Mae SafeAssign yn cymharu eich aseiniadau a gyflwynwyd yn erbyn cyfres o bapurau academaidd i nodi’r meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng yr aseiniadau a gyflwynwyd a gweithiau presennol.

Mae SafeAssign yn effeithiol fel ataliad ac offeryn addysgol. Defnyddiwch SafeAssign i rymuso hyfforddwyr i adolygu aseiniadau a gyflwynwyd am wreiddioldeb a chreu cyfleoedd i helpu myfyrwyr i nodi sut i briodoli ffynonellau yn briodol yn hytrach nag aralleirio.


Ffynonellau SafeAssign

Mae SafeAssign yn seiliedig ar algorithm paru testun unigryw sy’n gallu nodi cydweddu union ac anunion rhwng papur a deunydd ffynhonnell. Cymharir cyflwyniadau yn erbyn nifer o gronfeydd data:

  • Global Reference Database: Yn cynnwys dros 15 miliwn o bapurau a roddwyd gan fyfyrwyr o sefydliadau cleient Blackboard i helpu atal llên-ladrad ar draws sefydliadau.
  • Archifau dogfennau sefydliadol : Yn cynnwys pob papur a gyflwynwyd i SafeAssign gan ddefnyddwyr yn eu sefydliadau priodol.
  • Y Rhyngrwyd: Mae SafeAssign yn chwilio’r we ehangach am destun tebyg gan ddefnyddio gwasanaeth chwilio mewnol.
  • ProQuest ABI/Inform Journal Database: Mae’n cynnwys mwy na 3,000 o gyhoeddiadau, 4.5 miliwn o ddogfennau, a thros 200 o gategorïau pwnc o’r 1970au hyd heddiw, o Hysbysebu i Astudiaethau Menywod.

Global Reference Database

Mae Global Reference Database Blackboard yn gronfa ddata ar wahân lle mae myfyrwyr yn rhoi copïau o’u papurau’n wirfoddol i helpu i hyrwyddo gwreiddioldeb. Mae’r gronfa ddata hon wedi ei gwahanu o gronfa ddata fewnol pob sefydliad ble mae papurau’n cael eu storio gan bob sefydliad cyfatebol. Mae myfyrwyr yn rhydd i ddewis yr opsiwn i wirio eu papurau heb eu cyflwyno i’r Global Reference Database. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu papurau i'r gronfa ddata yn wirfoddol ac yn cytuno i beidio â dileu papurau yn y dyfodol. Mae cyflwyniadau i’r Global Reference Database yn gopïau atodol a roddir yn wirfoddol i’r diben o helpu â gwreiddioldeb. Nid yw Blackboard yn hawlio perchnogaeth ar bapurau a gyflwynwyd.

Peiriant chwilio mewnol

Mae’r mynegeion chwilio rhyngrwyd a ddefnyddir gan SafeAssign wedi eu cynllunio ar gyfer dibynadwyedd, perfformiad, ac effeithiolrwydd yn erbyn nifer fawr yr ymholiadau chwilio a weithredir gan SafeAssign. Ni ellir adnewyddu'r mynegeion chwilio hyn mor aml â'r sawl a ddefnyddir gan wasanaethau chwilio ar y rhyngrwyd i ddefnyddwyr. Yn gyffredinol, gellir disgwyl i’r mynegeion hyn fod yn gyfredol o fewn 1-3 diwrnod o newid. Oherwydd y cyfuniad o’r nodweddion mynegeion chwilio hyn a’r pwysoli a weithredir gan yr algorithm SafeAssign, efallai na fydd y canlyniadau a ddychwelir mewn Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yr un fath â’r canlyniadau a ddychwelir gan wasanaeth chwilio rhyngrwyd defnyddwyr ar gyfer unrhyw frawddeg neu gymal unigol.

Yn flaenorol, roedd Blackboard SafeAssign yn dibynnu ar wasanaeth BOSS Yahoo! i ddarparu canlyniadau ehangach o'r rhyngrwyd. Oherwydd anghymeradwyaeth gwasanaeth BOSS Yahoo! ar 31 Mawrth, 2016, mae Blackboard wedi datblygu gwasanaeth chwilio mewnol i ddarparu canlyniadau o'r rhyngrwyd ar gyfer SafeAssign. Does dim angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth i alluogi gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign, gan fod y newid wedi cael ei wneud yng Ngwasanaeth Canolog SafeAssign ac mae'n berthnasol i bob cleient.

Datblygwyd y gwasanaeth chwilio mewnol gan ddefnyddio'r dechnoleg ymlusgo a mynegeio ddiweddaraf, ac mae'n caniatáu i Blackboard leihau dibyniaeth ar a datguddiad i offer trydydd parti yn sylweddol. Gan fod y gwasanaeth chwilio yn cael ei weinyddu'n fewnol bellach, mae gan Blackboard y gallu i wella a mireinio canlyniadau chwilio dros amser a gwella ansawdd a pherfformiad cyffredinol cynnyrch SafeAssign. Ar ben hynny, mae unrhyw bryder posib am rannu data cleientiaid gyda phartneriaid Blackboard yn diflannu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio'r ymagwedd newydd hon at ddarparu canlyniadau chwilio o'r rhyngrwyd.

Oherwydd natur newidiol y rhyngrwyd, gall fod adegau pan nad yw gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign yn cynnwys tudalennau gwe neu wefannau penodol eto ac o ganlyniad mae'n bosibl na fydd Adroddiadau Gwreiddioldeb Safe Assign yn adnabod testun cyfatebol posib o fewn gwaith myfyrwyr. Pan fydd y sefyllfaoedd hyn yn codi, bydd Blackboard yn ymchwilio ffynhonnell y cynnwys gwe ac, os yn bosibl, yn ychwanegu'r cynnwys at wasanaeth chwilio mewnol SafeAssign ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol.

Mae datblygiad gwasanaeth chwilio mewnol SafeAssign yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Blackboard at gefnogi swyddogaethau cynnyrch SafeAssign a defnydd cwsmeriaid Blackboard Learn o wasanaeth SafeAssign. Fel arfer, bydd Blackboard yn parhau i fonitro SafeAssign am gyfleoedd i'w gwella ac yn annog adborth gan gwsmeriaid yn ymwneud â chanlyniadau chwilio a pherfformiad SafeAssign yn gyffredinol.

I'ch atgoffa, efallai na fydd y canlyniadau a ddychwelir mewn Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn cyfateb yn union i'r canlyniadau a ddychwelir gan wasanaeth chwilio ar y rhyngrwyd ar gyfer defnyddwyr (e.e. Google, Bing, ac ati) ar gyfer brawddeg neu ymadrodd unigol. Dylid defnyddio'r canlyniadau o wasanaeth SafeAssign fel arf yn unig yn ôl disgresiwn yr athro neu hyfforddwr. Oherwydd maint a chwmpas y pwnc academaidd a nifer yr adnoddau a chwilir gan SafeAssign, nid nod y canlyniadau yw gwarantu neu nodi fel arall bod llên-ladrad wedi digwydd neu beidio. Yr hyfforddwr sy'n parhau i fod yn gyfrifol am asesu llên-ladrad posib, a dylid ystyried canlyniadau SafeAssign yng nghyd-destun adnoddau eraill a synnwyr cyffredin.

Awgrymu URL newydd

Mae'r offeryn hwn ar gael yng nghyrsiau Blackboard Learn yn unig gan ddefnyddio'r Wedd Cwrs Gwreiddiol

Gallwch awgrymu bod SafeAssign yn chwilio tudalennau gwe a gwefannau ychwanegol sydd heb eu fflagio, neu dudalennau gwe a gwefannau nad yw’r Adroddiadau Gwreiddioldeb wedi cyfeirio atynt, gan ddefnyddio URL Adder.

Mae’r URL Adder ar gael i hyfforddwyr trwy: Offer Cwrs > SafeAssign > URL Adder. Dewiswch Awgrymu URL ar dudalen SafeAssign i gyflwyno cyfeiriad gwe.

Os bydd y defnyddiwr yn awgrymu gwefan benodol, bydd SafeAssign yn ceisio cynnwys pob un o’r tudalennau gwe sydd ar gael o dan yr URL sylfaenol. Er enghraifft, o awgrymu, http://www.blackboard.com/about-us/index.aspx bydd SafeAssign yn ceisio dod o hyd i bob tudalen gwe sy’n gysylltiedig â’r URL sylfaenol http://www.blackboard.com.

Bydd pob URL a gaiff ei ychwanegu trwy offeryn URL Adder ar gael i bob un o ddefnyddwyr SafeAssign, sy’n golygu y gall awgrymu URL fod o fudd i bawb sy’n ei ddefnyddio.


Ffeiliau a Gefnogir

Mae SafeAssign yn cefnogi’r mathau o ffeiliau y gellir eu trosi i destun plaen yn unig, sy’n cynnwys y mathau hyn o ffeiliau: DOCX, DOC, PPT, PPTX, PDF, TXT, ODT, RTF, HTML, a HTM. Ni chefnogir ffeiliau taenlen.

Mae SafeAssign hefyd yn derbyn ffeiliau ZIP ac yn prosesu ffeiliau sy'n cyd-fynd ag unrhyw un o'r mathau hyn o ffeiliau.

Mae SafeAssign yn cyfri ac yn dangos nifer yr atodiadau mewn cyflwyniad, yn ogystal â nifer yr atodiadau a broseswyd gan SafeAssign. Mae SafeAssign ond yn prosesu ac yn creu Adroddiadau Gwreiddioldeb ar gyfer atodiadau sy’n cydweddu â’r mathau o ffeiliau a gefnogir. Dydy SafeAssign ddim yn rhoi sgôr tebygrwydd ar gyfer mathau o ffeiliau nad ydynt yn cael eu cefnogi.


Adroddiadau Gwreiddioldeb SafeAssign

Ar ôl i ymgais gael ei brosesu, caiff adroddiad ei gynhyrchu yn rhoi manylion am ganran y testun yn y papur a gyflwynwyd sy'n cyfateb â ffynonellau sy'n bodoli eisoes. Mae'r adroddiad yn dangos y ffynonellau a amheuir ar gyfer pob adran o'r papur a gyflwynwyd sy'n cyfateb. Gall hyfforddwyr ddileu ffynonellau cyfatebol o’r adroddiad a’i brosesu eto os yw’r papur yn barhad o waith a gyflwynwyd gan yr un myfyriwr o’r blaen.

Darllenwch yr adroddiad yn ofalus er mwyn archwilio a yw pob darn o destun wedi'i briodweddu'n gywir.

Rhagor am Adroddiadau Gwreiddioldeb SafeAssign


SafeAssign ar waith

Dysgu sut i sefydlu SafeAssign yn eich sefydliad.