Capsiynu Cynnwys Fideo

Ynglŷn â chapsiynau

Os ydych am i ddysgwyr ymgysylltu'n llawn â chynnwys fideo, ychwanegwch gapsiynau. Mae capsiynu fideo'n creu cynnwys hygyrch ar gyfer unigolion sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw. Mae capsiynau hefyd yn bwysig i unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd swnllyd. Mae capsiynu'n ychwanegu dimensiwn arall at gynnwys fideo, gan wneud y profiad dysgu yn gyfoethocach i fyfyrwyr sydd â phroblemau prosesu niwrolegol penodol, siaradwyr nad ydynt yn frodorol, oedolion sy'n gweithio tuag at lythrennedd sylfaenol, a phlant sy'n dysgu darllen.


Gwahanol fathau o gapsiynau

Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys y gwahanol fathau o gapsiynu. Nid yw pob math o gapsiynu'n cyflawni pob gofyniad yn ymwneud â hygyrchedd.

  • Capsiynau Caeedig: Dynodir fideo sydd â chapsiynau caeedig ag eicon CC cyfarwydd
    . Nid oes raid i chi ddefnyddio capsiynau caeedig. Gall defnyddwyr eu troi ymlaen neu eu diffodd gyda'u chwaraewr fideo neu reolyddion eraill. Mae capsiynau caeedig ar gyfer fideo ar set deledu yn cael eu darllen gan ddadgodydd sy'n rhan o galedwedd pob set deledu a werthir yn yr Unol Daleithiau. Mae capsiynau caeedig ar gyfer fideo ar y we yn cael eu darllen gan chwaraewr cyfryngau os yw'n gallu delio â chapsiynau caeedig. Nid yw pob fersiwn o chwaraewyr cyfryngau’n gallu delio â chapsiynau caeedig. Nid yw capsiynau caeedig yn rhan o'r ffrwd fideo go iawn ac maent yn bodoli mewn ffrwd testun ar wahân.

    Mae angen i ddefnyddwyr sydd am ddefnyddio capsiynau caeedig ddeall sut mae eu troi ymlaen ar eu setiau teledu neu eu chwaraewyr cyfryngau. Rhowch gyfarwyddiadau i ddefnyddwyr yn eich cwrs.

  • Capsiynau Agored: Mae fideo sy'n gallu cael ei weld ar y we yn gallu defnyddio capsiynau agored i roi testun ar y sgrin. Mae capsiynau agored yn cael eu dangos bob tro am eu bod yn rhan o'r ffrwd fideo. Nid yw nodweddion gwahanol chwaraewyr cyfryngau'n effeithio ar gapsiynau agored. Nid oes raid i ddefnyddwyr wybod sut mae troi'r capsiynau ymlaen. Un anfantais o ddefnyddio capsiynau agored yw os bydd y fideo wedi'i gywasgu, mae'n bosib y collir ansawdd ac y bydd yn anoddach eu darllen. Maent hefyd yn gallu tarfu ar rai defnyddwyr.
  • Disgrifiadau Sain: Mae ychwanegu disgrifiad ysgrifenedig o effeithiau sain megis "llawr yn gwichian" neu "gwydr yn malu'n ddarnau mân" yn darparu gwell profiad i wylwyr. Mae disgrifiadau sain yn rhan o gapsiynau agored neu rai caeedig. Gallant roi gwybodaeth sydd ar goll na all y storïwr ei rhoi. Er enghraifft, os yw adroddwr yn dweud, "Fel y gallwch weld, mae'r tri phrif bwynt yn cefnogi'r casgliad," ond ddim yn esbonio beth yw'r tri phrif bwynt hynny, mae disgrifiad sain yn darparu'r wybodaeth goll yn y capsiynau.

    Y ffordd hawsaf o geisio peidio â chael disgrifiadau sain yn yr enghraifft yw cael bwrdd stori y mae'r storïwr yn ei ddilyn sy'n disgrifio gwybodaeth weledol yn uchel.

  • Capsiynau Amser-real: Mae capsiynau amser-real yn digwydd yn ystod digwyddiadau cydamserol fel ffrydio fideo neu sesiwn Blackboard Collaborate. Weithiau cyfeirir atynt fel testun amser-real ac maent yn wasanaeth trawsgrifio tebyg i TDD/TTY ar gyfer ffonau. Mae gwasanaethau trawsgrifio ar wahân i Blackboard Learn. Fel arfer codir tâl am y gwasanaeth ac mae angen trefnu ei gael cyn y digwyddiad.
  • Is-deitlau: Gydag isdeitlau, cymerir yn ganiataol bod y gwylwyr yn gallu gweld a chlywed gan mai dim ond y ddeialog sy'n cael ei chyfieithu ac nid yw'n cynnwys effeithiau sŵn na disgrifiadau eraill. Dim ond deialog sy'n cael ei siarad sy'n cael ei chapsiynu ac yn aml mae'n cael ei chyfieithu i iaith wahanol.

Dod o hyd i gynnwys wedi'i gapsiynu

Y ffordd hawsaf a chyflymaf o ychwanegu cynnwys wedi'i gapsiynu at eich cwrs yw chwilio am fideos sydd eisoes wedi'u capsiynu. Canran gymharol fach o fideos sydd wedi cael eu capsiynu, ond gallwch ddod o hyd iddynt drwy hidlo'ch chwiliad. Yn YouTube, rhowch eich term chwilio ac wedyn ychwanegu atalnod wedi'i ddilyn gan cc. Er enghraifft, wrth chwilio am fideos am MOOCs sy'n cynnwys capsiynau, teipiwch "MOOC,cc" yn y blwch chwilio.

Mae gan iTunes a Hulu hidlyddion i'ch helpu i leoli fideos sydd â chapsiynau. Nid yw'r ffaith bod gan fideo gapsiynau yn golygu bod y cynnwys yn well nac yn waeth na fideos heb gapsiynau. Cyn ychwanegu fideo â chapsiynau at eich cwrs, chwaraewch y fideo hyd at y diwedd i sicrhau bod y capsiynau'n gywir a bod y cynnwys yr hyn rydych chi'n ei ddisgwyl.


Sut i gapsiynu fideo gyda YouTube

Gallwch gapsiynu unrhyw fideo rydych yn perchen arni, sy'n golygu eich bod wedi'u llwytho i'ch cyfrif YouTube™. Mae gwasanaeth capsiynu awtomatig YouTube yn rhoi cychwyn cadarn i gapsiynu eich fideos.

Mae cael bwrdd stori yn bwysig, hyd yn oed os ydych chi'n gwneud fideos anffurfiol. Teipiwch amlinelliad o'r hyn rydych am ei ddweud. Mae hyn yn golygu treulio ychydig bach o amser cyn dechrau, ond bydd yn arbed amser yn y tymor hir. Os oes gennych chi fwrdd stori, byddwch yn swnio'n well yn eich fideo, ac ni fydd angen i chi ail-ffilmio cymaint. Byddwch hefyd yn gallu copïo a gludo'ch stori yn YouTube yn lle ei haildeipio yn y golygydd capsiynau.

  1. Teipiwch amlinelliad a bwrdd stori syml.
  2. Ewch ati i greu eich fideo.
  3. Llwythwch y fideo i YouTube.
  4. Arhoswch ddwy i chwe awr.
  5. Mewngofnodwch i YouTube a dewiswch Video Manager.
  6. Dewiswch Edit a dewiswch Captions.
  7. Dewiswch Automatic Captions.
  8. Golygwch y capsiynau sy’n bodoli. Weithiau, mae'r brasamcanion awtomatig yn ofnadwy o ddigrif felly mae hyn yn ddoniol.

Er nad yw capsiynau awtomatig YouTube yn berffaith o bell ffordd, mae'n gwneud yr hyn rydych chi eisiau 80 y cant. Gwnewch yn siŵr bod eich bod yn siarad ac yn ynganu'n glir er mwyn cael canlyniadau gwell. Rhan orau'r offer capsiynau awtomatig yw bod y codau amser yn cael eu cydamseru â'ch cynnwys. Yr unig peth mae angen i chi ei wneud yw golygu'r testun sydd eisoes yn bodoli ym mhob ffrâm.