Anfon e-bost neu neges cwrs
Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch gysylltu â'ch hyfforddwr trwy'r offeryn negeseuon cwrs neu ar e-bost. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system. Ni allwch weld neu anfon negeseuon y tu allan i'ch cwrs. I weld y negeseuon ar gyfer y cwrs rydych ynddo, dewiswch ddolen Negeseuon ar ddewislen y cwrs ar dudalene Offer. Eich hyfforddwr sy'n pennu pa ddolenni sy'n ymddangos ar ddewislen y cwrs a pha offer sydd ar gael.
Gyda'r offeryn e-byst cwrs, gallwch anfon negeseuon o'ch cwrs i gyfrifon e-bost allanol aelodau'r cwrs, heb angen newid i'ch darparwr e-bost, megis Gmail neu Yahoo. Gallwch anfon negeseuon e-bost at ddefnyddwyr unigol neu at grŵp o ddefnyddwyr.
Mae e-byst yn offeryn anfon yn unig. Ni fyddwch yn derbyn e-byst yn Blackboard Learn.