Ynglŷn â gosodiadau hysbysiadau

Mae Blackboard Learn yn cyflwyno hysbysiadau yn y moddau hyn:

  • Fy Blackboard: Mae tudalen Diweddariadau yn dangos hysbysiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ac mae tudalen Postiadau yn dangos trafodaethau heb eu darllen, blogiau, cyfnodolion a wikis.
  • Negeseuon e-bost, testun neu llais: Gallwch dderbyn hysbysiadau yn y moddau hyn os yw'ch sefydliad yn eu caniatáu.
  • Modiwlau'r Hafan: O fewn cwrs, mae Modiwlau'r Hafan yn dangos hysbysiadau ar gyfer y cwrs hwnnw yn unig.
  • Hysbysiadau gwthio ap Blackboard: Os yw'ch sefydliad yn defnyddio ap Blackboard, gallwch gael hysbysiadau yn ymddangos ar sgrin eich dyfais symudol.
  • Dangosfwrdd Hysbysiadau: Mae’n bosibl y bydd y Dangosfwrdd Hysbysiadau yn ymddangos ar dab Fy Sefydliad fel modd arall o well hysbysiadau ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Gall eich sefydliad ailenwi'r tabiau.

Mathau o hysbysiad

Mae Blackboard Learn yn eich hysbysu pan mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd:

  • Os oes cyhoeddiadau ar gael
  • Os oes aseiniadau ar gael
  • Os oes aseiniadau yn ddyledus neu'n hwyr
  • Os oes cynnwys ar gael
  • Os oes cwrs neu sefydliad ar gael
  • Os derbynnir neges cwrs
  • Os oes eitem yn ddyledus
  • Os oes eitem wedi cael ei raddio
  • Os oes arolwg ar gael
  • Os oes arolwg yn ddyledus neu'n hwyr
  • Prawf ar gael
  • Mae prawf yn ddyledus neu wedi mynd heibio i ddyledus
  • Mae gennych flogiau, dyddlyfrau neu drafodaethau heb eu darllen

Rhagor am hysbysiadau gwthio ap Blackboard


Golygu'ch gosodiadau hysbysiadau

Rheoli'r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau. O'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau ac yna dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.

Eich sefydliad sy'n rheoli a yw'r opsiynau hyn ar gael. Os yw'ch sefydliad wedi diffinio gosodiadau hysbysiadau, caiff y gosodiadau hyn eu defnyddio yn hytrach na'ch gosodiadau personol.

  1. Golygu Gosodiadau Cyffredinol: Dewiswch fformat eich e-bost - neges unigol ar gyfer pob hysbysiad neu grynhoad dyddiol - a'r amserlen atgoffa ar gyfer dyddiadau dyledus.
  2. Swp-olygu Gosodiadau Hysbysiadau: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ar unwaith. Gallwch ddewis pa hysbysiadau rydych eu derbyn a'r modd o'u cyflwyno.
  3. Golygu Gosodiadau Cwrs Unigol: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer cwrs unigol.
  4. Golygu Gosodiadau Sefydliad Unigol: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer cyfundrefn unigol.

Hysbysiadau cyffredinol

Gyda'r gosodiadau cyffredinol, gallwch ddewis a ydych am dderbyn hysbysiadau ar e-bost ac os ydych eisiau cael eich atgoffa am ddyddiadau dyledus.

  1. O'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau ac yna dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.
  2. Ar dudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch Golygu Gosodiadau Cyffredinol.
  3. Ar dudalen Gosodiadau Cyffredinol, gallwch ddewis derbyn e-bost ar gyfer pob hysbysiad neu e-bost dyddiol yn crynhoi holl hysbysiadau'r diwrnod hwnnw.
    • Negeseuon Unigol: Anfonir e-byst ar gyfer pob hysbysiad. Nodwch fod nifer y negeseuon trafodaeth heb eu darllen, postiadau blog a chofnodion dyddlyfr bob tro'n cael eu hanfon fel e-bost crynhoad dyddiol. Gall eich hyfforddwr anfon e-bost am gyhoeddiadau cwrs pwysig hyd yn oed os ydych wedi analluogi hysbysiadau o'r fath.
    • E-bost Crynhoad Dyddiol: Caiff yr holl hysbysiadau eu casglu a'u hanfon unwaith y diwrnod ar amser a bennir gan eich sefydliad.
  4. Dewiswch Ie i osod atgoffwr dyddiad dyledus a dewiswch sawl diwrnod cyn y dyddiad dyledus yr hoffech gael eich hysbysu. Caiff yr atgoffwr e-bost hwn ei anfon fel crynhoad ar ffurf e-bost neu fel e-byst unigol, yn seiliedig ar yr opsiwn dewiswch chi.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Dewis sut a phryd rydych yn cael hysbysiadau

Gallwch ddewis pa fathau o hysbysiadau a dderbyniwch a sut rydych eisiau eu derbyn.

Notification settings interface in Original Experience
  1. O'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau a dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.
  2. Ar dudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch y ddolen ar gyfer Cyrsiau rwyf wedi cofrestru arnynt i newid gosodiadau hysbysiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ar yr un pryd. Neu, gallwch wneud newidiadau ar gyfer cyrsiau unigol. Dewiswch enw cwrs yn adran Golygu Gosodiadau Cwrs Unigol.
  3. Ar dudalen Newid Gosodiadau, gwiriwch fod Cyrchfan eich Hysbysiadau yn gywir. Os nad ydynt, gallwch eu newid yn eich Gwybodaeth Bersonol.
  4. Yn adran Gosodiadau, dewiswch sut yr hoffech i'ch hysbysiadau gael eu hanfon atoch. Dewiswch y blwch ticio ar ben pob colofn i dderbyn yr holl hysbysiadau a ddewiswyd gennych yn yr un modd. Cliriwch y blwch ticio ar gyfer unrhyw hysbysiad dydych chi ddim eisiau ei derbyn.
    • Dangosfwrdd: Yn ddiofyn, mae pob math o hysbysiad yn ymddangos yn nhudalennau Diweddariadau a Postiadau Fy Blackboard ac yn hafan y cwrs. Maen nhw hefyd yn ymddangos yn y Dangosfwrdd Hysbysiadau os oes gan eich sefydliad fynediad at nodweddion ymrwymiad cymunedol.
    • Symudol: Dewiswch ba hysbysiadau gwthio rydych eisiau iddynt ymddangos ar eich dyfais symudol. Mae hysbysiadau gwthio ap Blackboard yn ymddangos ar sgrin eich dyfais hyd yn oed os nad ydych yn agor yr ap.
    • E-bost, Neges destun, a Testun-i-lais: Anfonir negeseuon hysbysu e-bost, neges destun a thestun-i-lais gyda'r wybodaeth ddarparoch chi yn eich gwybodaeth bersonol.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Troir hysbysiadau e-bost, symudol, SMS a thestun-i-lais i ffwrdd yn ôl rhagosodiad. Os nad ydych yn gweld colofn ar gyfer y dull hysbysu, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael yn eich sefydliad.

Byddwch yn derbyn yr hysbysiadau e-bost hyn bob tro:

  • Cyhoeddiad ar gael

Byddwch yn derbyn yr hysbysiadau e-bost hyn bob tro pan fyddwch yn dewis derbyn e-bost dyddiol:

  • Cofnodion blog a dyddlyfr heb eu darllen
  • Gweithgarwch trafodaeth heb ei darllen - ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra*

Ni allwch dynnu hysbysiadau o'ch hysbysiad e-bost dyddiol.

Mae angen i chi ddewis Crynhoad E-bost Dyddiol yn eich gosodiadau hysbysiadau cyffredinol er mwyn dewis hysbysiadau e-bost ar gyfer yr eitemau hyn:

  • Nifer y negeseuon trafodaeth heb eu darllen
  • Nifer y postiadau blog heb eu darllen
  • Nifer y cofnodion dyddlyfr heb eu darllen

Dashfwrdd Hysbysiadau

Y Dangosfwrdd Hysbysiadau yw un ffordd mae'n bosib y byddwch yn gallu gweld hysbysiadau ar gyfer yr holl gyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt. Os yw'ch sefydliad yn ei defnyddio, mae'r Dangosfwrdd Hysbysiadau yn ymddangos fel dab eilaidd ar dab Fy Sefydliad.

Cyflwynir gwybodaeth mewn blychau a elwir yn fodiwlau, megis Fy Nghyhoeddiadau , Fy Nhasgau, a Beth sy'n Newydd. Mae'r system yn cynhyrchu'r wybodaeth ym mhob modiwl. Yn y Wedd Cwrs Wreiddiol, mae tudalennau modiwlau'n dangos hysbysiadau ar gyfer y cwrs rydych ynddo.

Y tu mewn i'ch cyrsiau, efallai byddwch yn gweld Hafan ar ddewislen y cwrs. Mae'r Hafan yn debyg i'r Dangosfwrdd Hysbysiadau, ond mae'n dangos modiwlau hysbysiadau ar gyfer y cwrs rydych ynddo.

Mwy ar y modiwlau hysbysiadau


Hysbysiadau gwthio ap Blackboard

Gallwch reoli pa hysbysiadau gwthio sy'n ymddangos ar eich dyfais symudol. Mae’r math o hysbysiadau gwthio a gynhyrchir yn dibynnu ar a oes gennych y profiad Blackboard Learn Gwreiddiol neu’r profiad Blackboard Learn Ultra.

Rhagor am hysbysiadau gwthio ap Blackboard


Hysbysiadau neges destun a thestun-i-lais

Mae'n bosib bod hysbysiadau neges destun a thestun-i-lais ar gael yn eich sefydliad. Cyflwynir y mathau o negeseuon hyn gan system Blackboard Learn bob 20 munud yn ôl rhagosodiad. Gall eich sefydliad osod amserlen gyflwyno er mwyn i chi beidio ag anfon neu dderbyn negeseuon yng nghanol y nos. Caiff negeseuon sy'n cael eu creu y tu allan i'r amserlen gyflwyno eu dal yn ôl tan i'r amser anfon newydd gychwyn.

  • Gyda negeseuon testun, gall hyfforddwyr anfon negeseuon o gwrs Blackboard Learn i ffonau symudol myfyrwyr. Mae rhaid i hyfforddwyr anfon neges yn gyntaf cyn y gall myfyrwyr ymateb.
  • Mae testun-i-lais yn darllen hysbysiadau allan a anfonir at eich ffôn. Mae’r opsiwn hwn ar gael yn unig pan fydd pecyn iaith rhagosodedig y system wedi’i osod i'r Saesneg neu'r Sbaeneg.

Os yw'ch sefydliad wedi gosod negeseuon testun a thestun-i-lais, caiff y nodweddion eu rhestru ar eich tudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau. Eich hyfforddwyr sy'n dewis defnyddio'r offer hyn i anfon hysbysiadau atoch ai peidio. Rhaid i chi roi rhif ffôn symudol ar eich Gwybodaeth Bersonol a thanysgrifio i negeseuon testun a thestun-i-lais yn eich gosodiadau hysbysiadau.