Mae myfyrwyr yn adrodd am dri rheswm dros beidio â llwyddo yn eu cyrsiau ar-lein, yn ôl astudiaeth o fyfyrwyr colegau cymunedol ar-lein rhwng 2001 a 2010 (Fetzner, 2013):
- Roeddwn ar ei hôl hi ac roedd yn rhy anodd dal i fyny.
- Roedd gennyf broblemau personol- iechyd, swydd, gofal plant.
- Ni allwn ddelio ag astudio ynghyd â chyfrifoldebau gwaith neu deulu.
Beth y gallwch ei wneud i leihau'r problemau hyn? Darparwch fframwaith effeithiol a'u harwain i'w defnyddio mewn modd a fydd yn eu buddio. Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn a chyfeirio myfyrwyr at Sut i Lwyddo Ar-lein.
Cadw myfyrwyr ar y trywydd iawn
Mae angen i fyfyrwyr fod yn drefnus iawn er gwaetha'r ffaith bod "dod i'r dosbarth" yn ymgorffori hyblygrwydd ar gyfer cyrsiau ar-lein. Gall yr awgrymiadau hyn eich helpu darparu fframwaith i fyfyrwyr fel y gallant flaenoriaethu eu cyfrifoldebau.
Cynnig cipolwg ymlaen llaw. Os cynigir wythnos rhagolwg cyn bod eich cwrs ar-lein yn dechrau, darparwch y maes llafur a'r amserlen i fyfyrwyr eu hadolygu. Os na allant fewngofnodi cyn bod y dosbarth yn dechrau, gallwch e-bostio'r adnoddau hyn i fyfyrwyr.
Defnyddiwch yr offer sy'n gynwysedig. Dylech gynnwys dyddiadau dyledus ar gyfer eitemau cwrs sy'n cael eu graddio, fel profion, aseiniadau a thrafodaethau. Ychwanegir dyddiadau dyledus at y calendr yn awtomatig a gall yr holl fyfyrwyr ei gyrchu. Gall myfyrwyr fewngludo eu calendrau cwrs i galendrau allanol fel Google Calendar. Anogwch fyfyrwyr i wirio eu cyrsiau, calendrau a graddau'n aml.
Pennwch ddisgwyliadau i fewngofnodi'n aml. Dywedwch wrth fyfyrwyr i fewngofnodi lleiafswm nifer o weithiau bob wythnos. Gofynnwch iddynt adolygu gweithgareddau cwrs ac aseiniadau sy'n ddyledus yr wythnos honno. Atgoffwch nhw i ofyn cwestiynau'n gynnar fel y gallant gwblhau'r gwaith ar amser o hyd.
Disgwyliwch anawsterau technegol. Gofynnwch i fyfyrwyr storio rif ffôn desg gymorth ac URL gwefan yr ysgol ar eu ffonau ac ar bapur. Wedyn, gallant ofyn am gymorth technegol hyd yn oed os bydd ganddynt broblemau cyfrifiadurol. Anogwch fyfyrwyr i fod â dull arall o gwblhau gwaith ar-lein, fel mynediad i gyfrifiadur arall.
Hysbysu chi. Gofynnwch i fyfyrwyr gysylltu â chi mor fuan â phosib i drafod opsiynau os byddant yn dechrau cwympo ar ei hôl hi gyda'u gwaith.
Cynlluniwch ar gyfer y pethau annisgwyl
Mae pob myfyriwr yn dioddef problemau personol ar ryw adeg. Rhowch gyngor yn eich maes llafur, fel beth i wneud os bydd sefyllfa anarferol yn codi.
Cyfathrebu. Pan fydd gan fyfyrwyr argyfyngau personol eu natur, dylent gysylltu â chi mor fuan â phosib.
Derbyn cymorth. Mae colegau'n cefnogi amrywiaeth o wasanaethau myfyrwyr, fel cynghori, cynghori academaidd, a gwasanaethau anabledd. Postiwch ddolenni i'r adnoddau hyn ac anogwch eich myfyrwyr i'w defnyddio.
Crëwch glustog. Anogwch fyfyrwyr i flaengynllunio a gadael amser sbâr bob wythnos fel y gallant gwblhau'r gwaith cwrs wythnosol yn hawdd hyd yn oed os bydd argyfwng yn codi.
Mae rheoli amser yn allweddol. Gofynnwch i fyfyrwyr reoli eu hamser a blaenoriaethu tasgau'n effeithiol fel nad ydynt yn gadael gwaith academaidd i'r funud olaf.
Gwnewch eich gwaith cwrs yn rhan o'ch bywyd
Byddwch yn ymgynghorydd i fyfyrwyr a helpwch nhw i gyflawni cydbwysedd rhwng yr ysgol, gwaith a bywyd.
Gosod amcanion. Helpwch fyfyrwyr i ddatblygu amcanion academaidd hir dymor a thymor byr ar gyfer cwblhau eu gwaith coleg. Anogwch nhw i fod yn realistig wrth gynllunio'r amser y bydd yn cymryd i gwrdd â'u nodau tra'n delio â chyfrifoldebau eraill. Rhybuddiwch nhw yn erbyn cofrestru ar fwy o gyrsiau nag y gallant ddelio â nhw'n rhesymol.
Integreiddio calendrau personol a chwrs. Gofyn i fyfyrwyr ddatblygu rhestr pethau i'w gwneud wedi'i blaenoriaethu a chalendr ar gyfer pob digwyddiad. Wedyn, gallant weld y "darlun mawr" o bob un o'u dyddiadau cyflwyno academaidd ynghyd â chyfrifoldebau teuluol ac yn y gwaith.
Gall defnyddwyr fewngludo calendrau cwrs Blackboard i mewn i raglenni calendr allanol.
Ffynhonnell
Fetzner, M. (2013). What Do Unsuccessful Online Students Want Us To Know? JALN 17(1), 13-27.
Cyfrannwr
Marie Fetzner, Ed. D. | Monroe Community College | Rochester, NY