Archwilio'r tab Cyrsiau
Mae'r tab Cyrsiau yn cynnwys rhestr o gyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt. Cofiwch fod eich sefydliad yn gallu ailenwi tabiau.
- Chwilio am Gwrs: Gallwch chwilio am gwrs, ac os caniateir hynny, rhagolygu'r cwrs. Teipiwch air allweddol neu linyn testun yn y blwch, dewiswch Iawn. Mae'r canlyniadau'n ymddangos ar dudalen Pori'r Catalog Cyrsiau.
- Rhestr Cyrsiau: O'r rhestr, gallwch gyrchu unrhyw gwrs rydych wedi cofrestru arno neu eich bod yn ei addysgu. Er enghraifft, os ydych yn fyfyriwr sy’n astudio dau gwrs ac yn gynorthwy-ydd addysgu mewn un cwrs, rhennir eich rhestr cyrsiau i mewn i'r cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt ac ar gyfer y cyrsiau rydych yn Gynorthwy-ydd Addysgu ar eu cyfer.
- Catalog Cyrsiau: Gallwch chwilio'r catalog am gyrsiau neu fudiadau. Dewiswch ddolen categori neu ddewiswch Pori'r Catalog Cyrsiau i gychwyn chwilio.
Os oes gan eich sefydliad fynediad at ymgysylltiad cymunedol, mae'r catalog mudiadau yn rhestru pob mudiad mewn categorïau, megis yn ôl y math o fudiad neu argaeledd semester.
Mae gwesteion yn gallu pori'r catalog a rhagolygu cyrsiau. Nid oes gan westeion fynediad i'r cwrs cyfan. Mae hyfforddwyr yn pennu a ganiateir i ddefnyddwyr ragolygu cwrs cyn cofrestru.
Efallai bydd eich sefydliad yn dewis defnyddio catalog gwahanol neu beidio â defnyddio catalog o gwbl.
Eisiau ychwanegu neu ollwng cwrs?
Eich sefydliad sy'n gyfrifol am gofrestriadau cwrs. Os ydych wedi cofrestru ar gwrs ond nid ydych yn ei weld yn rhestr y cyrsiau neu os ydych wedi cofrestru ar y cwrs anghywir, cysylltwch â'ch sefydliad i gael cymorth.
Ni allwch ddileu hen gyrsiau neu rai diangen, ond gallwch eu cuddio o'r golwg.
Mae eich sefydliad yn rheoli'r holl opsiynau yn Blackboard Learn, gan gynnwys a allwch addasu modiwlau. Os na allwch gwblhau'r camau, cysylltwch â'ch sefydliad i gael cymorth.
Cuddio cwrs yn eich rhestr
Gallwch ddefnyddio'r un camau i guddio cwrs o'r tab Cyrsiau neu o fodiwl Fy Nghyrsiau ar dab Fy Sefydliad.
- Dewiswch yr eicon Rheoli sy'n ymddangos wrth i chi symud pwyntydd eich llygoden dros y modiwl.
- Dewch o hyd i'r rhes ar gyfer y cwrs rydych eisiau ei guddio a chliriwch y blwch ticio yng ngholofn Enw'r Cwrs.
- Gwnewch yn siŵr bod pob tic wedi'u clirio yn rhes y cwrs hwnnw.
- Gwnewch hyn eto ar gyfer pob cwrs rydych eisiau eu cuddio.
- Dewiswch Cyflwyno.
Pori’r Catalog Cyrsiau
Gallwch ddefnyddio catalog y cwrs i bori’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn eich sefydliad. Gallwch ddod o hyd i'r Catalog Cyrsiau trwy’r tab Cyrsiau. Dewiswch Pori'r Catalog Cyrsiau i ddechrau arni.
Yn y catalog, gallwch chwilio am gyrsiau yn ôl y meysydd canlynol:
- ID y Cwrs
- Enw'r Cwrs
- Disgrifiad o'r Cwrs
- Hyfforddwr y Cwrs
- Tymor y Cwrs
Ar ôl i chi ddewis y math o ffeil, cyflwynwch derm neu ymadrodd i chwilio yn ei ôl. Yn ddiofyn, bydd y teclyn chwilio yn chwilio am unrhyw gwrs sy’n cynnwys yr ymadrodd a gyflwynwyd gennych. Gallwch newid y gosodiad hwn i chwilio am gyrsiau sy’n cynnwys yr holl ymadrodd a gyflwynwyd gennych neu am gyrsiau sy’n dechrau gyda’r ymadrodd hwnnw. Gallwch hefyd glicio ar Ddim yn wag i weld y rhestr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael.
Dewiswch Mynd i gychwyn eich chwiliad. Os ydy rhestr eich canlyniadau yn rhy hir, gallwch fireinio’r canlyniadau trwy ddefnyddio’r hidlydd Dyddiad Creu. Dewiswch ddyddiad ac a yw'r cwrs rydych yn chwilio amdano wedi cael ei greu cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Sut mae tymhorau'n gweithio?
Cyfnodau penodol o amser yw tymhorau sy'n helpu sefydliadau i drefnu cyrsiau yn ôl y calendr academaidd. Efallai bydd eich sefydliad yn defnyddio tymhorau i grwpio cyrsiau a rheoli argaeledd mewn sympau.
Mae dyddiad dechrau a gorffen y tymor yn rheoli lle mae cyrsiau cysyllteidig yn ymddangos ar y dudalen Cyrsiau.
Hyd y Cwrs | Aliniad Tymor |
---|---|
Parhaus | Tymor presennol |
Dewis dyddiadau: Mae'r dyddiad presennol yn hafal i neu ei fod rhwng y dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen Mae'r dyddiad presennol cyn y dyddiad dechrau Mae'r dyddiad presennol ar ôl y dyddiad gorffen |
Tymor presennol Tymor yn y dyfodol Tymor yn y gorffennol |
Diwrnodau ers diwedd y cyfnod cofrestru Myfyrwyr a gwesteion sydd â diwrnodau sy'n weddill Myfyrwyr a gwesteion heb ddiwrnodau sy'n weddill Defnyddwyr nad ydynt yn fyfyrwyr na gwesteion |
Tymor presennol Tymor yn y gorffennol Y tymor presennol os nad yw'n gysylltiedig â thymor yn y gorffennol neu ddyfodol |
Hyd y Cwrs - Defnyddio Hyd y Tymor Parhaus Dewis Dyddiadau Mae'r dyddiad presennol yn hafal i neu ei fod rhwng dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen y Tymor Mae'r dyddiad presennol cyn dyddiad dechrau'r Tymor Mae'r dyddiad presennol ar ôl dyddiad gorffen y Tymor Diwrnodau ers diwedd y cyfnod cofrestru Myfyrwyr a gwesteion sydd â diwrnodau sy'n weddill Myfyrwyr a gwesteion heb ddiwrnodau sy'n weddill Defnyddwyr nad ydynt yn fyfyrwyr na gwesteion |
Tymor presennol Tymor yn y dyfodol Tymor yn y gorffennol
Tymor presennol Tymor yn y gorffennol Tymor presennol |