Mae Geiriadur Data Blackboard Data Developer yn cyflwyno diffiniadau tablau a cholofnau mewn fformat hawdd ei ddarllen. Defnyddiwch yr adnodd hwn i greu adroddiadau. Dysgu am ffynhonnell, defnydd a pherthnasau'r endidau sydd ar gael.

Dyma rai pethau y dylech eu gwybod am Eiriadur Data Blackboard.

  • Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau.
  • Mae is-fodelau yn grwpio cofnodion cysylltiedig.
  • Mae Blackboard Data yn defnyddio storfa ddata Snowflake.

Ewch i wefan dogfennaeth Snowflake i gael tiwtorialau a chymorth gyda phob gorchymyn, swyddogaeth a gweithredydd SQL a gefnogir.

Cofnod

Mae cofnodion yn cynnwys tablau a cholofnau. Dewiswch gofnod i weld y diffiniad, manylebau technegol, a pherthnasau endidau ar gyfer y cofnod.

  • Eicon tic dilyswyd
    : Gweld ar gipolwg a yw cofnod wedi'i fapio a'i ddilysu yn ôl yr argymhelliad.
  • Diffiniad y Cofnod: Mae'n disgrifio'r tabl neu'r golofn mewn fformat hawdd ei ddarllen.
  • System Ffynhonnell: Mae'n nodi o ble mae'r wybodaeth yn dod. Er enghraifft, Blackboard Learn.
  • Gwrthrychau Ffynhonnell: Mae'n nodi'r sgema, tabl a cholofn y mae'r data yn dod ohonynt.
  • Cyd-destun: Mae'n nodi lle y defnyddir cofnodion. Er enghraifft, mewn cwrs neu sesiwn defnyddiwr.
  • Gall y Golofn fod yn Nwl: Mae'n nodi a all data'r golofn fod yn Nwl.
  • Mae'r Golofn yn Hunaniaeth: Mae'n nodi a yw'r golofn yn golofn hunaniaeth.
  • Math o Ddata'r Golofn: Y math o ddata sydd yn y golofn.

    Rhagor am y mathau o ddata mae Snowflake yn eu cefnogi

  • Perthnasau Endidau: Mae'r Diagramau Perthnasau Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data yn y gronfa ddata i chi. Mae ERD Blackboard Data yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos y perthnasau i chi.

 

Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022. 

Diagram Perthnasau Endidau

Mae Diagramau Perthnasau Endidau (ERD) yn dangos y perthynas a llif y data i chi.

Gellir rhyngweithio â'r ERD.

  • Dewiswch dabl neu golofn i amlygu'r perthnasau.
  • Dewiswch y ddolen
    wrth ochr enw tabl neu golofn i weld diffiniad y cofnod hwnnw.
  • Dewiswch Sgrin lawn
    , os hoffech gael gwedd fwy.
  • Symudwch eich cyrchwr dros yr eicon gwybodaeth
    i weld allwedd eiconau ERD.
  • Defnyddiwch yr offeryn Chwilio i ganfod tabl yn yr ERD.
  • Defnyddiwch ddau fys neu'ch olwyn sgrolio i nesáu at yr ERD neu bellhau oddi wrtho.
  • Pwyswch Ctrl a dewis yr ERD i'w symud. Ar Mac, pwyswch Command a dewis yr ERD.

Mae'r ERD yn defnyddio nodiannau traed brân i ddangos perthnasau.

Taflen grynhoi cyfeirio cyflym Nodiannau Traed Brân

Lleoleiddio

Gallwch ddefnyddio'r dewisydd iaith i ddewis eich dewis iaith. Er hynny, mae termau nad ydynt wedi'u lleoleiddio ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn Saesneg ar ôl i chi ddewis iaith arall. Caiff y fersiwn wedi'i leoleiddio o'r termau hyn ei gyflenwi'n raddol drwy gydol 2021 a 2022, ac eithrio  termau'r Geiriadur Data sy'n gysylltieidig â'r meysydd hyn, a fydd yn parhau i fod yn Saesneg:  

  • Disgrifiad o'r cofnod

  • Gall y Golofn fod yn Nwl 

  • Mae'r Golofn yn Hunaniaeth  

  • Math o Ddata'r Golofn 

 

Data dictionary Entry with unlocalized terms highlighted with a purple rectangle