Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae cyhoeddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig, sy'n sensitif o ran amser.
Gallwch weld cyhoeddiadau'r sefydliad a’r cwrs a bostiwyd gan eich sefydliad a’ch hyfforddwyr yn hawdd.
Dod o hyd i'ch cyhoeddiadau
Gallwch gael mynediad at eich cyhoeddiadau ar y y ffrwd gweithgarwch neu ar Hafan y cwrs. Ewch i'r pwnc "Ffrwd Gweithgarwch" am ragor o wybodaeth am y ffrwd gweithgarwch. Mae cyhoeddiadau'r sefydliad yn ymddangos ar dudalen fewngofnodi Learn a'r ffrwd gweithgarwch.
Efallai byddwch hefyd yn derbyn hysbysiadau am gyhoeddiadau a gall eich hyfforddwr anfon e-byst am gyhoeddiadau cwrs pwysig.
Ffrwd gweithgarwch
Mae cyhoeddiadau cwrs yn ymddangos yn yr adran Heddiw neu Diweddar o’r ffrwd gweithgarwch yn seiliedig ar bryd mewngofnodoch. Mae’r rhan fwyaf o gyhoeddiadau’n diflannu o’ch ffrwd gweithgarwch pan fyddwch yn eu gweld yn y cwrs.
Byddwch yn derbyn cyhoeddiad cwrs a hysbysiad yn y ffrwd gweithgarwch am grwpiau cwrs y mae angen i chi ymuno â nhw. Os nad ydych wedi ymuno, bydd y rhybudd yn aros yn y ffrwd gweithgarwch.
Hafan y Cwrs
Mae’r Hafan yn dudalen modiwl cwrs. Gall eich hyfforddwr ailenwi neu ddileu'r dudalen hon, a chreu tudalennau modiwl cwrs eraill. Mae'ch hyfforddwr hefyd yn dewis pa fodiwlau sy'n ymddangos.
Yn y modiwl Fy Nghyhoeddiadau, mae cyhoeddiadau yn ymddangos ar gyfer y cwrs rydych ynddo yn unig. Ni fydd cyhoeddiadau'r sefydliad yn ymddangos. Mae cyhoeddiadau diweddar yn ymddangos fel dolenni. Dewiswch gyhoeddiad neu mwy o gyhoeddiadau... i weld y rhestr lawn o gyhoeddiadau cwrs. Ar frig y dudalen, gallwch hidlo’ch cyhoeddiadau yn ôl Sefydliad a Cwrs.