Mae fideo ym mhob man yn ddisgwyliad ac yn arferol.

Mae fideo cyflwyno o safon yn dangos eich bod wedi paratoi ac yn darparu argraff gyntaf dda ar gyfer eich myfyrwyr.

Ni waeth p'un a ydych yn dechrau ar y broses cynllunio neu rydych yn hyfforddwr ar-lein profiadol, gallwch ychwanegu fideo cyflwyno apelgar i groesawu'ch myfyrwyr. Mae fideo byr yn ffordd hawdd o wneud cysylltiad gyda'ch myfyrwyr.

Bydd 89 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau'n gwylio 1.2 biliwn o fideos ar-lein heddiw. Disgwylir y bydd y nifer yn dyblu i 1.5 biliwn yn 2016.1

Gall eich fideo cyflwyno wneud y profiad ar-lein yn haws mynd ato ar gyfer yr holl fyfyrwyr, ond yn enwedig ar gyfer defnyddwyr newydd a'r rhai sy'n fwy petrus. Gallwch helpu myfyrwyr i sylweddoli bod eu hyfforddwr yn unigolyn go iawn sy'n frwdfrydig am y pwnc. Pan fyddwch yn sefydlu presenoldeb cymdeithasol gyda fideos, rydych yn adeiladu cysylltiad ac yn meithrin ymdeimlad o gymuned.

Gall fideos hyfforddwr gopïo rhyngweithio wyneb-yn-wyneb yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol. Gallwch gynnau cyffro ynglŷn â'ch cwrs ac esbonio pa mor berthnasol y mae'r cwrs iddynt. Gallwch roi blas i'ch myfyrwyr o'ch personoliaeth a chael gwared ar unrhyw bryderon am yr awyrgylch ddysgu ar-lein.


Beth ddylwn ei gynnwys mewn fideo cyflwyno?

Peidiwch â gorlwytho myfyrwyr â gormod o wybodaeth. Byr a chryno yw'r gorau. Ceisiwch ofalu nad yw eich fideo'n hwy na thair neu bedair munud. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wylio fideo hyfforddi a oedd yn hwy na phum munud ac yn dal eich sylw? Os oes mwy gennych i'w ddweud, recordiwch mwy o fideos.

  • Byr ac yn apelgar. Cofiwch, rydych eisiau cymell eich myfyrwyr, nid eu gorlwytho gyda gormod o wybodaeth. Peidiwch â thrafod pethau penodol neu ychwanegu dyddiadau.
  • Dangoswch eich personoliaeth. Cynhwyswch adran gyda ffotograffau neu glipiau o'ch bywyd. Beth rydych yn ei wneud yn eich amser rhydd?
  • Dilynwch y rheolau. Cynhwyswch eich disgwyliadau ar gyfer ymddygiad a chyfranogiad.
  • Ychwanegwch nodweddion penodol. Dylech gynnwys cyfarwyddiadau neu ofynion arbennig, fel rhith gyfarfodydd dosbarth.
  • Pryd byddwch ar gael? Rhestrwch eich argaeledd a disgwyliadau o ran cyfathrebu. Rhowch wybod i fyfyrwyr am eich amser ymateb disgwyliedig ar gyfer e-byst a phostiadau, a phan fydd graddau ar gael ar ôl terfyn amser.
  • Dylech gynnwys eich rhith oriau swyddfa. Gadewch iddynt wybod y croesewir cwestiynau a phryderon.
  • Mae cymorth ar gael. Cyfeiriwch fyfyrwyr at gefnogaeth dechnolegol sydd ar gael i ddangos eich bod am i bawb fod yn llwyddiannus.
  • Dechreuwch yma. Dangoswch i fyfyrwyr yn union sut i gychwyn arni yn eich cwrs.

Beth na ddylid ei gynnwys mewn fideo cyflwyniadol?

Nid oes angen peth gwybodaeth mewn fideo croeso. Ychwanegwch y manylion penodol hyn yn y maes llafur:

  • Amserau a mannau cyfarfod y cwrs
  • Holl fanylion eich gwybodaeth gyswllt
  • Rheolau'r Brifysgol
  • Canllawiau llên-ladrad a moesau ar y we
  • Polisïau graddio
  • Gwerslyfrau
  • Rhestr aseiniad penodol a dyddiadau cyflwyno pwysig

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant

Gydag ychydig o ymdrech a chynllunio, gallwch gynhyrchu fideo o ansawdd uchel. Hefyd, mae gan sawl sefydliad stiwdios recordio fideo gyda theleanogwyr. Efallai y byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth ddarllen eich sgript neu gyfeirio ato fel y bo angen. Gyda sgript lawn, gallwch ychwanegu capsiynau'n hawdd at eich fideo. I drefnu bod amlgyfryngau yn eich cwrs yn hygyrch i bobl ag anableddau, mae'n rhaid i chi ychwanegu capsiynau.

  • Crëwch sgript neu amlinelliad manwl i helpu i gadw eich fideo'n fyr.
  • Eisteddwch yn agos at y camera - mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddarllen eich ciwiau di-eiriau a mynegiad yr wyneb.
  • Gwnewch gyswllt llygad gyda'ch gynulleidfa trwy edrych i mewn i'r camera neu'r gwe-gamera. Peidiwch â chanolbwyntio ar y sgript neu wylio eich hun yn y cyfrifiadur.
  • Gwiriwch osodiadau meicroffon.
  • Defnyddiwch gefndir golau, plaen a gwisgwch ddillad cyferbyniol, tywyll gydag ychydig iawn o batrwm.
  • Ychwanegwch olau o'ch blaen yn lle'r tu cefn i chi. Bydd eich wyneb a chefndir yn eglur a chlir. Fodd bynnag, os gallwch ddefnyddio goleuo o sawl pwynt yn yr ystafell, byddwch yn edrych hyd n oed yn well.
  • Ewch i le tawel i recordio lle bydd neb yn gallu tarfu arnoch chi na'ch cynulleidfa.
  • Neilltuwch amser i ymarfer a ffilmio nifer o weithiau.
  • Siaradwch fel a wnewch yn y dosbarth - yn llawn brwdfrydedd dros y pwnc.
  • Ychwanegwch gymhorthion gweledol lle bynnag y bo'n bosibl.

Darllen a awgrymir

Adeiladu Cymuned yn eich cwrs ar-lein - Fideo Cyflwyniadol

Fideo Cyflwyniadol: Pam Mae Angen Un Ar Eich Cwrs

1Abramovich, Giselle. "15 Stats Brands Should Know About Online Video - Digiday." Digiday. N.p., 3 Ebrill 2013. Gwe. 05 Mai 2014.