Geiriadur byr ar gyfer termau a welir drwy gydol Blackboard Data Reporting: 

Rheolyddion 

  • Rheolyddion: adran o opsiynau hidlo ym mhob tab adroddiad. 

  • Tymor y cwrs: dechrau a diwedd cyfnod astudio. Gallwch ddewis nifer o opsiynau. Bydd tab yr adroddiad dim ond yn dangos data o gyrsiau sydd ar gael yn ystod y tymor neu dymhorau cwrs penodol a ddewiswyd. 

  • Math o hyd cwrs: gall fod gan gyrsiau fathau gwahanol o hyd. Nid yw cwrs parhaus yn dechrau nac yn gorffen. Mae gan gwrs sefydlog ddyddiadau calendr penodol ar gyfer dechrau a diwedd y tymor.  

  • Math o eitem cwrs: gall deunyddiau a ychwanegir at gwrs fod ar sawl ffurf. Er enghraifft, modiwl dysgu, pecyn Model Cyfeirio Gwrthrychol Cynnwys Rhanadwy (SCORM), prawf, aseiniad, trafodaeth, dyddlyfr, ffeil, offer dysgu, content market, dolen, dogfen, ffolder. 

  • Rôl ar y cwrs: Mae hyfforddwyr (I) yn ddefnyddwyr mewn cwrs sydd â rôl hyfforddwr, cynorthwyydd addysgu, graddiwr, neu hwyluswr mewn cwrs sydd wedi cyflawni gweithgarwch yn y cwrs. 

  • Math o hidlydd dyddiad: gellir hidlo cyrsiau yn ôl eu dyddiad creu neu'r dyddiad y byddant yn dechrau arno.  

  • Ystod dyddiadau – o, i: cyfyngu data mewn tab adroddiad i grŵp penodol o ddyddiadau. Gosod y grŵp o dyddiadau o dyddiad dechrau i ddyddiad gorffen. 

  • Eithrio cofrestriadau gyda dim gweithgarwch ar ôl X diwrnod: tynnu defnyddwyr a gofrestrwyd ar gyrsiau â rolau myfyrwyr nad ydynt wedi cyflawni unrhyw weithgaredd ar ôl y nifer o ddiwrnodau a ddewiswyd.  

  • Amser graddio a ddisgwylir (diwrnodau): y nifer o ddiwrnodau y disgwylir i hyfforddwyr ddychwelyd gradd ar gyfer cyflwyniadau myfyrwyr ynddynt. 

  • Eithrio sesiynau nad ydynt ar gyfer cyrsiau: sesiwn Blackboard Collaborate nad yw'n cael ei greu dan gwrs. 

  • Eithrio sesiynau gydag un mynychwr: nid yw sesiynau gydag un mynychwr yn cynrychioli dysgu cydamserol na rhyngweithio cymdeithasol.  

  • Cyfrifiad gradd: y math o fformiwla i weld neu neilltuo graddau yn seiliedig ar eitemau eraill a raddir. Gallwch ddewis graddau terfynol yn unig, cyfartaledd pob gradd, neu awtomatig. Mae awtomatig yn defnyddio graddau terfynol os ydynt yn bodoli a chyfartaledd pob gradd os nad ydynt yn bodoli.

  • Ffin raddau: y radd isaf sydd ei hangen i gael gradd benodol. Er enghraifft, bydd myfyrwyr â gradd 70% neu fwy yn pasio. Bydd myfyrwyr â gradd sy'n llai na 70% yn methu. Yn yr enghraifft hon, 70% yw'r ffin raddau.

  • Cyfartaledd pob gradd: cyfanswm y graddau wedi'u rhannu â'r nifer o raddau a gyfansymiwyd.

  • Gradd derfynol: gradd wedi'i chategoreiddio fel Gradd Derfynol.  

  • Cynnwys cofrestriadau nad ydynt ar gael: cyfrif cofrestriadau myfyrwyr nad ydynt ar gael, nad ydynt wedi'u galluogi a'r rhai sydd wedi'u dileu. 

  • Cynnwys dim ond graddau sy'n rhan o'r radd derfynol: hidlo yn ôl dim ond y graddau hynny sydd wedi cyfrannu at y radd derfynol.

  • Hierarchaeth sefydliadol - Lefelau 1, 2, 3 a 4+: diffinio hyd at ba lefel o fframwaith aml-lefel eich sefydliad o fewn Blackboard rydych eisiau hidlo data yn ei ôl. Er enghraifft, yn ôl ysgolion, adrannau, rhaglenni academaidd neu gyrsiau penodol. 

  • Math o weithgaredd cwrs myfyriwr: diffinio a ydych eisiau cynnwys gweithgarwch myfyrwyr yn seiliedig ar ddyddiad cyrchu'r cwrs diwethaf neu ddyddiad cymryd rhan mewn cwrs diwethaf myfyrwyr. 

 


A

  • Defnyddiwr gweithredol:  defnyddiwr sydd ag o leiaf un sesiwn yn y system rheoli dysgu (LMS) o fewn yr ystod amser a ddewiswyd. 

  • Cofrestriadau myfyrwyr gweithredol: defnyddwyr a gofrestrwyd ar gwrs â rôl myfyriwr yn Blackboard Learn sydd wedi cyrchu'r cwrs a chyflawni gweithgarwch ynddo. Cynhwysir myfyrwyr sydd wedi gadael cwrs ar ôl un diwrnod o weithgarwch. 

  • Cofrestriadau hyfforddwyr gweithredol: defnyddwyr a gofrestrwyd ar gwrs â rôl hyfforddwr yn Blackboard Learn sydd wedi cyrchu'r cwrs a chyflawni gweithgarwch ynddo. 

  • Cwrs gweithredol: cwrs sydd ag o leiaf un defnyddiwyr sydd wedi cyflawni gweithgarwch o fewn yr ystod amser a ddewiswyd. 

  • Cwrs sydd ar gael: Mae'n rhaid i gwrs gael ei roi ar gael cyn y gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs weld neu gyrchu'r cwrs a'i gynnwys. 

  • Diwrnodau argaeledd cwrs: y nifer o ddiwrnodau mae cyrsiau wedi bod ar gael i fyfyrwyr. 

  • Asesiad: eitemau asesu a ddefnyddir mewn cwrs, yn cynnwys aseiniadau, profion ac arolygon. 


B


C

  • Maint dosbarth: y nifer o gofrestriadau myfyrwyr wedi'u rhannu â'r nifer o bobl sydd â rôl hyfforddwr yn y cwrs.

  • Nifer y cyrsiau: y nifer o gyrsiau.

  • Hyd y cwrs: yr amser rhwng dyddiad dechrau a dyddiad gorffen cwrs. 

  • Gradd derfynol bresennol: yn mesur y sgôr gradd wedi'i normaleiddio (%) ar gyfer myfyriwr mewn cwrs. Er enghraifft, byddai gan fyfyriwr ar gwrs sydd â chyfanswm gradd o 15 allan o 20 o bwyntiau radd wedi'i normaleiddio o 75% a byddai'n cael ei gyfrif yn y band 70-79%. Mae'r mesur hwn dim ond yn cynnwys cyrsiau lle cyhoeddwyd gradd ac mae'n cyfrif myfyrwyr gweithredol yn unig. 

    • Ar gyfer cwrs wedi'i gwblhau, cyfrifir y radd derfynol bresennol â'r radd a adroddwyd yn y golofn graddio allanol yn Blackboard Learn. 

    • Ar gyfer cyrsiau heb eu cwblhau, cyfrifir y radd derfynol bresennol â'r radd bresennol a gwybodaeth bresennol am yr asesiadau sydd i ddod i greu gradd a ragwelir. Mae sgoriau a ragwelir yn cymryd na fydd perfformiad myfyrwyr yn newid o'i gymharu ag asesiadau wedi'u cwblhau.  

  • Eitemau o gynnwys cwrs: unrhyw adnodd hyfforddi neu astudio. Mae eitemau o gynnwys yn cynnwys eitemau hyfforddi cwrs a ddefnyddir mewn cwrs, yn cynnwys meysydd llafur, atodiadau ffeil, modiwlau dysgu, pecynnau SCORM, a dolenni i gynnwys neu offer trydydd parti. 

  • Ystod dyddiadau cymharu: y cyfnod rydych eisiau cymharu eich prif ystod dyddiadau ag ef. 

  • Ystafell gwrs: sesiwn sydd ar agor ar gyfer eich cwrs yn benodol.

  • Offeryn Cwrs: eitemau offer cwrs a ddefnyddir mewn cwrs, yn cynnwys cyhoeddiadau, fforymau trafod, wikis, blogiau a dyddlyfrau. 


D


E


F

  • Amlder mynediad gan fyfyrwyr: yn mesur y canran o'r diwrnodau sydd ar gael pan fydd myfyrwyr yn ymweld â chwrs. Mae'r mesur hwn yn cyfrif myfyrwyr gweithredol yn unig. Os yw'r cwrs wedi dod i ben, bydd y canran yn seiliedig ar y cyfanswm o ddiwrnodau'r cwrs o'r dechrau i'r diwedd. Os yw'r cwrs yn parhau, bydd y canran yn seiliedig ar y nifer o ddiwrnodau mae'r cwrs wedi bod ar gael amdanynt hyd yn hyn. 

G

  • Cofrestriadau wedi'u graddio a heb eu graddio: cyfrif nifer y cofrestriadau myfyrwyr gweithredol sydd ag eitemau wedi'u graddio ac eitemau heb eu graddio mewn cwrs.
  • Dosbarthiad Graddau: yn dangos taeniad graddau mewn cwrs. Mae canran dosbarthiad graddau llai yn golygu bod gan fwy o fyfyrwyr raddau tebyg. Cyfrifir dosbarthiad graddau fel y gwahaniaeth rhwng y chwartel 75% uchaf a'r chwartel 25% isaf mewn set o raddau (amrediad rhyngchwartel).
  • Ffin raddau: y radd isaf sydd ei hangen i gael gradd benodol. Er enghraifft, bydd myfyrwyr â gradd 70% neu fwy yn pasio. Bydd myfyrwyr â gradd sy'n llai na 70% yn methu. Yn yr enghraifft hon, 70% yw'r ffin raddau.

H


I

  • Cofrestriadau myfyrwyr segur: myfyrwyr a gofrestrwyd ar gwrs heb weithgarwch drwy'r cwrs i gyd. 

  • O fewn yr amser graddio: pan fydd hyfforddwr yn dychwelyd gradd cyn neu ar yr Amser Graddio a Ddisgwylir (diwrnodau) a ddewiswyd yn y Rheolyddion. 

  • Cofrestriadau hyfforddwyr: defnyddwyr a gynhwysir mewn rhestr cwrs dan rôl hyfforddwr. 

  • Amlder mynediad at gwrs gan hyfforddwyr: y canran o ddiwrnodau'r cwrs sydd ar gael y mae hyfforddwr neu hyfforddwyr wedi ymweld â chwrs. Os yw'r cwrs wedi dod i ben, bydd y canran yn seiliedig ar y cyfanswm o ddiwrnodau'r cwrs o'r dechrau i'r diwedd. Os yw'r cwrs ar waith, bydd y canran yn seiliedig ar y nifer o ddiwrnodau mae'r cwrs wedi bod ar gael amdanynt hyd yn hyn. Os oes gan gwrs fwy nag un hyfforddwr, bydd y mesur hwn yn ystyried data ar gyfer pob hyfforddwr sydd wedi cofrestru ar y cwrs hwnnw.

  • Cymhareb ymgysylltiad hyfforddwyr-myfyrwyr: yr amser ar gyfartaledd, mewn oriau, mae cofrestriadau hyfforddwyr yn ei dreulio mewn cwrs, wedi'i rannu gan amser ar gyfartaledd, mewn oriau, mae myfyrwyr yn ei dreulio mewn cwrs.

  • Ymgysylltiad hyfforddwyr ag ystafelloedd dosbarth rhithwir: yr amser mewn oriau, mae cofrestriadau hyfforddwyr yn ei dreulio mewn sesiynau Collaborate.


J


K


L

  • Dyddiad cyrchu cwrs diwethaf: yn seiliedig ar y dyddiad y cafodd defnyddwyr fynediad at eich cwrs ddiwethaf. 

  • Dyddiad cymryd rhan mewn cwrs diwethaf: yn seiliedig ar weithgarwch cyffredinol myfyrwyr yn eich cwrs. Mae Blackboard yn mesur yr amser y mae myfyriwr yn gweithio mewn cwrs gan ddefnyddio'r data a gynhyrchir o “gliciadau.” Tybir bod myfyriwr yn gweithio gyda chwrs o'r adeg y maent yn clicio ar rywbeth yn y cwrs tan yr adeg y maent yn clicio ar rywbeth y tu allan i'r cwrs neu'n allgofnodi. Os daw amser sesiwn i ben, bydd Blackboard yn cyfrif yr amser hyd at y clic olaf yn y cwrs yn unig. Ni chyfrifir yr amser rhwng y clic olaf yn y cwrs a’r amser yn dod i ben. 

  • Asesiadau hwyr: asesiadau a gwblhawyd ar ôl y dyddiad cyflwyno. 

  • Offer dysgu: mae pob offeryn sydd ar gael yn yr LMS, o'r offer parod fel trafodaethau, aseiniadau ac ati i ategion ac LTI trydydd parti. 


M


N


O

  • Tu allan i'r amser graddio: pan fydd hyfforddwr yn dychwelyd gradd ar ôl yr Amser Graddio a Ddisgwylir (diwrnodau) a ddewiswyd yn y Rheolyddion. 

  • Asesiadau ar amser: asesiadau a gwblhawyd ar neu cyn y dyddiad cyflwyno. 

  • Asesiadau gorddyledus: asesiadau heb eu cwblhau. Mae'r dyddiad cyflwyno wedi mynd.


P

  • Myfyrwyr sydd wedi bod yn weithredol yn flaenorol: myfyrwyr a gyflawnodd weithgaredd mewn cwrs 8 diwrnod neu fwy yn ôl.  

  • Prif ystod dyddiadau: y cyfnod rydych eisiau ei osod fel dyddiad sylfaen. 


Q


R

  • Myfyrwyr sydd wedi bod yn weithredol yn ddiweddar: myfyrwyr a gyflawnodd weithgaredd mewn cwrs yn y 7 diwrnod diwethaf. 

S

  • Pecynnau SCORM: Un math o gynnwys dysgu ar y we y gallwch ei ddefnyddio yn eich cwrs yw SCO, neu Wrthrych Cynnwys Rhanadwy. Mae'r SCOs hyn yn cael eu casglu at ei gilydd mewn ffeil ZIP wedi'i chywasgu a elwir yn becyn cynnwys. Gellir dadbacio a chwarae'r ffeil wedi'i sipio trwy chwaraewr cynnwys. Yn gyffredinol, darperir cydrannau unigol neu becynnau cyfan i chi gan ysgolion, cyhoeddwyr, cwmnïau masnachol, neu o ffynonellau eraill. 

    • Eich sefydliad sy’n rheoli a alluogwyd y Peiriant SCORM. Os yw eich sefydliad wedi'i alluogi, Peiriant SCORM B2 fydd y chwaraewr cynnwys diofyn ar gyfer pob pecyn cynnwys a uwchlwythir o'r newydd, ynghyd ag unrhyw becynnau cynnwys presennol sy'n cael eu hail-uwchlwytho. 
  • Cofrestriadau myfyrwyr: defnyddwyr a gynhwysir mewn rhestr cwrs dan rôl myfyriwr.

  • Cyfranogiad myfyrwyr yn Collaborate: y canran o amser mae cofrestriadau myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau cwrs cydamserol yn Collaborate. Mae'r mesur hwn yn seiliedig ar y cyfanswm fesul cwrs o oriau ar gyfer sesiynau pan oedd myfyrwyr a hyfforddwyr yn bresennol. Mae'r mesur hwn yn cyfrif myfyrwyr gweithredol yn unig. Os nad ydych yn defnyddio Collaborate, ni ddangosir unrhyw ddata.

  • Sesiwn cydamserol: sesiwn Blackboard Collaborate lle mae myfyrwyr a hyfforddwyr yn bresennol. 

  • Cyflwyniad: pan fydd myfyrwyr yn gorffen aseiniad ac yn dewis Cyflwyno.


T


U

  • Defnyddiwr/mynychwr unigryw: mae gan bob defnyddiwr neu fynychwr rif adnabod gwahanol i sicrhau nid ystyrir yr un defnyddiwr ddwywaith, er enghraifft, os yw'n ymuno â'r un sesiwn dwywaith. 

  • Myfyriwr unigryw: mae gan bob myfyriwr rif adnabod unigryw i sicrhau nid ystyrir yr un defnyddiwr ddwywaith.

  • Asesiadau ar ddod: asesiadau heb eu cwblhau. Mae'r dyddiad cyflwyno yn y dyfodol. 


V


W


X


Y


Z