Mae'r Adroddiad Crynodeb Myfyriwr yn darparu gwybodaeth fanwl y gellir ei gweithredu am un myfyriwr ar draws pob un o'i gyrsiau. 

Gellir ehangu rhai o'r derminoleg a ddefnyddir yn yr adroddiad yn ein Rhestr Termau.

 

Ffynhonnell Ddata: Blackboard Learn.


Defnyddio Rheolyddion

Yn wahanol i adroddiadau eraill, nid yw'r adroddiad hwn wedi'i hidlo ymlaen llaw; mae wedi'i osod er mwyn i chi greu adroddiad sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Yr unig beth mae angen i chi ei wneud yw dewis yr hidlyddion i nodi'r myfyriwr penodol rydych eisiau ei adolygu a'r gweithgaredd ffâm amser penodol. 

Gallwch ddewis gweld gweithgarwch y myfyriwr gan ddefnyddio:

  • Mae'r hidlydd Dangos Gweithgarwch o fewn yn caniatáu i chi: 
    • Gweld yr holl weithgarwch myfyrwyr
    • Agor y posibilrwydd o ddewis ystod dyddiadau benodol

      Pan fyddwch yn dewis ystod dyddiadau benodol, bydd y ffrâm amser honno dim ond yn berthnasol i batrymau data sydd wedi'u marcio â'r eicon hwn: 🗓️

    • Gweld dim ond gweithgarwch o fewn y tymhorau presennol a nodwyd gan eich sefydliad. Mae hyn yn defnyddio dyddiad dechrau a dyddiad gorffen tymor y mae dyddiad heddiw rhyngyddynt.
    • Gweld dim ond y 3 wythnos diwethaf yn unig, sy'n defnyddio'r dyddiad presennol fel y dyddiad gorffen ac oediad 3 wythnos a gyfrifir ar gyfer y dyddiad dechrau.
  • neu,
  • Mae'r hidlydd Dangos Cyrsiau o fewn Tymhorau yn rhestru dim ond y tymhorau sy'n gysylltiedig â chyrsiau mae'r myfyriwr penodol wedi cofrestru arnynt. Byddai hyn yn hidlo'r holl batrymau data i gynnwys data o gyrsiau yn y tymor/tymhorau a ddewiswyd yn unig.

Cael disgrifiad mwy manwl o bob rheolydd yn ein Hadran Rheolyddion Rhestr Termau Adroddiadau.


Tab Trosolwg

Mae'n crynhoi gweithgarwch cyffredinol myfyriwr dros amser. Defnyddiwch yr hidlyddion uchod i ddangos holl weithgarwch y myfyriwr neu o fewn ystod dyddiadau benodol. 

Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn: 

  • Amser mewn cyrsiau o'i gymharu â chyd-fyfyrwyr
  • Math o gymwysiadau
  • Defnydd Fformatau Amgen
  • Statws cyflwyniadau ym mhob cwrs

Nodiadau ar gyfer y tab hwn:

  • Anfon e-bost: gallwch ddefnyddio'r ddolen e-bost yn y rhes Cyfeiriad E-bost Myfyriwr (yn y tabl Gwybodaeth am y Myfyriwr) i anfon e-bost at fyfyriwr. Unwaith eich bod wedi dewis y ddolen e-bost, cewch eich ailgyfeirio at eich ffurfweddiad e-bost rhagosodedig.
  • Yn y map gwres am amlder mynediad:
    • Gweld cyfanswm y mynediadau drwy gydol y ffrâm amser rydych wedi'i dewis ac am bob diwrnod o'r wythnos mewn cynyddiadau dwy awr.
    • Mae arlliwiau glas mwy tywyll yn dynodi mwy o weithgarwch yn ystod y ffrâm amser honno, gan ddefnyddio cylchfa amser y sefydliad.
    • Pan fo diwrnod ar goll, mae'n golygu nad oes unrhyw weithgarwch gan fyfyrwyr yn yr LMS.

 


Tab Ymgysylltiad a Pherfformiad

Adnabod sut mae'r myfyriwr yn ymgysylltu â chyrsiau a sut mae perfformiad ar raddau yn cydberthyn i'r math o weithgaredd. Mae ymgysylltiad a pherfformiad myfyrwyr o'u cymharu â chyd-fyfyrwyr yn seiliedig dim ond ar y cyrsiau mae'r myfyriwr wedi cofrestru arnynt ac mae eu cyd-fyfyrwyr wedi cofrestru arnyn hefyd.

Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn: 

  • Cyfradd cyfranogi o'i chymharu â chyd-fyfyrwyr
  • Lefel ymgysylltiad (mynediad i eitemau) o'i gymharu â chyd-fyfyrwyr
  • Prydlondeb cwblhau asesiadau
  • Gweithgarwch a pherfformiad (graddau) ym mhob cwrs o'u cymharu â chyd-fyfyrwyr
  • Cynnydd manwl fesul cwrs a fesul asesiad
Nodiadau ar gyfer y tab hwn:
  • Mae asesiadau'n cynnwys unrhyw beth mae angen ei raddio ac sydd â dyddiad cyflwyno: aseiniadau, profion, arolygon, neu hyd yn oed trafodaethau, blogiau a dyddlyfrau.
  • Yn y tabl diwethaf am Sut mae ymgysylltiad a pherfformiad y myfyriwr fesul cwrs:
    • Mae cynnydd asesiad yn cael ei fesur yn ôl y ganran o asesiadau sydd â chyflwyniadau o'i gymharu â chyfanswm asesiadau.
    • Mae top y tabl yn dangos cyfansymiau'r colofnau: swm pan fydd y golofn yn dangos rhifau absoliwt a chyfartaledd pan fydd y golofn yn dangos canrannau.
    • Mae amser mae'r myfyriwr wedi'i dreulio mewn cwrs, cyfanswm y cyflwyniadau, a metrigau cyfanswm rhyngweithiadau yn seiliedig ar chwartelau. Mae modd adnabod chwartelau yn ôl:  
Quartile Icons Tables
  • X: chwartel cyntaf
  • I: ail chwartel
  • II: trydydd chwartel
  • III: pedwerydd chwartel

 


Tab Cofnodydd Gweithgarwch

Mae'n darparu golwg fanwl o weithgarwch gronynnog y myfyriwr o fewn ffrâm amser benodol, gan gynnwys math o gwrs a gweithgaredd (fel cyflwyniadau), sy'n caniatáu i chi adnabod patrymau ac adnabod newidiadau dros amser a datrys problemau. 

Rhai o'r pwyntiau data allweddol yn y tab hwn: 

  • Gweithgarwch yn ôl math o ddigwyddiad (mynediad, cyflwyniadau, cliciau)
  • Gweithgarwch dros amser
  • Log gweithgarwch
Nodyn ar gyfer y tab hwn:
  • Hidlydd Math o Ddigwyddiad: yn y tab hwn, gallwch ddewis dangos dim ond data sy'n gysylltiedig ag un math o ddigwyddiad: 
    • Cyrchu cwrs
    • Cyrchu eitem
    • Mewngofnodi
    • Allgofnodi
    • Cyflwyniad
    • Cyfanswm Mynediad
    • Clicio Ultra