Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Yr adroddiad Manylion Gweithgarwch Myfyrwyr
Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiadau i chi ar gyfer perfformiad eich myfyrwyr yn eich cwrs. Gallwch weld oriau mewn cwrs myfyriwr a newidiadau i'r radd gyffredinol fesul wythnos. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn hawdd gweld pan fydd oriau mewn cwrs myfyriwr yn gollwng neu os bydd myfyriwr yn dechrau ennill graddau is. Gallwch ddefnyddio'r adroddiad i arwain a hysbysu sut rydych yn hyfforddi mewn sawl ffordd.
- Adnabod myfyrwyr sy'n cael trafferth, myfyrwyr sy'n gwella dros amser, neu fyfyrwyr sydd â graddau sy'n dechrau mynd yn is
- Anfon negeseuon at fyfyrwyr sy'n cwympo tu ôl i'w hannog a rhoi cyngor iddynt
- Llongyfarch myfyrwyr sy'n perfformio'n dda yn eich cwrs a gofyn iddynt fod yn fentoriaid
- Trefnu apwyntiad gyda phob myfyriwr yn y cwrs i drafod strategaethau i wella perfformiad a gweithgarwch myfyrwyr
- Lawrlwytho gwedd tabl yr adroddiad fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnodau) i ddadansoddi'r data gan ddefnyddio offer eraill
- Lawrlwytho siart llinell yr adroddiad fel PDF neu ddelwedd i rannu gwybodaeth â hyfforddwyr eraill neu fentoriaid ar y cwrs
Y Radd Gyffredinol yn Learn Ultra neu'r Wedd Cwrs Ultra yw'r Radd Allanol yn Learn Gwreiddiol.
Cyrchu adroddiad Manylion Gweithgarwch Myfyrwyr
Dewiswch yr eicon Gweithgarwch Myfyriwr yn y Trosolwg Myfyriwr. Ewch i'r pwnc "Trosolwg Myfyriwr" am ragor o wybodaeth am y nodwedd a sut i'w chyrchu.
Gallwch hefyd ddewis y botwm Gweld y Manylion ym mhlot gwasgar yr adroddiad Gweithgarwch Cwrs. Ewch i'r pwnc "Adroddiad Gweithgarwch Cwrs" am ragor o wybodaeth am yr adroddiad.
Gweithgarwch cwrs feul wythnos
Gwedd tabl
Mae gan wedd tabl yr adroddiad Manylion Gweithgarwch Myfyrwyr bedair colofn: Dyddiad, Oriau cyfartalog mewn cwrs, Ystod o oriau cyfartalog, ac Oriau gweithgarwch. Mae data yn cael ei ddangos mewn rhesi wedi'u trefnu fesul wythnos. Mae pob wythnos yn dechrau ar ddydd Llun. Mae gwybodaeth yr wythnos bresennol yn cael ei diweddaru bob 24 awr yn y bore cynnar.
- Oriau cyfartalog mewn cwrs yw'r nifer o oriau ar gyfartaledd mae pob myfyriwr wedi'u treulio mewn cwrs fesul wythnos.
- Ystod o oriau cyfartalog yw'r nifer o oriau ar gyfartaledd mae pob myfyriwr wedi'u treulio mewn cwrs fesul wythnos, gyda'r gwyriad safonol wedi'i ychwanegu neu wedi'i dynnu.
- Oriau gweithgarwch yw cyfanswm yr oriau mae myfyriwr wedi'u treulio mewn cwrs fesul wythnos. Mae oriau mewn cwrs yn cael eu cyfrif o'r amser mae myfyrwyr yn dewis rhywbeth yn y cwrs i'r amser maent yn dewis rhywbeth y tu allan i'r cwrs. Os yw myfyriwr yn cael ei allgofnodi o'i sesiwn yn y cwrs oherwydd diffyg gweithgarwch, dim ond yr amser cyn y weithred olaf a gaiff ei gyfrif.
- Dewiswch y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r tabl fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnodau).
Siart llinell
Mae'r siart llinell yn rhoi cynrychioliad graffigol i chi o oriau mewn cwrs myfyriwr fesul wythnos wedi'u cymharu â myfyrwyr eraill yn y cwrs. Mae pob wythnos yn dechrau ar ddydd Llun. Mae gwybodaeth yr wythnos bresennol yn cael ei diweddaru bob 24 awr yn y bore cynnar.
- Mae gweithgarwch y myfyriwr a ddewiswyd yn borffor ac mae gweithgarwch cwrs cyfartalog yn llwyd. Dewiswch ddot i weld yr union ddyddiadau ac oriau mewn cwrs ar gyfer myfyriwr neu gyfartaledd y cwrs.
- Gweithgarwch fesul wythnos yw cyfanswm yr oriau mae myfyriwr wedi'u treulio mewn cwrs fesul wythnos. Mae oriau mewn cwrs yn cael eu cyfrif o'r amser mae myfyrwyr yn dewis rhywbeth yn y cwrs i'r amser maent yn dewis rhywbeth y tu allan i'r cwrs. Os yw myfyriwr yn cael ei allgofnodi o'i sesiwn yn y cwrs oherwydd diffyg gweithgarwch, dim ond yr amser cyn y weithred olaf a gaiff ei gyfrif.
- Nesáu neu bellhau drwy ddewis yr eiconau + a – yn y gornel dde uchaf.
- Dewiswch y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r siart llinell fel delwedd neu ffeil PDF.
Gradd Gyffredinol
Gwedd tabl
Mae gan y wedd tabl bedair colofn: Dyddiad, Gradd gyfartalog y cwrs, Ystod o radd gyffredinol, a Gradd Gyffredinol. Mae data yn cael ei ddangos mewn rhesi wedi'u trefnu yn ôl wythnos. Mae pob wythnos yn dechrau ar ddydd Llun. Mae gwybodaeth yr wythnos bresennol yn cael ei diweddaru bob 24 awr yn y bore cynnar.
- Gradd gyfartalog y cwrs yw'r radd gyffredinol gyfartalog ar gyfer pob myfyriwr mewn cwrs fesul wythnos.
- Ystod o radd gyfartalog yw'r radd gyffredinol gyfartalog ar gyfer pob myfyriwr mewn cwrs fesul wythnos, gyda'r gwyriad safonol wedi'i ychwanegu neu wedi'i dynnu.
- Gradd Gyffredinol yw gradd gyffredinol myfyriwr yn y cwrs fesul wythnos.
- Dewiswch y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r tabl fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnodau).
Os nad oes gan gwrs radd gyffredinol wedi'i gosod, ni ddangosir y tabl. Ewch i'r pwnc "Colofnau Gradd" i weld sut i osod y radd gyffredinol.
Siart llinell
Mae'r siart llinell yn rhoi cynrychioliad graffigol i chi o radd gyffredinol myfyriwr dros amser wedi'i chymharu â myfyrwyr eraill yn y cwrs. Mae pob wythnos yn dechrau ar ddydd Llun. Mae gwybodaeth yr wythnos bresennol yn cael ei diweddaru bob 24 awr yn y bore cynnar.
- Mae gradd gyffredinol myfyriwr yn borffor, ac mae gradd gyffredinol gyfartalog y cwrs yn llwyd.
- Dewiswch ddot i weld yr union ddyddiadau a graddau cyffredinol ar gyfer myfyriwr neu gyfartaledd y cwrs.
- Nesáu neu bellhau drwy ddewis yr eiconau + a – yn y gornel dde uchaf.
- Dewiswch y botwm Lawrlwytho i lawrlwytho'r siart llinell fel delwedd neu ffeil PDF.
Os nad oes gan gwrs radd gyffredinol wedi'i gosod, ni ddangosir y siart llinell. Ewch i'r pwnc "Colofnau Gradd" i weld sut i osod y radd gyffredinol.