Mae'r adroddiad Gweithgarwch a Defnydd Offer Dysgu yn eich helpu i ddeall ac ateb:  

  • Gweithgarwch Defnyddiwr 

    • Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol? 

      Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol yn ôl rôl? 
    • Beth yw dosbarthiad defnyddwyr gwahanol ar gyfartaledd wythnosol? 

    • Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol yn ôl dyddiad? 

    • Beth yw cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs mewn munudau? 

    • Beth yw dosbarthiad cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs ar gyfartaledd wythnosol? 

    • Beth yw cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs mewn munudau yn ôl dyddiad? 

  • Gweithgarwch Cwrs 

    • Faint o gyrsiau gweithredol a segur sy'n defnyddio offer dysgu? 

 

Ffynhonnell Ddata: Blackboard Learn 

 

Defnyddio Rheolyddion 

Gallwch ddefnyddio'r adran Rheolyddion i hidlo a mireinio'r data a ddangosir ym mhob tab adroddiad yn seiliedig ar eich anghenion. Mae gan bob tab set benodol o Rheolyddion neu hidlyddion y gallwch eu defnyddio. Gallwch fynd yn ôl unrhyw bryd i ailosod eich rheolyddion.  

Cael disgrifiad mwy manwl o bob rheolydd yn ein Hadran Rheolyddion Rhestr Termau Adroddiadau Anthology Illuminate

 

Gweithgarwch Defnyddiwr 

Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr offer dysgu unigryw yn eich sefydliad. 

Ystyriwch:  

 

Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol yn ôl rôl? 

Mae'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol yn ôl rôl yn dangos y brif 5 rôl sydd wedi cyrchu offer dysgu.  

Ystyriwch:  

  • Grwpir rolau ychwanegol yn Arall. 
  • Os byddwch yn hidlo yn ôl un o'r brif 5 rôl, bydd y graff yn amlygu data'r rôl honno. 

 

Beth yw dosbarthiad defnyddwyr gwahanol ar gyfartaledd wythnosol? 

Mae dosbarthiad defnyddwyr gwahanol ar gyfartaledd wythnosol yn mesur y nifer o ddefnyddwyr unigryw a gyrchodd offer dysgu bob dydd dros wythnos.  

Ystyriwch: 

  • Mae'r data yn dangos y cyfartaledd dyddiol ar gyfer y Brif Ystod Dyddiadau a ddewisoch. 
  • Er enghraifft, bydd Dydd Sul yn dangos cyfartaledd pob dydd Sul o fewn y Brif Ystod Dyddiadau a ddewisoch.  
  • Yn ddiofyn, bydd y data yn dangos y 30 diwrnod diwethaf.  

 

Beth yw'r nifer o ddefnyddwyr gwahanol yn ôl dyddiad? 

Mae'r graff llinell hwn yn dangos y nifer o ddefnyddwyr unigryw a gyrchodd offer dysgu yn ôl dyddiad. 

 

Beth yw cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs mewn munudau? 

Mae'r KPI hwn yn dangos y cyfanswm o funudau mae ddefnyddwyr wedi'u treulio yn ymgysylltu ag offer cwrs. 

Ystyriwch:  

  • Rhoddir y gwahaniaeth canrannol yn ôl y gwahaniaeth o ran y cyfanswm o funudau mae defnyddwyr wedi'u treulio yn ymgysylltu ag offer cwrs yn y Brif Ystod Dyddiadau a'r Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 
  • DIV/0: Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer yr Ystod Dyddiadau Cymharu a ddewisoch. 

 

Beth yw dosbarthiad cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs ar gyfartaledd wythnosol? 

Mae dosbarthiad cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs ar gyfartaledd wythnosol yn mesur y nifer o funudau mae defnyddwyr wedi'u treulio yn ymgysylltu ag offer cwrs ar gyfartaledd dros wythnos.  

Ystyriwch: 

  • Mae'r data yn dangos y cyfartaledd dyddiol ar gyfer y Brif Ystod Dyddiadau a ddewisoch. 
  • Er enghraifft, bydd Dydd Sul yn dangos cyfartaledd pob dydd Sul o fewn y brif ystod dyddiadau a ddewisoch.  
  • Yn ddiofyn, bydd y data yn dangos y 30 diwrnod diwethaf. 

 

Beth yw cyfanswm gweithgarwch offeryn cwrs mewn munudau yn ôl dyddiad? 

Y nifer o munudau ar gyfartaledd mae defnyddwyr unigryw wedi'u treulio yn ymgysylltu ag offer cwrs yn ôl dyddiad. 

 

Gweithgarwch Cwrs 

Faint o gyrsiau gweithredol a segur sy'n defnyddio offer dysgu? 

Mae'r siart toesen hwn yn dangos y nifer o gyrsiau gweithredol sydd ar gael sy'n defnyddio offer dysgu