Mae ysgrifennu da yn cyfateb ag ysgrifennu hygyrch. Mae'n gwneud eich cynnwys yn haws i bawb ei darllen. Dyma rhai darnau o gyngor ar sut i ysgrifennu gyda hygyrchedd mewn golwg.


Ysgrifennwch yn glir

Mae dogfennaeth dim ond cystal â'r hyn y mae pobl yn gallu cael allan ohoni. Os yw'r ysgrifennu'n rhy gymhleth, ni fyddant yn gallu ei defnyddio. Mae iaith syml yn gwella hygyrchedd.

Cadwch eich ysgrifennu'n syml ac yn gryno gyda'r awgrymiadau hyn:


Strwythur penawdau

Mae penawdau'n hanfodol wrth greu cynnwys hygyrch. Maen nhw'n rhoi'r gallu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin neidio'n uniongyrchol i gynnwys penodol, a all arbed amser iddynt.

Gweithiwch gyda'r system rydych yn ysgrifennu ynddi. Mae pob offeryn poblogaidd, megis Microsoft Word, PowerPoint, ac Open Office yn darparu opsiynau fformatio i'ch helpu i greu'r strwythur cywir yn eich dogfennau. Defnyddiwch yr opsiynau arddull a fformatio a ddarperir yn yr offeryn golygu cynnwys o'ch dewis.

Enghraifft: Pennawd 1 (

)

Mae rhifau yn arddull y pennawd yn creu cyd-destun strwythurol ar gyfer y darllenydd sgrin ac yn helpu defnyddwyr di-weledol i ddeall y cynnwys hyd yn oed pan nad ydynt yn gallu gweld y toriadau gweledol yn y ddogfen.

Enghraifft:

Hygyrchedd mewn Addysg

Hygyrchedd yn Blackboard

Mwy ar ddylunio cynnwys hygyrch


Pwysleisio cynnwys

Nid yw darllenwyr sgrin yn adnabod arddulliau ffont, gan gynnwys y canlynol:

  • Lliw
  • Trwm
  • Italig
  • Tanlinellu
  • Tynnu llinell trwy

Defnyddiwch yr arddulliau hyn i ddarparu toriadau gweledol. Peidiwch â'i defnyddio fel yr unig ffordd o ddynodi pwysigrwydd neu gyfleu gwybodaeth.

Enghraifft: Mae testun coch yn edrych fel rhybudd. Ni fydd defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gwybod bod y testun yn goch. Byddant yn colli'r cliw a ddim yn gwybod mai rhybudd ydyw.

Pan fo angen ichi roi awgrym gweledol cryf, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dull hygyrch amgen. Defnyddiwch ebychnod ar ddiwedd eich brawddeg os ydyw'n bwysig. Mae darllenwyr sgrîn yn llafarganu ebychnodau a gofynodau. Nid yw hyn yn golygu y bydd yr offeryn yn darllen "ebychnod" yn uchel—yn hytrach, bydd yn defnyddio tôn holgar wrth ddarllen y cwestiwn yn uchel.

Enghraifft: Eto, peidiwch â defnyddio arddulliau ffont yn unig i ddynodi pwysigrwydd!


Delweddau

Gofynnwch i chi'ch hun beth yw diben delwedd. Ai er mwyn rhoi apêl weledol i'ch tudalen? Neu i roi cyfeiriad gweledol i ddefnyddiwr sy'n gallu gweld o'r hyn i’w ddisgwyl? A oes angen i bob defnyddiwr gael dealltwriaeth o'r ddelwed er mwyn deall eich cynnwys?

Os nad ydych chi'n gwybod ystyr neu bwrpas y ddelwedd, peidiwch â'i ddefnyddio! Annibendod ydyw ac mi fydd hi'n ormod i'r rhai sydd ag anabledd dysgu.

Testun amgen

Os ydych yn defnyddio LMS neu wefan i gyfleu gwybodaeth, byddwch yn dod ar draws maes ar gyfer testun amgen wrth lwytho delwedd. Ar gyfer delweddau addurniadol, gadewch faes y testun amgen yn wag. Bydd y darllenydd sgrin yn anwybyddu'r ddelwedd yn yr achos hon. Mae delwedd yn addurnol pan nad yw'n ychwanegu at y wybodaeth sydd ar y dudalen.

Rhagor am ddelweddau addurniadol ar wefan y fenter hygyrchedd ar y we

Enghraifft: Os oes gennych chi ddelwedd yn dangos yr offer mewn Rhyngwyneb Defnyddiwr (UI), disgrifiwch sut i gyrraedd yno a beth sydd ar y dudalen. Edrychwch ar esiampl o ddisgrifio delwedd ar y dudalen.

Os nad ydych eisiau i'r darllenydd sgrin anwybyddu'r llun, rhowch destun amgen ar eich delweddau. Does dim angen i chi ddweud "Delwedd o" gan fod yr offer cynorthwyol eisoes yn gwybod mai delwedd ydyw. Byddwch yn gryno, yn glir ac yn ddisgrifiadol.

Peidiwch â defnyddio'r un testun amgen ar gyfer pob delwedd, megis "Delwedd yn dynodi'r testun cysylltiedig." Mae'n ddiystyr ac yn gwneud y dudalen yn flêr.

Ar gyfer delweddau cymhleth, cadwch y testun amgen yn fyr - 6 neu 7 nod - a rhowch gapsiwn dan y ddelwedd sy'n weladwy i bawb ac sy'n darparu disgrifiad clir.

Ffeithluniau

Mae ffeithluniau angen dewis amgen i'r testun. Dyma destun sy'n dweud yr un stori ag y mae defnyddwyr yn ei gael o'r elfennau gweledol. Dylai'r dewis amgen i'r testun fod ar y dudalen yn syth ar ôl y ffeithlun. Cynnwys dolen angor ar frig y dudalen i weld y dewis amgen i'r testun.

Cymerwch olwg ar esiampl o ffeithlun gyda dewis amgen i'r testun.

Testun mewn delweddau

Yn unol â chanllawiau WCAG, ni ddylid cynnwys testun fel rhan o ddelwedd. Yn hytrach, esboniwch y ddelwedd mewn testun ar y dudalen.


Dolenni

Mae'n hanfodol bod eich dolenni'n ddisgrifiadol. Dylai pob dolen ddisgrifio beth gall y defnyddiwr disgwyl gweld pan fyddant yn clicio arni. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer yr offeryn Rhestr Dolenni a ddarperir gan ddarllenwyr sgrin. Mae'r offeryn hyn yn rhestru'r dolenni ar dudalen, a dim byd arall. Does dim cyd-destun ychwanegol ar gyfer y ddolen.

Enghraifft: Ar y dudalen hon, byddai'r offeryn Rhestr Dolenni'n darllen y canlynol: "Dyma esiampl o ddisgrifio delwedd ar y dudalen," "esiampl o ffeithlun gyda dewis amgen i'r testun," ac ati. Mae pob un yn disgrifio'r hyn y gallwch disgwyl gweld pan fyddwch yn clicio arnynt.

  • Osgowch ddefnyddio ymadroddion cyffredinol megis "cliciwch yma" neu "rhagor o wybodaeth". Bydd yr offeryn Rhestr Dolenni'n darllen testun y ddolen yn union fel y cafodd ei nodi. Pan gaiff yr un ddolen ei hailadrodd (dychmygwch glywed "cliciwch yma, cliciwch yma, cliciwch yma" wedi'i ailadrodd tro ar ôl tro), mae'n creu dryswch i ddefnyddwyr. Mae angen iddyn nhw ddeall ble mae'r ddolen yn mynd a pham dylen nhw glicio yma? Mae dolenni disgrifiadol yn darparu'r cyd-destun hwn.
  • Nid yw cyfeiriadau gwe neu URLs yn ddefnyddiol, felly ni ddylid ei defnyddio. Mae'r darllenydd sgrin yn darllen pob llythyren yn unigol. Yn hytrach, dylid gwneud y testun yn ddisgrifiadol.
  • Gall agor dolenni mewn ffenestr newydd fod yn ddryslyd. Peidiwch â defnyddio gormod ohonynt. Dywedwch wrth eich defnyddwyr pan rydych yn defnyddio ffenestr newydd.

Rhestrau a thablau

Gadewch i'r offer rydych yn eu defnyddio i greu cynnwys wneud y gwaith. Defnyddiwch y rhestrau bwled, y rhestrau wedi'u rhifo a'r offer tablau yn y golygydd cynnwys. Neu, edrychwch ar y ffynhonnell a defnyddiwch y tagiau HTML cywir.

Rhestri

Mae rhestrau bwledi sydd wedi'u creu'n gywir yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr darllenydd sgrin sawl eitem sydd yn y rhestr bwledi.

Mae rhestrau wedi'u rhifo sydd wedi'u creu'n gywir yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr darllenydd sgrin sawl eitem sydd yn y rhestr wedi'i rhifo ac yn darllen y rhif ar gyfer pob eitem.

Tablau

Defnyddiwch restrau dros dablau lle gallwch chi! Gellir gwneud tablau'n hygyrch ond mae angen i ddarllenwyr sgrin wybod uwch orchmynion trawiadau bysellau i'w llywio a'u deall.

Defnyddiwch benawdau colofnau. Mae hyn yn achosi i'r darllenwr sgrin i ail-gyhoeddi pennawd y golofn ar gyfer pob cell y mae'r defnyddiwr yn llywio trwyddi. Mae hyn yn rhoi cyd-destun ar gyfer cynnwys pob cell. Ystyriwch sut fydd pob cell yn darllen wrth enwi'r colofnau ac ychwanegu gwybodaeth i'r cell.

Peidiwch byth â defnyddio tablau i greu dyluniad gweledol o gynnwys.

Esiampl o dabl hygyrch


Gorchmynion trawiadau bysellau

Mae safonau byd-eang ar gyfer gorchmynion trawiadau bysellau ar gyfer cynnwys ar y we. Er enghraifft, gallwch bwyso Tab i roi ffocws eich cyfrifiadur ar y botwm nesaf. Nid oes angen i chi ddisgrifio'r rheini. Am restr o orchmynion byd-eang, edrychwch ar JAWS Keyboard Commands Quick Reference Guide.

Ar adegau, mae angen i ddatblygwyr greu gorchmynion trawiadau bysellau gwreiddiol ar gyfer eu cynnyrch. Er enghraifft, mae Blackboard Collaborate wedi creu gorchmynion trawiadau bysellau gwreiddiol i droi'r microffon ymlaen ac i ffwrdd. Dylech sôn am y gorchmynion trawiadau bysellau gwreiddiol hyn yn eich pynciau.

Mae clicio a chyfarwyddiadau gorchmynion trawiadau bysella'n dau syniad gwahanol a ni ddylent fod yn yr un paragraff. Os yw gorchmynion Mac yn wahanol i orchmynion PC, defnyddiwch dwy frawddeg yn y paragraff ar bwnc y trawiadau bysellau.

Enghraifft 1

Y gosodiad diofyn yw i’ch cadw yn gudd a mud wedi i chi gwblhau’r camau paratoi. Cliciwch yr eiconau microffon a chamera i ddechrau cymryd rhan yn llawn yn y cyfarfod.

Gyda'ch bysellfwrdd, gwasgwch Alt + M i droi eich microffon ymlaen ac i ffwrdd. Gwasgwch Alt + C i droi'ch camera ymlaen ac i ffwrdd.

Enghraifft

Mae botymau pori yn ymddangos pan fyddwch chi’n rhannu cyflwyniad er mwyn i chi allu llywio o un sleid i’r llall.

Gyda'ch bysellfwrdd, gwasgwch Alt + Tudalen i Fyny i fynd i'r sleid nesaf. Pwyswch Alt + Page Down i symud yn ôl. Ar Mac, pwyswch Alt + Fn + Saeth i Fyny a Alt + Fn + Saeth i Lawr.


Fideo

Dylid capsiynu fideos. I ddysgu mwy, edrychwch ar ynglŷn â chapsiynu fideos.