Yn edrych am y nodiadau rhyddhau diweddaraf? Gweld nodiadau rhyddhau ar gyfer SafeAssign.

Offeryn atal llên-ladrad yw SafeAssign sy'n gweithio gyda Blackboard Open LMS 3.3 a'n uwch ac sy'n integreiddio gyda fframwaith ategyn llên-ladrad sefydledig Moodle. Mae SafeAssign yn seiliedig ar algorithm paru testun unigryw sy’n gallu nodi cyfatebiadau union ac anunion rhwng papur a gyflwynwyd a deunydd ffynhonnell. Mae’r algorithm perchnogol hwn yn dadansoddi testun cyflwyniad ac yn optimeiddio’r geiriau a’r termau i’w chwilio yn erbyn ffynonellau data lluosog. Mae canlyniadau a ddychwelir o bob gwasanaeth yn cael eu prosesu ymhellach yn seiliedig ar y pwysau a ddychwelir gan y gwasanaeth chwilio a phwysoli cymharol gan yr algorithm SafeAssign, sy’n pennu’r canlyniad i’w ddychwelyd yn yr Originality Report.

Mae Sgôr Wreiddioldeb gyffredinol SafeAssign ar gyfer cyflwyniad myfyriwr a dolen at yr Originality Report a grëwyd gan SafeAssign yn ymddangos yn Graddiwr Aseiniad Moodle ac yn y Graddiwr Agored.


Ffurfweddu Ategyn SafeAssign

Ewch i Gweinyddiaeth y Safle, Ategolion, Llên-ladrad, Ategyn Llên-ladrad SafeAssign

  1. Dewiswch Galluogi SafeAssign.
  2. Nodwch yr Allwedd a rennir a'r Gyfrinach a rennir ar gyfer Manylion Rôl Hyfforddwr.
  3. Nodwch yr Allwedd a rennir a'r Gyfrinach a rennir ar gyfer Manylion Rôl Myfyriwr.
  4. Nodwch y terfyn amser rydych ei eisiau ar gyfer y storfa.
  5. Dewiswch Gweithgarwch y Global Reference Database i ganiatáu i fyfyrwyr optio i mewn i gyflwyno eu gwaith ar y Global Reference Database i helpu amddiffyn gwreiddioldeb eu gwaith.
  6. Gallwch ddewis ychwanegu iaith at faes testun Datganiad Rhyddhau Sefydliadol yr ydych eisiau ei dangos i bob myfyriwr pan fyddant yn cyflwyno gwaith i SafeAssign.
  7. Dewiswch Cytuno a Chadw i dderbyn Telerau Gwasanaeth a Pholisi Preifatrwydd Blackboard a chwblhau ffurfweddu SafeAssign.

Rhaid galluogi SafeAssign ar eich safle cyn gellir ei ffurfweddu. Cyflwynwch docyn cefnogaeth i alluogi'r ategyn.