Ble mae dechrau graddio?
Gallwch ddewis ble rydych am ddechrau graddio!
Ydych chi am weld faint o aseiniadau sy’n barod i gael eu marcio ymhob un o’ch cyrsiau? Yn y rhestr lle mae eich enw’n ymddangos, mae gennych fynediad ar unwaith i holl dasgau graddio eich cyrsiau ar y dudalen Graddau byd-eang. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu trefnu yn ôl cwrs. Gallwch sganio eich cynnydd yn gyflym, pennu blaenoriaethau ar draws y bwrdd, a hyd yn oed dechrau graddio. Nid oes angen llywio i bob cwrs i weld beth sydd yn barod ar gyfer graddio.
Mae'r dudalen yn dangos gwybodaeth dim ond os oes angen i chi gymryd camau. Byddwch yn gweld pa aseiniadau sy’n barod i gael eu marcio, ynghyd â phwy sy’n hwyr yn dychwelyd gwaith.
Eisiau lleihau eich ffocws? Mewn cwrs gallwch gyrchu’r llyfr graddau ar y bar llywio. Gallwch weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.
O'r ffrwd gweithgarwch, cewch eich hysbysu pan fydd gwaith myfyrwyr yn barod i gael ei farcio. Dewiswch y ddolen i fynd i’r llyfr graddau. Fel arall, dewiswch aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs i weld y nifer o fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno gwaith.
Dechrau graddio o aseiniad
Pan fyddwch yn cyrchu aseiniad, mae'r dudalen Cynnwys a Gosodiadau yn dangos y cyfarwyddiadau a ffeiliau rydych wedi'u darparu, a manylion fel y dyddiad cyflwyno. Dewiswch yr eicon Gosodiadau i wneud newidiadau. Er enghraifft, gallwch newid y sgema graddio unrhyw bryd a bydd y newid yn ymddangos i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.
Gweld y cyfarwyddyd. Os ydych wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r aseiniad, gallwch ei adolygu.
Rhagor am raddio â chyfarwyddiadau
Cadw i fyny gyda'r sgwrs. Os ydych wedi caniatáu sgyrsiau am yr aseiniad hwn, dewiswch eicon Agor sgwrs dosbarth. Gall myfyrwyr drafod yr aseiniad gyda chi a'u cyd-ddisgyblion. Wrth i'r sgwrs ddatblygu, mae ond yn ymddangos gyda'r aseiniad perthnasol.
Bydd cylch bach yn ymddangos gyda'r eicon i ddynodi gweithgarwch newydd.
Gwirio faint sydd angen cael eu graddio. Dewiswch y ddolen Cyflwyniadau i weld faint o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r aseiniad.
Mireinio cwestiynau. Os ydych wedi cynnwys cwestiynau, efallai bydd angen arnoch wneud cywiriadau ar ôl i fyfyrwyr agor aseiniad neu aseiniad grŵp. Er enghraifft, efallai eich bod wedi dewis yr ateb anghywir, wedi dod o hyd i wall sillafu, neu eisiau newid pwyntiau neu opsiynau sgorio. Gallwch wneud newidiad y bydd pob myfyriwr yn ei weld a diweddaru pob gradd yn awtomatig.
Tudalen rhestr cyflwyniadau aseiniad
Mae'r dudalen rhestr cyflwyniadau'n dangos yr holl fyfyrwyr cofrestredig. Gallwch chwilio am fyfyriwr neu grŵp a dewis sawl eitem i'w dangos ar y dudalen. Mae'r system yn cofio eich dewis, felly os fyddwch yn gadael ac yn dychwelyd yn ddiweddarach, fe gedwir y gosodiad yn y sesiwn nesaf. Gallwch ddewis pa dudalen i'w gweld ar waelod y sgrin.
Defnyddiwch y ddewislen Hidlo i ddangos y cyflwyniadau hynny sydd angen eu graddio yn unig. Ar yr adeg hon, gallwch hidlo yn ôl Pob statws ac Angen ei Raddio. Nid yw’r ddewislen Hidlo yn ymddangos ar gyfer eitemau mewn grwpiau neu drafodaethau.
Cadw golwg ar yr holl gyflwyniadau ar un dudalen. Gallwch weld pa ymdrechion sy’n barod i’w graddio’n gyflym. Bydd lluniau proffil myfyrwyr yn ymddangos â chylch coch pan fyddant yn hwyr yn cyflwyno eu gwaith neu pan fydd y dyddiad dyledus wedi mynd heibio heb fod wedi cyflwyno unrhyw ymgais.
Cyrchu’r manylion. Adolygwch y cyfarwyddiadau a’r gosodiadau ar unrhyw adeg. Er enghraifft, dewiswch y ddolen Cynnwys a Gosodiadau i ddychwelyd i'r dudalen aseiniad.
Gweld myfyrwyr sydd â chymwysiadau. Gallwch osod cymwysiadau ar gyfer myfyrwyr unigol a'u heithrio rhag gofynion, megis dyddiadau cyflwyno gwaith a therfynau amser asesu. Defnyddiwch gymwysiadau i helpu myfyrwyr i symud ymlaen ar y cwrs er y bydd ganddynt anawsterau gyda rhai o’r gofynion. Yn y llyfr graddau a'r gofrestr, mae eiconau’n ymddangos wrth ochr enwau myfyrwyr â chymwysiadau.
Adolygu’r sgwrs. Dewiswch yr eicon Sgwrs ddosbarth agored i weld beth mae myfyrwyr yn ei ddweud.
Lawrlwytho cyflwyniadau. I gyflymu'ch proses raddio, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer asesiadau a’u gweld all-lein. Gallwch lawrlwytho'r cyfan neu gyflwyniadau penodol yn unig fel ffeil ZIP unigol.
Rhagor am lawrlwytho cyflwyniadau
Dechrau graddio. Dewiswch enwau'r myfyrwyr i gyrchu eu cyflwyniadau unigol, a neilltuo graddau a rhoi adborth. Teipiwch werth rhifol gyda dim mwy na phum digid. Gallwch gynnwys dau ddigid ychwanegol ar ôl y pwynt degol. Gallwch hefyd neilltuo graddau yn uniongyrchol ar y dudalen hon. Mae’r graddau hyn yn raddau gwrthwneud. Mae label gwrthwneud yn ymddangos wrth ymyl y radd. Ar ôl i chi neilltuo gwerth, cliciwch unrhyw le y tu allan i’r maes gradd i arbed.
Barod i gyhoeddi graddau? Mae Postio yn ymddangos drws nesaf i bob gradd nad ydych wedi'i rhyddhau eto. Gallwch ddewis y graddau i’w cyhoeddi a phryd. Mae graddau sydd wedi cael eu postio'n ymddangos gyda neges Wedi'i phostio yn y golofn. Hefyd, gallwch raddio'r holl gyflwyniadau ar gyfer eitem yn olynol ac wedyn dewis Postio'r holl raddau i ryddhau'r holl raddau mewn un weithred.
Pan fyddwch yn postio graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn dangos i fyfyrwyr.
Os ydych yn dewis peidio dangos atebion cywir ar gyfer cwestiynau a farcir yn awtomatig, dychwelwch i banel gosodiadau'r asesiad a dewis y blwch ticio Dangos atebion cywir.
Rhagor am ddangos atebion cywir
O dudalen cyflwyniad myfyriwr, defnyddiwch y ddewislen nesaf i'r bilsen gradd i ychwanegu eithriad ar gyfer yr aseiniad. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r aseiniad wedi'i guddio o fyfyrwyr eraill.. Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau ar ôl i chi bostio graddau.
Rhagor am eithriadau asesiadau
Gweld stampiau amser cyflwyniadau
Pan fyddwch yn dechrau neu'n adolygu graddio, gallwch gyfeirio at stamp amser cyflwyniad i weld mwy o wybodaeth. Mae stampiau amser yn ymddangos ar dudalennau cyflwyniad myfyrwyr ac ar eu paneli ymdrechion pan fyddwch chi wedi caniatáu mwy nag un ymgais ar asesiad.
Er enghraifft, ar dudalen cyflwyniad myfyriwr, gallwch weld pryd wnaeth y myfyriwr wneud y cyflwyniad a phryd y gwnaethoch chi gyhoeddi’r radd. Mae’r stamp amser yn ymddangos mewn coch gyda label “hwyr” ar ôl i’r dyddiad cyflwyno basio.
Ar gyfer ymgeisiau lluosog, ar y dudalen rhestr Cyflwyniadau, dewiswch enw myfyriwr i agor y panel ymgeisiau. Pwyntiwch at stamp amser i weld y wybodaeth ychwanegol.
Panel adborth
Agorwch ymgais. Ar y dudalen Cyflwyniad, dewiswch eicon adborth i agor y panel adborth. Mae’r panel yn parhau yn ei le wrth i chi sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd.
Pan fyddwch yn postio graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn dangos i fyfyrwyr.
Mewnosod recordiad adborth yn y golygydd
Gallwch blannu recordiad sain neu fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio ymgeisiau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun a gynhwysir gennych.
Ni chefnogir y nodwedd hon ar bob porwr. Am y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.
Bb Annotate
Gallwch anodi a graddio ffeiliau myfyrwyr yn uniongyrchol yn y porwr â Bb Annotate.Cefnogir Bb Annotate ar yr un porwyr mae Blackboard Learn yn eu cefnogi.
Bb Annotate
Gallwch ddefnyddio BB Annotate ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau. Mae Bb Annotate yn cynnig cyfres o nodweddion sy’n fwy cadarn i roi adborth y gellir ei addasu i fyfyrwyr. Mae'r nodweddion yn cynnwys gwedd crynodeb bar ochr, offer lluniadu â llaw, gwahanol liwiau a llawer mwy.
Llif gwaith graddio BB Annotate
Ar dudalen Cyflwyniad yr Aseiniad, mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn agor yn y porwr. Gallwch weld ac anodi'r mathau hyn o ddogfennau yn y porwr:
- Microsoft® Word (DOC, DOCX)
- Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
- Microsoft® Excel®(XLS, XLSX)
- Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
- Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP, HEIC)
- Cod ffynhonnell (Java, PY, C, CPP, ac ati)
- Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
- PSD
- RTF
- txt
- WPD
Ni chefnogir Macros Office Suite, megis Visual Basic.
Daw sesiynau anodi i ben ar ôl awr. Byddwch yn derbyn neges rhybudd cyn i'ch sesiwn ddod i ben. Cedwir eich anodiadau, adborth a ffeiliau a gwblhawyd ar y dudalen. Pan fyddwch yn dychwelyd, gallwch ailddechrau gweithio.
Mae gifs wedi’u hanimeiddio ond yn dangos y ffrâm gyntaf yn y dangosydd PDF at ddibenion anodi. Lawrlwythwch y cyflwyniad i weld y gif wedi’i animeiddio.
Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu Os yw myfyriwr wedi cyflwyno ffeil heb ei chefnogi, gofynnir i chi ei lawrlwytho. Nid yw cyflwyniadau aseiniadau a grëir yn y golygydd yn gydnaws â graddio mewnol.
Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau presennol Firefox, Chrome, Edge, a Safari.
Fel rhan o’r dyluniad ymatebol, mae ymddangosiad y ddewislen yn newid yn seiliedig ar faint y sgrin. Ar sgriniau canolig a bach, mae’r gosodiadau Gweld y Ddogfen yn dangos rhif y dudalen rydych yn ei gweld. Mae offer anodi mewn pentwr dan eicon Gweld Offer Anodi. Ar sgriniau llai, cuddir y Llyfrgell o Gynnwys.
Opsiynau'r ddewislen o'r chwith i'r dde
- Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad neu Anodiad o’r cyflwyniad.
- Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
- Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
- Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
Offer anodi: Dewiswch bob offeryn i weld priodweddau’r offeryn.
Cedwir eich dewis ar gyfer pob offeryn rhwng cyflwyniadau.
- Lluniadu, Brwsh, a Dilëwr: Lluniadu’n llawrydd ar y cyflwyniad â gwahanol liwiau, trwch ac anhryloywder. Dewiswch y dilëwr i dynnu anodiadau. Gallwch ddileu rhannau o luniad llawrydd â'r dilëwr neu dewiswch yr eicon Dileu i ddileu’r lluniad cyfan.
- Delwedd neu Stamp: Dewis stamp a lwythwyd ymlaen llaw neu greu stamp neu ddelwedd bersonol eich hun i’w hychwanegu at y cyflwyniad.
- Dadwneud: Dadwneud neu ddychwelyd y peth diwethaf a wnaethoch.
- Ailwneud: Gwneud y peth diwethaf a wnaethoch eto.
- Testun: Ychwanegu testun yn uniongyrchol ar y cyflwyniad. Gallwch symud, golygu a newid y testun a dewis y ffont, maint, aliniad a lliw'r testun.
- Siapiau: Dewis Llinell, Saeth, Petryal, Elips, Polygon, a Polylinell. Mae gan bob siâp ei osodiadau ei hun i newid y lliw, trwch, anhryloywder a mwy.
Sylw: Rhoi adborth mewn sylwadau. Mae eich sylwadau yn ymddangos mewn panel wrth ochr y cyflwyniad. Gallwch wneud eich sylwadau'n ddienw drwy ddewis y botwm Dienw. Mae gennych yr opsiwn i wneud sylwadau dienw dim ond os yw'ch sefydliad wedi'u troi ymlaen.
Gall myfyrwyr gyrchu’r ffeiliau wedi’u hanodi ond ni fydd modd iddynt ychwanegu anodiadau yn eu cyflwyniadau.
Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.
Mae'n bosibl y bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.
- Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol.
Llyfrgell o Gynnwys: Creu banc o sylwadau y gellir eu hailddefnyddio. Gallwch ychwanegu, golygu, dileu a chwilio am sylwadau yn y llyfrgell. Gallwch hefyd ychwanegu sylw'n uniongyrchol at dudalen y cyflwyniad o'r ddewislen. Dewiswch yr arwydd plws i ychwanegu sylw newydd at y Llyfrgell o Gynnwys. Gallwch Rhoi sylw, Copïo i'r Clipfwrdd, Golygu, neu Dileu cynnwys o'r llyfrgell. Teipiwch allweddeiriau neu ymadroddion i chwilio am sylwadau a gadwyd.<
Mae’r Llyfrgell o Gynnwys dim ond ar gael mewn amgylcheddau SaaS.
- Amlygydd: Dewis rhannau penodol o’r cyflwyniad i’w hamlygu. Wrth i chi amlygu testun ar y cyflwyniad, bydd dewislen ychwanegol yn agor. Gallwch amlygu, rhoi llinell drwodd, tanlinellu, sgwiglo neu wneud sylw ar yr adran a amlygir.
Gwylio fideo am Annotate yn Blackboard Learn
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mae Annotate yn Blackboard Learn yn darparu taith o amgylch yr offer Anotate sydd ar gael ar gyfer graddio mewnol yn eich cyrsiau Blackboard Learn.
Graddio aseiniad sydd ag ymgeisiau lluosog
Pan fyddwch yn creu aseiniad, gallwch ddewis caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno mwy nag un ymgais. Mae ymgeisiau lluosog yn newid sut mae gradd derfynol yr aseiniad yn cael ei chyfrifo'n awtomatig. Dewiswch sut rydych eisiau cyfrifo'r radd derfynol:
- Cyfartaledd yr holl geisiadau
- Cais cyntaf â gradd
- Cais â'r radd uchaf
- Cais olaf â gradd
- Cais â'r radd isaf
Ni allwch ganiatáu ymgeisiau lluosog ar aseiniad grŵp neu pan fyddwch yn casglu cyflwyniadau all-lein.
Mae'r gosodiad Graddio ymgeisiau yn pennu sut mae'r radd derfynol yn cael ei chyfrifo'n awtomatig, ond mae gennych yr opsiwn i wrthwneud y radd derfynol. Mae pob ymgais yn destun y dyddiad cyflwyno y gwnaethoch ei bennu ar gyfer yr aseiniad. Os yw myfyriwr yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad dyledus, caiff y cais ei farcio'n hwyr. Dangosir ymdrechion a gyflwynwyd cyn y dyddiad cau fel ar amser.
Gallwch wrthwneud dim ond y radd derfynol, nid y graddau ar gyfer pob ymgais.
Mwy am oblygiadau gwrthwneud graddau
Gweld ymgeisiau unigol
Gallwch raddio aseiniad gydag ymgeisiau lluosog o'r un lleoedd yr ydych yn graddio aseiniad cyffredin:
- Ffrwd gweithgarwch
- Llyfr Graddau
- Yr aseiniad
Pan fyddwch yn dewis enw myfyriwr, bydd panel yn ymddangos sy'n dangos pob ymgais, ynghyd â'r dyddiad cyflwyno. Dewiswch ymgais i weld y cyflwyniad.
Mae'r eicon adborth yn ymddangos drws nesaf i bob ymgais. Dewiswch yr eicon i agor y panel adborth, sy'n parhau ar ochr y sgrîn. Gallwch sgrolio drwy'r aseiniad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd.
Defnyddiwch y panel y gellir ei gwympo neu ei ehangu ar y dde i lywio drwy dabiau fel cyfarwyddiadau, adborth ac adroddiad gwreiddioldeb. Gallwch hefyd lywio i'r wedd cyflwyniad a thabiau'r panel â bariau sgrolio gwahanol. Mae bariau sgrolio annibynol yn caniatáu i hyfforddwyr neu raddwyr sgrolio i fyny ac i lawr drwy gynnwys y cyflwyniad heb effeithio ar lywio'r tab ochr neu'r pennyn. Defnyddiwch gyfarwyddiadau mewn modd mwy ymarferol a rhoi adborth sy'n canolbwyntio ar ran benodol o'r cyflwyniad.
Neges Atgoffa: Pan fyddwch yn postio graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn dangos i fyfyrwyr.
Os ydych wedi defnyddio cyfarwyddyd neu gwestiynau sy'n cael eu sgorio'n awtomatig, mae'n bosib bod y radd ar gyfer yr ymgais yn bodoli eisoes.
Graddau terfynol
Cyfrifir y radd derfynol ar gyfer aseiniad ymgeisiau lluosog yn seiliedig ar y gosodiad Ymgeisiau Gradd a ddewisoch yn y Gosodiadau Aseiniad. Yn y panel sy'n rhestru ymgeisiau myfyriwr, mae'r radd derfynol yn ymddangos pan raddir yr ymgeisiau hynny. Er enghraifft, os cyfrifir y radd derfynol yn seiliedig ar yr ymgais sydd wedi ennill y radd uchaf, mae'r radd derfynol yn ymddangos yn syth ar ôl i un ymgais gael ei raddio. Ond, gall y radd newid wrth i chi barhau i raddio mwy o ymgeisiau.
Ar ôl i chi orffen graddio'r ymgeisiau, gallwch bostio'r radd derfynol i'r myfyriwr ei gweld.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Mae aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog yn rhestru'r nifer o ymgeisiau a ganiateir, yn ogystal â sut mae'r radd derfynol yn cael ei chyfrifo. Mae myfyrwyr yn gweld y wybodaeth hon ar y dudalen Manylion a Gwybodaeth cyn iddynt ddechrau. Pan y cyhoeddir y graddau, gall myfyrwyr weld graddau ar gyfer pob un o’u hymdrechion, yn ogystal â'r radd derfynol. Os ydych yn penderfynu gwrthwneud y radd derfynol, mae neges yn ymddangos i adael i'r myfyriwr wybod.
Rhagor am sut mae myfyrwyr yn cyrchu aseiniadau yn Blackboard Learn
Graddio aseiniad â therfyn amser
Pan fyddwch yn caniatáu i fyfyrwyr weithio y tu hwnt i'r terfyn amser ar gyfer aseiniad, gallwch weld pa aseiniadau a aeth y tu hwnt i'r terfyn amser. Os ychwanegoch gwestiynau, gallwch weld hefyd faint o gwestiynau a atebwyd ar ôl y terfyn amser.
Mwy ar raddio gwaith gyda therfyn amser - ceir esiamplau yn y wybodaeth ar raddio profion