Dangoswch beth allwch chi wneud!

Mae portffolios yn adrodd stori a grëwyd yn ofalus i'r byd am bwy ydych chi a beth allwch chi wneud. Rhannwch eich portffolios fel tystiolaeth o'ch sgiliau a'ch potensial at y dyfodol. Defnyddiwch nhw i ymgeisio am swyddi, dyrchafiadau, colegau, i ddangos sgil trosglwyddadwy ac i olrhain eich datblygiad personol.

Gallwch drefnu casgliad o arteffactau i adrodd y stori honno. Gwell fyth, gallwch greu mwy nag un portffolio. Felly, gallwch eu cyfuno neu eu rhannu ar wahân i adrodd gwahanol straeon am eich sgiliau ac uchelgeisiau.

Er enghraifft, gallwch greu un portffolio i olrhain eich ymchwil ac un arall i ddangos eich ysgrifennu. Cyfunwch nhw yn un stori hirach am eich sgiliau newyddiaduriaeth.

Fy Mhortffolios

Tudalen Fy Mhortffolios yw'ch man cychwyn ar gyfer gweld, creu ac adolygu portffolios. Gallwch gael mynediad at dudalen Fy Mhortffolios o'r dudalen lle mae'ch enw yn ymddangos ar y dde ar dop y dudalen. Dewiswch Offer wedyn Portffolios.

Mae tudalen Fy Mhortffolios yn cynnwys swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i bortffolios penodol. Gallwch chwilio yn ôl enw defnyddiwr perchennog y portffolio, teitl, disgrifiad ac amcanion dysgu. Mae'r rhestr a geir o ganlyniad yn cynnwys gwybodaeth am y math o bortffolio, argaeledd, a dolenni i sylwadau a gosodiadau portffolio. Mae'r chwiliad yn dychwelyd y portffolios yn unig mae gennych ganiatâd i'w gweld.

I weld portffolio o dudalen Fy Mhortffolios, dewiswch Gweld.


Aseiniadau portffolio

Gall hyfforddwyr ofyn i chi gyflwyno portffolios ar gyfer aseiniadau cwrs. Os yw'ch hyfforddwr wedi credi templed portffolio i chi gwblhau, dilynwch y cyfarwyddiadau. Pan rydych wedi cwblhau'r portffolio a bennwyd i chi, dewiswch Wedi Gorffen Golygu. Bydd cipolwg o'ch portffolio ar yr adeg benodol honno yn cael ei rannu gyda'ch hyfforddwr i'w raddio. Os byddwch yn golygu'ch portffolio ar ôl ei gyflwyno, nid yw'ch hyfforddwr yn gweld y golygiadau hynny. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu mwy nag un ymgais, gallwch wneud olygiadau ac ail-gyflwyno'r aseiniad portffolio.

Ar ôl i'ch hyfforddwr raddio'ch portffolio, mae'ch gradd yn ymddangos yn Fy Ngraddau. Nid yw'ch gradd yn ymddangos ar eich tudalen Fy Mhortffolios.

Mwy ar Fy Ngraddau

Nid oes modd diddymu cyflwyniadau a wnaed o gipolwg portffolios trwy aseiniad, yn yr un modd â digwyddiadau rhannu eraill.