Gosodiadau Blackboard Data
Defnyddio gosodiadau Blackboard Data i:
- Adolygu statws eich cyfrif gwasanaeth.
- Galluogi cyfrifon gwasanaeth.
- Newid cyfrinair eich cyfrif gwasanaeth.
Gosodiadau Cyfrif Snowflake
Adolygu statws eich cyfrif gwasanaeth:
- Mewngofnodwch i Blackboard Data.
- Dewiswch opsiwn y ddewislen.
- Dewiswch Gosodiadau.
- Dan Gosodiadau Cyfrif Snowflake, dewch o hyd i'r golofn Statws Cyfrif Gwasanaeth.
- Mae Statws Cyfrif Gwasanaeth yn dangos a yw'r cyfrif wedi'i alluogi neu wedi'i analluogi.
Galluogi Cyfrif Gwasanaeth
Os yw eich cyfrif wedi'i analluogi ac rydych eisiau ei alluogi, bydd rhaid i chi newid cyfrinair y cyfrif gwasanaeth.
Newid Cyfrinair Eich Cyfrif Gwasanaeth
Cadw golwg ar y nifer o ddiwrnodau cyn i gyfrinair eich cyfrif gwasanaeth dod i'r ben a'r dyddiad dod i ben. Newid eich cyfrinair mewn pryd.
- Mewngofnodwch i Blackboard Data.
- Dewiswch opsiwn y ddewislen.
- Dewiswch Gosodiadau.
- Dan Gosodiadau Cyfrif Snowflake, dewiswch Newid Cyfrinair.
- Cewch eich ailgyfeirio at Snowflake i gwblhau newid eich cyfrinair.
- Dewiswch Iawn i barhau.
Gall meddalwedd sganio URLau, fel meddalwedd wrthfirysau, rwystro eich mynediad at ddolen ailgyfeirio Snowflake. Ni fydd hyn yn caniatáu i chi gwblhau newid y cyfrinair. Rhowch gynnig ar borwr arall nad yw'n defnyddio'r feddalwedd hon neu newid gosodiadau eich meddalwedd wrthfirysau.