Beth yw'r Casgliad o Gynnwys?
Yn y Casgliad o Gynnwys, gallwch storio, rhannu a chyhoeddi cynnwys digidol mewn ffolderi personol, cwrs a sefydliadol. Pan rydych eisiau golygu cynnwys, rydych yn gwneud hynny unwaith a bydd y diweddariadau'n ymddangos trwy gydol eich gwaith. Gallwch rannu cynnwys trwy roi caniatâd i eraill ac anfon pasys er mwyn iddynt allu cael mynediad ato.
Mae'ch rôl yn pennu pa offer a llifau gwaith y mae gennych fynediad atynt.
Cael mynediad at y Casgliad o Gynnwys
Yn y Casgliad o Gynnwys, gallwch storio, rhannu a chyhoeddi cynnwys digidol mewn ffolderi personol, cwrs a sefydliadol. Pan rydych eisiau golygu cynnwys, rydych yn gwneud hynny unwaith a bydd y diweddariadau'n ymddangos trwy gydol eich gwaith. Gallwch rannu cynnwys trwy roi caniatâd ac anfon pasys.
Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch Offer. Dewiswch Casgliad o Gynnwys.
Cymerwch olwg ar y pynciau eraill yn yr adran hon i ddysgu sut i ddefnyddio'r Casgliad o Gynnwys. Er y byddwch yn gweld rhai gwahaniaethau, mae'r offer a llifau gwaith sylfaenol yr un fath.