Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Beth yw Hunanasesiadau ac Asesiadau gan Gyfoedion?

Gallwch ddefnyddio Hunanasesiadau ac Asesiadau gan Gyfoedion i hwyluso sgiliau gwrthrychol, dadansoddol a dealltwriaeth o'r dysgu eich myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn gallu adolygu gwaith cyd-ddisgyblion trwy werthusiad cyfeirio yn seiliedig ar feini prawf. Gallant roi a derbyn adborth adeiladol sy'n gwella eu dealltwriaeth o'r pwnc.

Gall Hunanasesiadau ac Asesiadau Cyfoedion helpu i rannu’r llwyth gwaith a sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn adborth gan sawl unigolyn. Mae myfyrwyr hefyd yn manteisio ar y profiad dadansoddol o werthuso cyflwyniadau yn erbyn meini prawf a ddiffinnir.

Mae asesiadau'n cael eu trefnu mewn amserlen fanwl gywir er mwyn caniatáu digon o amser i gwblhau'r broses cyflwyno a gwerthuso. Gallwch hefyd drefnu amser i gael mynediad at unrhyw eitemau cynnwys sy'n gysylltiedig ag asesiad.

Mae gennych yr opsiwn i ddefnyddio hunanwerthusiadau a gwerthusiadau dienw. Gall yr opsiynau hyn ddarparu lefel o gyfforddusrwydd a all olygu profion ac arfarniadau mwy agored. Fodd bynnag, gallant hefyd effeithio cywirdeb y broses asesu.

Gallwch allgludo'r profion hyn, ar y cyd â'u cwestiynau a meini prawf, ac yna eu mewngludo ar gyfer eu defnyddio'n ddiweddarach.


Esiampl o gwestiwn a meini prawf

Mae cwestiynau'n darparu strwythur a chynnwys i'r asesiad. Gallant fod yn syml (Beth yw 2 a 2?") neu'n gymhleth ("Disgrifiwch y prif reswm dros gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig.").

Mae'r meini prawf a ddaw gyda phob cwestiwn yn darparu modd o werthuso'r ymatebion i'r cwestiynau. Mae nifer y meini prawf hefyd yn gallu amrywio o un ("Ai'r ateb oedd = 4?") i nifer:

  • A yw’r ymateb yn gosod y mater o fewn cyd-destun ehangach y pwnc?
  • A yw’r ymateb wedi ei drefnu’n dda a’i osod allan yn glir?
  • A brawfddarllenwyd yr ymateb yn ofalus? A oedd yn rhydd o unrhyw wallau gramadegol, sillafu neu deipio sylweddol?

Yr amserlen asesu

Creu a defnyddio: Cyn i unrhyw gyfranogwr gyflwyno gwaith, hyd yn oed ar ôl y dyddiad dechrau cyflwyno

Cyflwyno: Ar ôl y dyddiad dechrau cyflwyno a bod gwaith wedi cael ei gyflwyno, a chyn y dyddiad gorffen cyflwyno

Cwblhau: Ar ôl y dyddiad gorffen cyflwyno, ond cyn y dyddiad dechrau gwerthuso

Gwerthuso: Ar ôl y dyddiad dechrau gwerthuso a chyn y dyddiad gorffen gwerthuso

Canlyniadau: Ar ôl y dyddiad gorffen gwerthuso


Pennu amrediad y dyddiadau asesu

Mae angen tri ystod dyddiad i greu a chyflwyno asesiad yn llwyddiannus:

  • Dangos Ar ôl/Tan: Yr amrediad o ddyddiadau pan fydd yr asesiad ar gael i fyfyrwyr
  • Cychwyn/Gorffen Cyflwyno: Yr amrediad o ddyddiau pan fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno atebion i asesiad
  • Cychwyn/Gorffen Gwerthuso: Yr amrediad o ddyddiau pan fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwerthusiadau o waith eu cyd-ddisgyblion ar yr asesiad, yn ogystal ag ar eu gwaith eu hunain, os yw hunanasesiadau wedi'u galluogi

Creu Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion

Gallwch greu Hunanasesiadau ac Asesiadau gan Gyfoedion mewn ardaloedd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers a ffolderi.

  1. O’r ddewislen Asesiadau, dewiswch Hunanasesu ac Asesu Cyfoedion.
  2. Ar dudalen Creu Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion, teipiwch enw a chyfarwyddiadau.
  3. Fel arall, defnyddiwch Mewnosod Ffeil yn y golygydd i ychwanegu ffeiliau.
  4. Gosodwch y Dyddiad Cychwyn Cyflwyno a'r Dyddiad Gorffen Cyflwyno.
  5. Gosodwch y Dyddiad Cychwyn a'r Dyddiad Gorffen ar gyfer y gwerthuso gan gyd-ddisgyblion.
  6. I Ganiatáu Gwerthuso Dienw, dewiswch Ie.
  7. I Ganiatáu Hunanwerthusiadau, dewiswch Ie.
  8. Dewiswch Ie ar gyfer Dangos y Canlyniadau Gwerthuso i'r Cyflwynydd i ganiatáu i gyflwynwyr weld eu canlyniadau gwerthuso eu hunain.
  9. Ar gyfer Nifer y Cyflwyniadau i'w Gwerthuso, diffiniwch sawl prawf maw disgwyl i bob myfyriwr eu gwerthuso. Nid yw'r nifer yn cynnwys crëwr yr asesiad. Os mai hunan arfarniadau yw'r unig fath rydych am ei ddefnyddio, teipiwch (0).
  10. Gwnewch yr asesiad yn hygyrch a gallwch ddewis olrhain nifer y gwylwyr.
  11. Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Nid yw cyfyngiadau amser yn effeithio ar argaeledd, dim ond pryd mae'n ymddangos.
  12. Dewiswch Cyflwyno.

Mwy am atodi ffeiliau


Rheolau golygu asesiadau

Ar ôl i chi greu asesiad, gallwch ei olygu mewn nifer o ffyrdd. Fodd bynnag, ni allwch olygu eitemau penodol o fewn cyfnodau amser penodol.

Cyflwynir y rheolau hyn i helpu i osgoi problemau fel gosod y dyddiadau'n anghywir ac nad oes modd defnydddio'r aseiniad. Nid oes modd defnyddio asesiad pan fyddwch yn ei gadw gyda Dyddiad Gorffen Cyflwyno yn y gorffennol neu os yw'r Dyddiad Dechrau Cyflwyno a'r Dyddiad Gorffen Cyflwyno yr un fath â'i gilydd. Yn yr achos hwn, yr unig ateb yw allgludo'r asesiad, ei fewngludo, newid y dyddiadau, ac yna dileu'r asesiad gwreiddiol. Collir pob cyflwyniad ar gyfer y gwreiddiol yn y broses hon.

Mae'r tabl hwn yn diffinio'r rheolau sy'n llywodraethu addasu elfennau asesiadau. Caiff y newidiadau hyn eu gwneud heb rybuddion system.

Rheolau asesu
Cyfnod Llinell Amser Methu golygu
Creu a defnyddio Gallwch newid unrhyw elfen heb gyfyngiad neu rybudd.

Cyflwyno

  • Dileu cwestiynau
  • Trefn cwestiynau
  • Y dyddiad cyntaf y gellir cyflwyno

Wedi Cwblhau

  • Ychwanegu, golygu, dileu neu aildrefnu cwestiynau
  • Y dyddiad cyntaf y gellir cyflwyno

Arfarnu

  • Nifer y cyfoedion
  • Ychwanegu, golygu, dileu neu aildrefnu cwestiynau
  • Arfarnu dienw
  • Dileu neu aildrefnu meini prawf
  • Golygu pwyntiau meini prawf
  • Pwyntiau posib a'r pwyntiau a ddyfarnwyd
  • Y dyddiad cyntaf y gellir arfarnu
  • Hunan arfarniad
  • Y dyddiad olaf y gellir cyflwyno
  • Y dyddiad cyntaf y gellir cyflwyno

Canlyniadau

  • Nifer y cyfoedion
  • Ychwanegu meini prawf
  • Caniatáu adborth
  • Arfarnu dienw
  • Dileu neu aildrefnu meini prawf
  • Golygu meini prawf
  • Golygu pwyntiau meini prawf
  • Pwyntiau posib a'r pwyntiau a ddyfarnwyd
  • Golygu testun meini prawf
  • Golygu ymateb enghreifftiol
  • Y dyddiad cyntaf y gellir arfarnu
  • Ychwanegu, golygu, dileu neu aildrefnu cwestiynau
  • Hunan arfarniad
  • Y dyddiad olaf y gellir cyflwyno
  • Y dyddiad cyntaf y gellir cyflwyno

Golygu asesiad

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar dudalen Asesu, dewiswch Cynfas Asesu.
  3. I aildrefnu cwestiynau, defnyddiwch y swyddogaeth llusgo a gollwng neu offer aildrefnu hygyrch i'r bysellfwrdd.
  4. I aildrefnu meini prawf cwestiwn, ewch i ddewislen y cwestiwn a dewiswch Meini Prawf. Aildrefnwch gan ddilyn y drefn yng ngham 3.

Golygu priodweddau asesiad

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar y dudalen Golygu, dewiswch Priodweddau a gwnewch eich newidiadau.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Cwestiynau Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion

Cwestiynau yw cydran sylfaenol unrhyw asesiad. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio o leiaf un maen prawf i bob cwestiwn er mwyn i fyfyrwyr ei ddefnyddio pan fyddant yn gwerthuso atebion. Mae cwestiynau'n rhoi strwythur yn ogystal â chynnwys yr asesiad. Mae cwestiynau naill ai'n syml neu gymhleth:

  • Ym mha flwyddyn y bu'r Frenhines Elizabeth farw?
  • Beth yw gwreiddyn sgwâr 144?
  • Esboniwch pam y gorchfygwyd byddinoedd Napolean ym Mrwydr Waterloo.

Pan fyddwch yn creu cwestiynau, bydd rhaid i chi ychwanegu'r URL parhaol ar gyfer eitemau'r Casgliad o Gynnwys. Gallwch ychwanegu ymateb model - enghraifft o ateb cywir i gwestiwn. Mae'r ymateb model yn galluogi gwerthuswyr i gymharu atebion a gyflwynir â'r enghraifft. Nid yw myfyrwyr sy'n gwneud yr asesiad yn gweld y model.


Ychwanegu cwestiwn at asesiad

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar dudalen Asesu, dewiswch Cynfas Asesu.
  3. Ar y dudalen Cynfas yr Asesiad, dewiswch Creu Cwestiwn.
  4. Ar y tudalen Ychwanegu Cwestiwn, darparwch wybodaeth y cwestiwn ac enghraifft o ymateb.
  5. Trefnwch fod y cwestiwn ar gael.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ychwanegu cwestiwn diofyn neu gwestiwn a ddefnyddiwyd yn flaenorol

Gallwch ychwanegu cwestiwn diofyn fel dull cyflym o adeiladu asesiad effeithiol. Mae set o gwestiynau diofyn yn bodoli y gallwch eu defnyddio i adeiladu'ch aseiniadau. Gallwch ddod o hyd i gwestiynau rydych wedi'u creu mewn aseiniadau eraill hefyd.

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar y dudalen Cynfas Asesu, dewiswch Chwilio am Gwestiwn.
  3. Teipiwch y testun chwilio a dewiswch Ewch. Neu, dewiswch Ewch i ddangos rhestr o'r holl gwestiynau diofyn.
  4. Ar y dudalen Canlyniadau Chwilio, efallai bydd rhai cwestiynau yn cynnwys manylion. Dewiswch eicon Ehangu y cwestiwn i weld y manylion hynny.
  5. Dewiswch y blychau gwirio yn ymyl y cwestiynau i'w hychwanegu.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Defnyddiwch feini prawf i werthuso'r atebion i gwestiynau. Gall nifer y meini prawf amrywio o un i lawer hefyd:

  • A yw’r ymateb yn gosod y mater o fewn cyd-destun ehangach y pwnc?
  • A yw’r ymateb wedi ei drefnu’n dda a’i osod allan yn glir?
  • A brawfddarllenwyd yr ymateb yn ofalus? A oedd yn rhydd o unrhyw wallau gramadegol, sillafu neu deipio sylweddol?

Yn gyffredinol, gall fod angen nifer fawr o feini prawf ar gyfer pob cwestiwn traethawd. Efallai mai un neu ddau faen prawf yn unig fydd eu hangen ar gwestiynau byrrach.


Ychwanegu meini prawf at gwestiwn

Mae'n rhaid i chi ddefnyddio o leiaf un maen prawf i bob cwestiwn er mwyn i fyfyrwyr ei ddefnyddio pan fyddant yn gwerthuso atebion. Mae'n rhaid i chi aseinio gwerth pwynt ar gyfer pob maen prawf.

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar dudalen Asesu, dewiswch Cynfas Asesu.
  3. Ar y dudalen Cynfas Asesu cyrchwch ddewislen y cwestiwn a dewiswch Meini Prawf.
  4. Ar y dudalen Ychwanegu/Golygu Meini Prawf, dewiswch Creu Meini Prawf.
  5. Ar y dudalen Ychwanegu Meini Prawf, teipiwch y meini prawf a'r pwyntiau sy'n bosib.
  6. Dewiswch Popeth neu Ddim neu Credyd Rhannol ac, yn ddewisol, caniatáu adborth.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Ychwanegu meini prawf cyfrif geiriau

Os ydych eisiau gwerthuso hyd ateb, gallwch ychwanegu maen prawf cyfrif geiriau at gwestiwn. Gallwch nodi y dylai ateb fod o gwmpas 200 gair. Mae'r maen prawf cyfrif geiriau yn galluogi dyfarnu pwyntiau'n seiliedig ar hyd ateb. Er enghraifft, dyfarnu pwyntiau os yw'r ateb o fewn 20 gair o'r uchafswm o 200 gair.

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar dudalen Asesu, dewiswch Cynfas Asesu.
  3. Ar y dudalen Cynfas Asesu cyrchwch ddewislen y cwestiwn a dewiswch Meini Prawf.
  4. Ar y dudalen Ychwanegu/Golygu Meini Prawf, dewiswch Meini Prawf Cyfrif Geiriau.
  5. Ar y dudalen Ychwanegu Meini Prawf, teipiwch Pwyntiau Posib, y Cyfrif Geiriau a Argymhellir, a'r Amrywiad a Ganiateir.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ychwanegu meini prawf diofyn

Gallwch ychwanegu meini prawf diofyn fel dull cyflym o adeiladu asesiad effeithiol. Mae set o feini prawf diofyn yn bodoli y gallwch eu defnyddio i adeiladu'ch aseiniadau.

  1. Agorwch ddewislen asesiad a dewiswch Golygu.
  2. Ar dudalen Asesu, dewiswch Cynfas Asesu.
  3. Ar y dudalen Cynfas Asesu cyrchwch ddewislen y cwestiwn a dewiswch Meini Prawf.
  4. Ar y dudalen Ychwanegu/Golygu Meini Prawf, dewiswch Chwilio am Feini Prawf Cyfrif Geiriau.
  5. Teipiwch air allweddol a dewiswch Ewch.
  6. Ar y dudalen Canlyniadau Chwilio, mae'n bosib y bydd rhai meini prawf yn cynnwys manylion Dewiswch eicon Ehangu maen prawf i weld y manylion hynny.
  7. Dewiswch y blwch ticio drws nesaf i'r meini prawf i'w hychwanegu.
  8. Dewiswch Cyflwyno.