Amgylchedd eich cwrs

Mae dyluniad cyrsiau yn amrywio yn seiliedig ar yr hyfforddwr a'r sefydliad, ond mae rhai elfennau cyffredin yn bodoli. Mae eich sefydliad a'ch hyfforddwr yn rheoli pa offer sydd ar gael.

  1. Eicon Llywio Cwrs-i-Gwrs: Cael mynediad at gyrsiau eraill rydych wedi cofrestru arnynt o'r ddewislen.
  2. Briwsion bara: Cael mynediad at dudalennau rydych wedi ymweld â hwy yn ddiweddar.
  3. Dewislen y cwrs: Y man cyrchu ar gyfer pob cynnwys cwrs. Hyfforddwyr sy'n rheoli pa ddolenni sy'n ymddangos.
  4. Ffrâm y cynnwys: Yr arwynebedd mwy o'r sgrín sydd nesaf at ddewislen y cwrs sy'n arddangos y maes cynnwys, offer, tudalen modiwl, neu ddeunydd a ddewisir. Hyfforddwyr sy'n dewis y tudalen sy'n ymddangos yma pan fyddwch yn mynd i gwrs.
  5. Bar gweithredu: Y rhesi ar dop ffrâm y cynnwys sy'n cynnwys gweithrediadau lefel tudalen, megis Tanysgrifio neu Chwilio mewn trafodaethau. Mae'r swyddogaethau yn y bar gweithredu'n newid yn seiliedig ar le ydych chi yn eich cwrs.
  6. Dewislenni: Mae eicon Dewislen Opsiynau yn ymddangos ar gyfer cydrannau gyda dewislenni, megis trywydd trafodaethau. Mae'r opsiynau yn y ddewislen yn amrywio yn seiliedig ar y cydrannau.

Dewiswch yr eicon marc cwestian yn y gornel dde ar dop y dudalen am wybodaeth ar y darn o offer sydd gennych ar agor ar hyn o bryd.


Dewislen y cwrs

Y ddewislen cwrs yw'r panel ar ochr chwith y rhyngwyneb sy'n cynnwys dolenni i bob maes cwrs lefel-uchaf. Gall hyfforddwyr hefyd ddarparu dolenni'r dudalen offer, offer unigol, gwefannau, eitemau cwrs, a tudalennau modiwl unigol. Hyfforddwyr sy'n rheoli'r cynnwys a'r offer sydd ar gael ar ddewislen y cwrs.

Gall hyfforddwyr addasu arddull dewislen y cwrs. Gallant newid y lliw, ychwanegu is-benawdau a gwahanyddion a dewis botymau neu destun ar gyfer y dolenni. Mae'r addasiadau hyn yn creu amrywiadau yng ngwedd a threfniant eich cyrsiau.

  1. Ar gyfer dyluniad dewislen y cwrs, gall hyfforddwyr ddefnyddio testun yn unigneu botymau â labeli ar gyfer y dolenni.
  2. Agorwch ddewislen y cwrs mewn ffenestr ar wahân. Mae'r ddewislen ar wahân bob amser yn arddangos deunyddiau cwrs fel cyfeiriadur coeden. Gallwch ehangu'r wedd i ddangos hierarchaeth llywio cwrs a symud y ffenestr i le bynnag y dymunwch.
  3. Adnewyddu eich gwedd.
  4. Ehangu neu gwympo ffrâm dewislen y cwrs. Symudwch gyrchwr eich llygoden yn agos at yr ymyl a dewiswch y saeth. Pan fyddwch yn cwympo dewislen y cwrs, bydd gennych fwy o le i weld cynnwys.

Llywio Cwrs-i-Gwrs

O un o'ch cyrsiau, gallwch gael mynediad yn hawdd at yr holl gyrsiau eraill rydych wedi cofrestru arnynt.

Dewiswch eicon Llywio Cwrs-i-Gwrs i gael mynediad at y ddewislen a dewis teitl cwrs arall. Os yw'r un dudalen yr ydych yn edrych arni yn y cwrs ar hyn o bryd yn bodoli yn y cwrs nesaf, dyma ble fyddwch chi'n glanio. Y cwrs yr ymwelwyd ag ef yn fwyaf diweddar yw’r un a restrir gyntaf.

Er enghraifft, os ydych yn edrych ar y dudalen cyhoeddiadau mewn un cwrs a'ch bod yn dewis cwrs arall yn y ddewislen, byddwch yn cael eich cymryd i dudalen cyhoeddiadau'r cwrs hwnnw.

Hafan Cwrs

Yn ddiofyn, mae eich cwrs yn cynnwys Hafan ar ddewislen y cwrs.

Mae’r Hafan yn dudalen modiwl cwrs. Cyflwynir gwybodaeth mewn blychau a elwir yn fodiwlau, megis Fy Nghyhoeddiadau , Fy Nhasgau, a Beth sy'n Newydd. Mae'r system yn cynhyrchu'r wybodaeth ym mhob modiwl. Gall eich hyfforddwr ailenwi neu ddileu'r dudalen hon, a chreu tudalennau modiwl cwrs eraill. Mae'ch hyfforddwr hefyd yn dewis pa fodiwlau sy'n ymddangos.

Mae tudalennau modiwl cwrs yn cynnwys manylion am gynnwys newydd a dyddiadau dyledus ar gyfer y cwrs rydych chi ynddo.

  1. Dewiswch eicon Rheoli Gosodiadau i newid sut mae'r cynnwys yn ymddangos. Er enghraifft, gallwch ddewis sawl diwrnod o gyhoeddiadau sy'n ymddangos mewn modiwl. Nid oes gan bob modiwl osodiadau y gallwch eu newid.
  2. Dewiswch y ddolen mewn modiwl i weld mwy.
  3. Dewiswch yr eicon Agor mewn Ffenestr Newydd i symud y modiwl i leoliad arall ar eich sgrîn. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth fel cyfeirnod wrth i chi lywio yn eich cwrs. Os nad yw'r eicon yn ymddangos, nid yw'r opsiwn ar gael ar gyfer y modiwl hwnnw.
  4. Mae rhai modiwlau'n cynnwys dewislen Gweithrediadau gydag opsiynau i ehangu, cwympo neu ddiystyru hysbysiadau'r modiwl hwnnw. Ar gyfer rhai modiwlau, gallwch olygu’ch gosodiadau hysbysiadau.

Modiwlau Beth sy'n Newydd a Rhestr Tasgau

Mae modiwl Beth sy'n Newydd yn adrodd ar ychwanegiadau a newidiadau i gynnwys y cwrs. Mae'r modiwl yn dangos nifer yr eitemau newydd ar gyfer pob math o gynnwys ac yn darparu dolenni iddynt yn eich cyrsiau. Mae'r modiwl yn dangos eitemau o fewn y saith niwrnod diwethaf.

Caiff y mathau hyn o gynnwys eu hadrodd yn y modiwl:

  • Profion ac arolygon
  • Aseiniadau
  • Blogiau
  • Cynnwys
  • Postiadau trafod
  • Negeseuon cwrs

Mae modiwl Beth sy'n Newydd yn cynnwys gwybodaeth a wneir ar gael i'r cwrs cyfan. Ni chaiff cynnwys a ddaw ar gael i chi ar ôl bodloni meini prawf penodol ei adrodd yn y modiwl hwn.

Mae'r modiwl Beth sy'n Newydd yn rhoi gwybod am newidiadau unwaith y diwrnod. Gallwch weld yr hyn sydd wedi newid y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi y diwrnod hwnnw. Nid yw newidiadau a wnaed ar ôl i chi allgofnodi yn ymddangos yn y modiwl tan y diwrnod nesaf oni bai eich bod yn dewis Adnewyddu yn newislen Gweithrediadau.

Mae'r diweddariadau a welwch ar gyfer cwrs dim ond yn ymddangos os caiff y cynnwys ei wneud ar gael a'ch bod yn gyfranogwr yn y cwrs.

Modiwl Rhestr Tasgau

Mae modiwl Rhestr Tasgau yn darparu rhestr gronolegol o ddyddiadau dyledus sydd ar ddod. Mae'r modiwl hwn wedi'i rannu yn Beth sy'n Hwyr a Beth sy'n Ddyledus. Defnyddiwch y wybodaeth yma fel man cychwyn ar gyfer eich gwaith cwrs dyddiol.

Mae ardal Beth sy'n Hwyr yn dangos unrhyw brawf, aseiniad, neu arolwg lle mae'r dyddiad dyledus wedi mynd heibio heb gyflwyniad. Mae ardal Beth sy'n Ddyledus yn dangos gwybodaeth am unrhyw brawf, aseiniad neu arolwg sy'n cynnwys dyddiad dyledus.

Nid yw modiwl Rhestr Tasgau yr un fath â'r offeryn tasgau.

Efallai byddwch yn gweld modiwlau Rhybuddion ac Angen Sylw. Mae'r modiwlau hyn at ddefnydd yr hyfforddwr yn unig ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth i fyfyrwyr.