Ynglŷn â phroffiliau
Nid yw proffil yr un fath â'ch cyfrif defnyddiwr.
Cyfrif defnyddiwr yw'r wybodaeth a ddefnyddir i'ch cofrestru fel myfyriwr yn eich sefydliad. Os caniateir, gallwch olygu'ch gwybodaeth bersonol i olygu'r wybodaeth yn eich cyfrif defnyddiwr.
Mae proffil yn dangos sut rydych eisiau cyflwyno'ch hun i'ch cyfoedion, i'ch cyd-ddisgyblion ac i hyfforddwyr. Yn eich proffil Blackboard, chi sy'n penderfynu beth rydych eisiau cael eich galw, a ydych am rannu'ch diddordebau academaidd, a mwy.
Ychwanegu llun proffil
Os caniateir, gallwch uwchlwytho llun proffil sy'n ymddangos trwy gydol y system ac o fewn rhwydwaith academaidd ehangach Blackboard.
Mae eich delwedd bersonol yn ymddangos ym mhennyn y dudalen, offer pobl, blogiau, dyddlyfrau, trafodaethau, wikis ac amserlen. Mae'ch llun proffil hefyd yn ymddangos yn y modiwlau hysbysiadau, megis Beth sy'n Newydd. Gall y modiwlau ymddangos ar dap Fy Sefydliad neu ar hafan cwrs.
Mae'r ddelwedd y byddwch yn uwchlwytho i'ch tudalen proffil yn disodli unrhyw ddelwedd proffil arall sydd gennych gyda'ch cyfrif defnyddiwr.
Rhaid i ddelweddau fod yn llai na 5MB gyda dimensiwn o leiaf 50 x 50 picsel. Ymhlith y fformatau ffeil derbyniol mae GIF, PNG, a JPEG.
Does dim eicon proffil yn ymddangos yn y ddewislen
Os nad ydych yn gweld yr eicon proffil gwag yn y ddewislen, nid yw'ch sefydliad wedi galluogi offer proffil.
- Dewiswch y saeth nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen i agor y ddewislen.
- Dewiswch Gosodiadau ar waelod y panel.
- Dewiswch Gwybodaeth Bersonol > Personoli Fy Ngosodiadau.
- Ar y dudalen Personoli Fy Ngosodiadau, dewiswch Defnyddio delwedd rhithffurf bersonol a phorwch eich cyfrifiadur am eich llun.
- Dewiswch Cyflwyno. Mae'ch llun proffil yn ym mhennyn y dudalen nesaf at eich enw.
Proffil
- Ar dudalen Golygu Fy Mhroffil Blackboard yn y panel ar y dde, dewiswch Newid Llun i uwchlwytho llun o'ch cyfrifiadur.
- Dewiswch Cyflwyno.
Video: Add a Profile Picture
Watch a video about adding a profile picture
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: Add a profile picture shows how to upload your profile picture.