Mae'r adroddiad Mabwysiadu Platfform Dysgu yn eich helpu i ddeall ac ateb:  

  • Gweithgarwch LMS 

    • Faint o ddefnyddwyr LMS gweithredol sydd? 

    • Faint o gyrsiau LMS gweithredol sydd? 

    • Pa foddolrwyddion a ddefnyddir i gyrchu sesiynau LMS? 

    • Pa rolau sefydliadol sy'n cyrchu sesiynau LMS? 

    • Beth yw'r nifer o sesiynau LMS ar gyfartaledd yn ôl dydd yr wythnos a chyfnod amser? 

  • Gweithgarwch Offeryn Cydweithio 

    • Beth yw'r cyfanswm o ddefnyddwyr Class Collaborate? 

    • Faint o ystafelloedd Class Collaborate a grëwyd? 

    • Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr Class Collaborate gwahanol dros amser? 

    • Beth yw'r nifer o sesiynau Class Collaborate ar gyfartaledd yn ôl dydd yr wythnos a chyfnod amser? 

  • Gweithgarwch Offeryn Hygyrchedd 

    • Faint o weithiau clicir ar y dangosydd sgôr hygyrchedd? 

    • Faint o weithiau lawrlwythir fformatau amgen? 

    • Pa fathau o fformatau amgen a lawrlwythir? 

  • Gweithgarwch Offeryn Gwreiddioldeb 

    • Faint o adroddiadau gwreiddioldeb a gynhyrchwyd? 

    • Faint o sgoriau gwreiddioldeb a gynhyrchwyd? 

 

Ffynhonnell Ddata: Blackboard Learn, Class Collaborate, Anthology Ally, SafeAssign 

Defnyddio Rheolyddion 

Gallwch ddefnyddio'r adran Rheolyddion i hidlo a mireinio'r data a ddangosir ym mhob tab adroddiad yn seiliedig ar eich anghenion. Mae gan bob tab set benodol o Rheolyddion neu hidlyddion y gallwch eu defnyddio. Gallwch fynd yn ôl unrhyw bryd i ailosod eich rheolyddion.  

Cael disgrifiad mwy manwl o bob rheolydd yn ein Hadran Rheolyddion Rhestr Termau Adroddiadau Anthology.

 

Gweithgarwch LMS 

Faint o ddefnyddwyr LMS gweithredol sydd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr LMS gweithredol o fewn yr hidlyddion rydych wedi'u dewis.  

Ystyriwch:  

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran defnyddwyr LMS gweithredol yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Faint o gyrsiau LMS gweithredol sydd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o gyrsiau gweithredol yn yr LMS o fewn yr hidlyddion rydych wedi'u dewis. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y nifer o gyrsiau gweithredol yn yr LMS yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Pa foddolrwyddion a ddefnyddir i gyrchu sesiynau LMS? 

Mae'r siartiau toesen hyn yn dangos y moddolrwyddion y mae defnyddwyr wedi'u defnyddio i gyrchu'r LMS.  

Ystyriwch: 

  • Mae sesiynau yn cynrychioli'r nifer o weithiau mae pob defnyddiwr wedi cyrchu eich LMS.  
  • Gall defnyddiwr agor nifer o sesiynau. 

 

Pa rolau sefydliadol sy'n cyrchu sesiynau LMS? 

Mae'r siart bar hwn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr yn ôl rôl a gyrchodd sesiynau LMS yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

 

Beth yw'r nifer o sesiynau LMS ar gyfartaledd yn ôl dydd yr wythnos a chyfnod amser? 

Mae'r mapiau gwres hyn yn sgorio data mewn perthynas â'r nifer o weithgareddau fesul dydd yr wythnos a chyfnodau dwy awr.  

Ystyriwch: 

  • Mae'r gwahaniaethau yn y lliwiau yn cynrychioli cyfnodau pan oedd mwy o weithgareddau neu lai o weithgareddau: 
  • Mae lliwiau tywyll yn cynrychioli diwrnodau a chyfnodau â mwy o weithgareddau. 
  • Mae lliwiau golau yn cynrychioli diwrnodau a chyfnodau â llai o weithgareddau. 

 

Gweithgarwch Offeryn Cydweithio 

Mae'r data Class Collaborate a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli data defnydd a rhyngweithiadau a ddaw o'r integreiddiad Blackboard Learn. Ni chynrychiolir unrhyw ddata Class Collaborate a grëwyd y tu allan i'r integreiddiad hwn yn yr adroddiad. 

Beth yw'r cyfanswm o ddefnyddwyr Class Collaborate? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr Class Collaborate o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch.  

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o ddefnyddwyr Class Collaborate yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Faint o ystafelloedd Class Collaborate a grëwyd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o ystafelloedd cwrs Class Collaborate a grëwyd o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o ddefnyddwyr Class Collaborate yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr Class Collaborate gwahanol dros amser? 

Mae'r graffiau llinell hyn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr unigryw a gyrchodd Class Collaborate o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

 

Beth yw'r nifer o sesiynau Class Collaborate ar gyfartaledd yn ôl dydd yr wythnos a chyfnod amser? 

Mae'r mapiau gwres hyn yn sgorio data mewn perthynas â'r nifer o weithgareddau fesul dydd yr wythnos a chyfnodau dwy awr.  

Ystyriwch: 

  • Mae'r gwahaniaethau yn y lliwiau yn cynrychioli cyfnodau pan oedd mwy o weithgareddau neu lai o weithgareddau: 
  • Mae lliwiau tywyll yn cynrychioli diwrnodau a chyfnodau â mwy o weithgareddau. 
  • Mae lliwiau golau yn cynrychioli diwrnodau a chyfnodau â llai o weithgareddau. 

 

Gweithgarwch Offeryn Hygyrchedd 

Mae'r data Anthology Ally a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli data defnydd a rhyngweithiadau a ddaw o'r integreiddiad Blackboard Learn. Ni chynrychiolir unrhyw ddata Anthology Ally a grëwyd y tu allan i'r integreiddiad hwn yn yr adroddiad hwn. 

 

Faint o weithiau clicir ar y dangosydd sgôr hygyrchedd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o weithiau defnyddiwyd y dangosydd sgôr Anthology Ally o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o weithiau defnyddiwyd dangosydd sgôr Anthology Ally yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Faint o weithiau lawrlwythir fformatau amgen? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o weithiau lawrlwythwyd fformatau amgen Anthology Ally o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o weithiau lawrlwythwyd fformatau amgen Anthology Ally yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Pa fathau o fformatau amgen a lawrlwythir? 

Mae'r mathau o fformatau amgen a lawrlwythir yn mesur y nifer o fformatau amgen a lawrlwythwyd yn Anthology Ally yn ôl math.  

 

Gweithgarwch Offeryn Gwreiddioldeb 

Mae'r  data SafeAssign a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli data defnydd a rhyngweithiadau a ddaw o'r integreiddiad Blackboard Learn. Ni chynrychiolir unrhyw ddata SafeAssign a grëwyd y tu allan i'r integreiddiad hwn yn yr adroddiad. 

Faint o adroddiadau gwreiddioldeb a gynhyrchwyd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o adroddiadau SafeAssign a gynhyrchwyd o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o adroddiadau SafeAssign a gynhyrchwyd yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd. 

 

Faint o sgoriau gwreiddioldeb a gynhyrchwyd? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o sgoriau SafeAssign a gynhyrchwyd o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

Ystyriwch: 

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o sgoriau SafeAssign a gynhyrchwyd yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewiswyd.