Mae Fy Blackboard a'r ddewislen i ddefnyddwyr ar gael ym mhob man yn Blackboard Learn.

Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen. O'r ddewislen i ddefnyddwyr, gallwch gael mynediad at eich gosodiadau cwrs a'ch gosodiadau personol, megis maint testun a gwybodaeth bersonol.

Rhagor am yr adran Gosodiadau

O ddewislen Fy Blackboard i'r chwith o'r ddewislen i ddefnyddwyr, gallwch gael mynediad at ddyddiadau dyledus, defnyddwyr, ac offer sy'n eich helpu i ddarganfod, cysylltu, cyfathrebu a chydweithio â'ch rhwydwaith dysgu ar Blackboard.


Golygu'ch gwybodaeth bersonol

Gallwch olygu'r wybodaeth sy'n ymddangos yn eich cyfrif defnyddiwr ar dudalen Golygu Gwybodaeth Bersonol. Mae newidiadau a wnewch yn ymddangos ledled Blackboard Learn. Er enghraifft, os byddwch yn newid eich cyfenw, bydd y cyfenw newydd yn ymddangos ym mhob cwrs rydych wedi cofrestru arnynt neu rhai rydych yn eu dysgu. Mae mwyafrif y wybodaeth bersonol yn ddewisol.

Mae'n bosibl na fydd eich sefydliad yn caniatáu i chi newid eich gwybodaeth bersonol, cyfrinair neu osodiadau trwy Blackboard Learn. Mae Blackboard Learn yn aml yn rhannu data gyda systemau eraill ar y campws, megis swyddfa'r cofrestrydd. Efallai bydd eich sefydliad am sicrhau bod eich gwybodaeth yr un fath bob man. Yn yr achos hwn, bydd gan eich sefydliad wahanol ffordd i newid eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch sefydliad am ragor o wybodaeth.

  1. Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Golygu Gwybodaeth Bersonol. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol yn y panel Offer ar y tab Fy Sefydliad.
  2. Gwneud newidiadau yn ôl yr angen.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Newid gosodiadau personol

Gallwch reoli'ch gosodiadau personol sy'n rheoli'r pecyn iaith, dewis o galendr a chyfarwyddiadau tudalen yn y system.

  1. Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Gosodiadau Personol. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol yn y panel Offer ar y tab Fy Sefydliad.
  2. Ar dudalen Newid Gosodiadau Personol, gallwch ddewis pecyn iaith o'r ddewislen sydd nesaf at eich diwylliant.
  3. Os yw ar gael, gallwch reoli sut mae'r calendr yn ymddangos. Dewiswch opsiwn o ddewislen Diwrnod cyntaf yr wythnos.
  4. Dewiswch Iawn i ddangos cyfarwyddiadau tudalen am esboniadau byr ar bob tudalen. Mae gan rhai tudalennau ddolenni at Rhagor o Gymorth sy'n agor ffenestr newydd gyda chamau ychwanegol ar gyfer y nodweddion.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Gosod opsiynau preifatrwydd

Gallwch ddewis y gwybodaeth rydych am i eraill ei weld. Mae'ch gwybodaeth yn ymddangos yn y gofrestr, ar dudalennau grŵp, ac yn y Ganolfan Raddau i hyfforddwyr. Gallwch hefyd ddewis dangos y wybodaeth yma yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr ym mhanel Offer ar dab Fy Sefydliad. Os ydych yn dewis peidio rhannu'ch cyfeiriad e-bost, nid yw'n ymddangos unrhyw le yn Blackboard Learn.

Os yw'ch sefydliad wedi troi'r offer proffil a phobl ymlaen, gallwch osod gosodiadau preifatrwydd o fewn eich proffil.

  1. Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Gosod Opsiynau Preifatrwydd. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol yn y panel Offer ar y tab Fy Sefydliad.
  2. Ar dudalen Gosod Opsiynau Preifatrwydd, dewiswch y blychau ticio priodol i wneud eich gwybodaeth bersonol yn weladwy i ddefnyddwyr eraill Blackboard ac yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr.
  3. Dewiswch y blychau ticio priodol os nad ydych eisiau i aelodau eraill y cwrs a'r sefydliad i gysylltu â chi ar e-bost.
  4. Dewiswch y blychau ticio priodol os nad ydych eisiau i'ch enw ymddangos yng nghofrestri'r cwrs a'r sefydliad.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Adran Gosodiadau

Gallwch ddewis dangos darnau penodol o'r wybodaeth yn y ddewislen i ddefnyddwyr. Er enghraifft, gallwch dynnu'r dolenni Cyrsiau a Sefydliadau.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa nodweddion, offer a dolenni sydd ar gael. Er enghraifft, mae'n bosibl na chewch uwchlwytho llun proffil.

Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Personoli Fy Ngosodiadau.

  • Yn yr adran Dolen Fy Ngosodiadau, os byddwch yn clirio'r blychau ticio ar gyfer Fy Nghyrsiau a Fy Mudiadau, ni fyddant yn ymddangos yn eich dewislen ddefnyddiwr.
  • Os byddwch yn dewis y blychau ticio, bydd adrannau Cyrsiau a Sefydliadau yn dangos gyda rhestr o'ch holl gyrsiau a sefydliadau.
    • Os nad oes gennych unrhyw gyrsiau neu sefydliadau, ni fydd y dolenni'n ymddangos.
    • Os nad ydych erioed wedi cyrchu cwrs neu sefydliad, bydd yn ymddangos mewn is-adran. Er enghraifft, yn adran Cyrsiau, bydd cwrs nad ydych wedi ei gyrchu erioed yn ymddangos yn Fy Nghyrsiau Eraill.

Nid yw'r dewisiadau a wnewch yn effeithio ar fodiwlau Fy Nghyrsiau neu Fy Sefydliadau ar dab Fy Sefydliad neu ar yr hyn sy'n ymddangos ar dab Cyrsiau.

Os byddwch yn clirio'r blwch ticio ar gyfer Casgliad o Gynnwys: Nodau Tudalen, ni fyddwch unrhyw rai o'r nodau tudalen a grëwch yn y Casgliad o Gynnwys yn ymddangos yn yr adran Dolenni.

Adran dolenni

Gall eich sefydliad ddarparu dolenni yn adran Dolenni a gallwch ddangos nodau tudalen a gadwyd o'r Casgliad o Gynnwys. Ni allwch reoli pa ddolenni mae'ch sefydliad yn dewis eu rhannu.


Rheoli rhaglenni trydydd parti

Pan fyddwch yn defnyddio darn o offer trydydd parti, efallai bydd y rhaglen yn gofyn am eich caniatâd i weithredu o fewn Learn ar eich rhan. Mae'r broses yma'n caniatáu i raglen ddysgu gyflwyno eu haseiniadau neu dasgau rydych wedi'u cwblhau i Blackboard Learn. Yn debyg i gysoni rhaglenni cyfryngau cymdeithasol, mae'r integreiddiad yn caniatáu i'ch platfformau dysgu i weithio gyda'i gilydd. Wedi i chi ganiatáu mynediad, gallwch reoli'r awdurdodaeth o Awdurdodi Rhaglenni ar y panel Offer.


Newid eich cyfrinair

Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin ar gyfer eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.

Mewngofnodwch i newid eich cyfrinair. Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Cyfrinair.

Mae rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae rhaid iddynt fod o leiaf un nod o hyd. Gall cyfrineiriau gynnwys uchafswm o 32 nod.

Wedi anghofio’ch cyfrinair?

  1. Llywiwch i'r URL lle rydych yn cael mynediad at Blackboard.
  2. Ar y dudalen mewngofnodi, dewiswch Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? neu Anghofio Cyfrinair?
  3. Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.
  4. Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau y derbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair presennol yn parhau i fod yn weithredol nes i chi ei newid.

Video: Change Your Password

Watch a video about changing your password

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Change your password shows how to access the user menu and change your password.