A wyddoch chi fod gan biliwn o bobl yn y byd anabledd meddyliol neu gorfforol? Neu fod gan 12.9% o holl fyfyrwyr Gogledd America rhyw fath o anabledd? Mae'n bwysig sicrhau bod pob un o'ch myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned yn deall eich cyfathrebiadau.
Arferion gorau o ran hygyrchedd wrth gyfathrebu
Does dim ots os ydych chi'n defnyddio e-bost neu Facebook, mae gwneud eich negeseuon yn hygyrch yn hawdd gyda'r arferion hygyrchedd gorau hyn.
- Ysgrifennwch yn glir. Cadwch eich brawddegau'n fyr. Defnyddiwch eiriau, neu gyfuniad o eiriau, gyda 1-2 sillaf ble fo'n bosib. Defnyddiwch gywasgiadau. Defnyddiwch offer megis Hemmingway Editor i fesur darllenadwyedd eich testun.
- Peidiwch â defnyddio gwahanol ffontiau neu liwiau yn unig i ddynodi pwysigrwydd! Pan fo angen ichi roi awgrym gweledol cryf, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dull hygyrch amgen. Defnyddiwch ebychnod ar ddiwedd eich brawddeg os ydyw'n bwysig. Mae darllenwyr sgrîn yn llafarganu ebychnodau a gofynodau. Nid yw hyn yn golygu y bydd yr offeryn yn darllen "ebychnod" yn uchel—yn hytrach, bydd yn defnyddio tôn holgar wrth ddarllen y cwestiwn yn uchel.
- Dylech gynnwys testun amgen yn eich delweddau. Does dim angen i chi ddweud "Delwedd o" gan fod yr offer cynorthwyol eisoes yn gwybod mai delwedd ydyw. Byddwch yn gryno, yn glir ac yn ddisgrifiadol. Peidiwch â defnyddio'r un testun amgen ar gyfer pob delwedd, megis "Delwedd yn dynodi'r testun cysylltiedig." Mae'n ddiystyr ac yn gwneud y dudalen yn flêr.
- Ychwanegu capsiynau delweddau pan nad ydych yn gallu ychwanegu testun amgen. Os nad ydych yn gallu ychwanegu testun amgen at eich delweddau, sicrhewch fod eich testun yn cyfleu'r holl wybodaeth heb ddibynnu ar y ddelwedd.
- Disgrifiwch unrhyw ddolenni. Dylai pob dolen ddisgrifio beth gall y defnyddiwr disgwyl gweld pan fyddant yn clicio arni. Osgowch ddefnyddio ymadroddion cyffredinol megis "cliciwch yma" neu "rhagor o wybodaeth". Nid yw cyfeiriadau gwe neu URLs yn ddefnyddiol, felly ni ddylid ei defnyddio. Yn hytrach, dylid gwneud y testun yn ddisgrifiadol.
- Gwneud eich atodiadau'n hygyrch Dilynwch yr un arferion gorau i wneud eich atodiadau'n hygyrch. I ddysgu mwy, edrychwch ar Hygyrchedd yn Blackboard.
- Cynnwys capsiynau caeedig neu drawsgrifiadau gyda'ch fideos. Darparwch ddolen i drawsgrifiadau, os nad yw'ch fideo'n cynnwys capsiynau caeedig.
- Ceisiwch wrando ar eich neges i wneud yn siŵr ei bod yn swnio'n iawn. Defnyddiwch offer testun-i-lais sydd ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau i wrando ar eich neges cyn ei hanfon.
Hygyrchedd ar gyfryngau cymdeithasol
Nid yw cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch ym mhob sefyllfa. Mae'n heriol i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu llywio a dydy'r cynnwys ddim yn defnyddio penawdau, testun amgen ar gyfer delweddau neu gapsiynu fideo bob tro. Nid yw hynny'n golygu y dylech chi beidio â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dyna ble mae'ch cynulleidfa. Sicrhewch fod eich cynnwys mor hygyrch â phosib er mwyn cyrraedd eich cynulleidfa gyfan.
Dilynwch yr arferion gorau ar hygyrchedd ar gyfer pob darn o gynnwys ynghyd â'r awgrymiadau hyn tra'n defnyddio Facebook neu Twitter.
- Darparwch destun amgen ar gyfer unrhyw luniau a ddelweddau postiwch chi.
- Darparwch ddolen at drawsgrifiadau pan fyddwch yn postio fideos.
- Dywedwch wrth eich cynulleidfa beth sydd yn eich neges. Os yw'ch neges yn cynnwys llun, fideo neu sain, defnyddiwch y rhagddodiaid hyn ar gychwyn eich neges.
- Lluniau: [PIC]
- Fideos: [VIDEO]
- Sain: [AUDIO]
- Rhowch hashnodau a sylwadau ar ddiwedd eich neges.
- Defnyddiwch ffurf "camel case" mewn hashnodau. Rhowch briflythyren i bob gair yn eich hashnod. Er enghraifft, #BlackboardAccessibility
- Osgowch testun jargon y gallai swnio'n rhyfedd pan fydd yn cael ei darllen gan ddarllenydd sgrin.