Dewiswch eitem i'w agor.
Mathau o gynnwys
Mae'r tabl hwn yn disgrifio'r mathau o gynnwys y gall eich hyfforddwyr eu hychwanegu at gyrsiau.
Gall pob eitem ymddangos gydag eicon i ddynodi'r math o gynnwys. Efallai bydd eich sefydliad yn dewis set wahanol o eiconau.
Os welwch ddewislen gyda fersiynau ffeil amgen, mae'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally i gynnig gwahanol opsiynau lawrlwytho ar gyfer cynnwys eich cwrs. I ddysgu mwy, cymerwch olwg ar gymorth Ally i fyfyrwyr.
Eicon | Math o Gynnwys | Disgrifiad |
---|---|---|
Eitem | Darn o gynnwys megis ffeil, delwedd neu destun yw eitem. Gall eich hyfforddwr gynnwys disgrifiad ac atodi ffeiliau, delweddau, fideo a sain. | |
Aseiniad | Mae hyfforddwyr yn defnyddio aseiniadau i asesu eich gwybodaeth am gynnwys ac amcanion cwrs. Mae'ch hyfforddwyr yn aml yn neilltuo graddau i aseiniadau. | |
Arolwg | Mae hyfforddwyr yn defnyddio arolygon at ddibenion pleidleisio, gwerthuso, ac i asesu'ch gwybodaeth ar yr adeg benodol honno. Nid yw arolygon yn cael eu graddio. | |
Prawf | Mae hyfforddwyr yn defnyddio profion i asesu eich gwybodaeth am gynnwys ac amcanion cwrs. Mae'ch hyfforddwyr yn aml yn aseinio gwerthoedd pwyntiau i gwestiynau yn y prawf. Caiff eich atebion eu cyflwyno i'w graddio. | |
Ffeil | Bydd ffeil yn ymddangos fel tudalen o fewn eich cwrs neu fel darn o gynnwys ar wahân mewn ffenestr ar wahân yn y porwr. | |
Sain | Efallai bydd ffeil sain yn chwarae pan fyddwch yn agor y dudalen ac yn parhau i chwarae nes i chi ei rewi neu lywio i ffwrdd o'r dudalen. | |
Delwedd | Bydd delweddau'n ymddangos ar y dudalen. | |
Fideo | Bydd fideos yn ymddangos ar y dudalen. Gallwch reoli rhewi, chwarae a lefel y sain. | |
Dolen gwe | Dewiswch y ddolen gwe i fynd i wefan neu adnodd. | |
Modiwl dysgu | Cynhwysydd cynnwys yw modiwl dysgu. Byddwch yn llywio trwy'r cynnwys o dabl gynnwys. Gall eich hyfforddwr ychwanegu pob math o gynnwys, megis testun, delweddau, ffeiliau amlgyfrwng, aseiniadau a phrofion. | |
Cynllun gwers | Cynhwysydd cynnwys yw cynllun gwers. Gall gynllun gwers gynnwys proffiliau gwersi, nodau dysgu, a'r eitemau cynnwys sydd eu hangen arnoch i gwblhau gwers. | |
Maes llafur | Gall maes llafur gynnwys gwybodaeth am y cwrs, nodau, gwybodaeth graddio, manylion cyswllt yr hyfforddwr, dyddiadau a gwybodaeth ar y gwerslyfr. | |
Dolen cwrs | Llwybr byr at eitem, offeryn neu ardal mewn cwrs yw dolen cwrs er mwyn cael mynediad sydyn at ddeunyddiau perthnasol. | |
Ffolder cynnwys | Cynhwysydd cynnwys yw ffolder cynnwys. Gall hyfforddwyr ddefnyddio ffolderi ac is-ffolderi i grwpio deunydd cysylltiedig, megis ffolder "Astudiaethau Achos Wythnos 1" y tu mewn i ffolder "Aseiniadau Wythnos 1". | |
Tudalen wag | Gall hyfforddwyr gynnwys ffeiliau, delweddau a thestun gyda'i gilydd ar un tudalen. Dewiswch y teitl i weld y cynnwys. Nid oes unrhyw ddisgrifiad yn ymddangos. | |
Tudalen y modiwl | Tudalen gynnwys arbenigol yw tudalen modiwl sy'n cyflwyno cynnwys mewn blychau, megis ar Hafan cwrs neu'r dudalen a welwch ar ôl i chi fewngofnodi. Gallwch gadw cofnod o dasgau, profion, aseiniadau a chynnwys newydd sy'n cael ei greu yn eich cwrs. | |
Offeryn | Gall hyfforddwyr ychwanegu llwybr byr i offeryn penodol yn eich cwrs, megis y bwrdd trafod, blogiau neu grwpiau. Neu, os yw dolen Offer yn ymddangos ar ddewislen y cwrs, gallwch gael mynediad at yr offer sydd ar gael o'r dudalen Offer. | |
Llun Flickr® | Gallwch weld lluniau a delweddau o'u gwefan. | |
Cyflwyniad SlideShare | Gallwch weld cyflwyniadau sleidiau, dogfennau neu bortffolios PDF Adobe o wefannau eraill. | |
Fideo YouTube™ | Gallwch wylio fideos ar-lein o'u gwefan. |
Beth os nad ydw i'n gweld rhai o'r cynnwys?
Gall hyfforddwyr gyfyngu pa eitemau cynnwys y gallwch eu gweld yn seiliedig ar amser, dyddiad, defnyddwyr unigol, grwpiau cwrs, a'ch perfformiad ar eitemau graddedig.
Er enghraifft, mae'ch hyfforddwr yn cyfyngu mynediad at yr aseiniad nesaf tan i chi gwblhau prawf. Gall eich hyfforddwr hefyd drefnu bod yr aseiniad ddim yn ymddangos tan i chi gwblhau'r prawf a chael sgôr o 70 y cant o leiaf.
Gofynnwch i'r hyfforddwr am gynnwys rydych yn credu dylai fod yno ond sydd ddim yn ymddangos. Efallai bydd rhaid i chi fodloni meini prawf penodol.
Pan fo eich hyfforddwr yn ychwanegu cynnwys newydd yn y modiwl dysgu ac nid ydych yn ei weld eto, gallwch:
- Dewiswch yr eicon 'Adnewyddu' yng nghornel dde uchaf dewislen y cwrs, neu
- Allgofnodwch, mewngofnodwch a rhowch gynnig arall arni.
Allaf ddangos fy mod wedi adolygu cynnwys?
Mae statws adolygu'n caniatáu i'ch hyfforddwr olrhain rhyngweithio ag eitemau cynnwys penodol. Weithiau, mae statws adolygu'n effeithio ar bryd y gallwch weld cynnwys ychwanegol.
Er enghraifft, mae'ch hyfforddwr yn galluogi statws adolygu ar gyfer erthygl. Mae rhyddhad prawf yn dibynnu arnoch yn adolygu'r erthygl honno. Ar ôl i chi farcio'r erthygl fel wedi'i adolygu, bydd y prawf yn ymddangos.
Mae opsiwn Marcio fel wedi'i Adolygu yn ymddangos gydag eitemau a ddewisir gan eich hyfforddwr. Ar ôl i chi adolygu un o'r eitemau, dewiswch yr opsiwn i'w marcio fel Adolygwyd.
Gallwch newid rhwng Adolygwyd a Marcio fel wedi'i Adolygu os ydych eisiau mynd yn ôl i'r eitem o gynnwys a'i adolygu eto. Mae eich hyfforddwr yn edrych yn unig ar y gosodiad presennol. Os byddwch yn marcio eitem fel Adolygwyd, ac wedyn yn newid i Marcio Adolygwyd, ni fydd eich hyfforddwr yn gweld bod yr eitem wedi'i nodi fel Adolygwyd ar unrhyw adeg.
Ally yn Learn - Myfyriwr
Gweld fformatau amgen ffeil
Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae gan bob myfyriwr alluoedd a dewisiadau dysgu unigryw. Pan fydd eich hyfforddwr yn darparu cynnwys mwy hygyrch, mae pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddyn nhw/ Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gall hyfforddwyr ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.
Ar ôl i'ch hyfforddwr atodi ffeil at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.
Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar fath y ffeil wreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.
Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.