Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Cyrchu'r Ganolfan Raddau
Rydych yn cyrchu'r Ganolfan Raddau o'r Panel Rheoli. Dewiswch ddolen pennawd 4 ar gyfer y Ganolfan Raddau wedyn dewiswch Canolfan Raddau Lawn. Ar ôl i'r Ganolfan Raddau lwytho, dewiswch y ddolen Troi Modd Darllenydd Sgrîn Ymlaen. Gwasgwch Insert + T i weld a yw'r Modd Darllenydd Sgrîn yn weithredol.
Bydd angen i chi droi'r modd darllenydd sgrîn ymlaen bob tro y byddwch yn llwytho Blackboard Learn.
Prif nodwedd a gwedd ddiofyn y Ganolfan Raddau yw tabl. Mae rhesi'r tabl hwn yn cyfateb i fyfyrwyr unigol, heblaw am y rhes uchaf. Mae'r colofnau'n cyfateb i eitemau y gellir eu graddio, fel aseiniadau a phrofion.
Gwasgwch Alt + Ctrl + Chwith a Alt + Ctrl + De i symud rhwng yr eitemau gwahanol y gellir eu graddio ar gyfer myfyriwr penodol.
Mantais defnyddio'r bysellau hyn dros tab a Shift+Tab yw y gallwch ddeall ffiniau pob rhes yn hawdd.
Mwy o wybodaeth ynghylch marcio
Cyrchu dewislenni colofnau
Mae rhes uchaf pob colofn yn Ganolfan Raddau'n cynnwys graffigyn. Mae label y graffigyn yn nodi p'un a yw aseiniad wedi cael ei raddio ai beidio.
- Mae JAWS yn dweud "Clicio am Fwy o Opsiynau", os gellir newid gradd.
- Mae JAWS yn dweud "Dim Gradd", os na ellir graddio eitem.
Mae'r graffigyn yn agor dewislen y golofn hefyd. Dewiswch y graffigyn yn rhes uchaf y golofn i weld manylion y golofn honno (p'un a yw'n arolwg, aseiniad. prawf ac yn y blaen) neu i'w golygu.
Os nad yw'r ffocws yn neidio'n awtomatig i'r rhestr dolenni ar gyfer gorchmynion ar ôl i chi ddewis dolen yn y rhes hon, gwasgwch Ctrl + End i neidio i waelod y ddogfen. Fe ddewch o hyd iddynt yno.
Creu colofn cyfartaledd
- Yn y Ganolfan Raddau, dewiswch y ddolen Creu Colofn.
- Defnyddiwch y saeth I Lawr i ddod o hyd i'r pennawd lefel 2 Creu Colofn a Gyfrifir a'i dewis.
- Defnyddiwch y saeth I Lawr i ddod o hyd i Colofn Gyfartalog a'i dewis.
- Teipiwch enw byr. Mae'r enw hwn yn dod yn enw'r golofn yn y Ganolfan Raddau ac ar dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr.
- Gwasgwch Tab i symud trwy'r meysydd nesaf ar y dudalen hon. Mae hwn hefyd yn helpu osgoi'r offer rheoli fformatio ar gyfer y blwch testun Disgrifiad.
- Pan fyddwch yn cyrraedd botwm radio sy'n darllen Pob Colofn Gradd, rydych wedi cyrchu'r adran Dewis Colofnau. Os ydych eisiau dewis colofnau a chategorïau i'w cynnwys, defnyddiwch y saeth I Lawr i ddewis Colofnau a Chategorïau Dewisedig.
- Gwasgwch Tab unwaith i lanio ar y blwch Rhestr Colofnau i'w Dewis.
- Gwasgwch a daliwch y bysell Ctrl i lawr. Defnyddiwch y saethau I Fyny ac I Lawr i symud trwy'r rhestr eitemau. Gwasgwch Ctrl + Space i ddewis eitem. Gwasgwch Ctrl + Space eto i ddad-ddewis eitem.
Ar ôl i'r blwch rhestr gael ei ffocysu a'r modd ffurflenni gael ei weithredu, daliwch y bysell control i lawr ac ar yr un pryd defnyddiwch y bysellau saeth i symud trwy'r eitemau yn y rhestr hon. Noder bod JAWS yn cyhoeddi "Heb ei Ddewis" cyn bron pob un o'r eitemau. Gwasgwch Ctrl + Space i ddewis eitem. Mae'n bwysig dal Ctrl i lawr wrth ddefnyddio'r bysellau saeth i symud i fyny ac i lawr yn y rhestr hon. Mae gwasgu'r bysellau saeth i fyny ac i lawr heb ddal Ctrl i lawr yn symud i'r eitem nesaf ac yn ei dewis, ac ar yr un pryd yn dad-ddewis yr holl eitemau a ddewiswyd yn flaenorol.
- Ar ôl i chi ddewis eich colofnau, Gwasgwch Tab unwaith a dewiswch Symud y colofnau dewisedig trosodd i'w hychwanegu at gyfrifiad y golofn newydd hon.
- Diffoddwch y modd ffurflenni a defnyddiwch y bysellau saeth i symud trwy'r dudalen. Mae hwn yn eich helpu i ddeall y nifer o feysydd nesaf sy'n ymdrin â'r cyfrifiad yn well. Gwasgwch y bar Space i dicio'r opsiynau botwm radio rydych eu heisiau.
- Yn y pen draw fe ddewch o hyd i'r blwch rhestr Categorïau. Ychwanegwch gategorïau at y cyfrifiad hwn trwy ddal Ctrl i lawr a defnyddio'r bysellau saeth i symud i'w heitem. Gwasgwch Ctrl + Space i ddewis eitem. Tabiwch i Symud Eitemau Dewisedig Trosodd i'w dewis a'i hychwanegu.
- Dewch o hyd i Cyflwyno a dewiswch ef.
Creu cynllun graddau
- Yn y Ganolfan Raddau, dewiswch y pennawd lefel 2 Rheoli. Bydd dewislen gyda nifer o opsiynau yn ymddangos.
- Gwasgwch y saeth I Lawr i ddod o hyd i Gynlluniau Graddau. Dewiswch ef.
Mae Cynlluniau Graddau wedi'u rhestru mewn tabl o ddwy golofn hefyd: teitl a disgrifiad.
- Dewiswch y ddolen Creu Cynllun Graddau uwchben y prif dabl.
- Teipiwch enw ar gyfer y cynllun graddau.
- Gwasgwch T i symud i'r tabl Mapio Cynllun a diffinio'r amrediadau pwynt.
Os bydd angen i chi olygu cynllun presennol, dewiswch y Ddewislen Opsiynau: Dolen Teitl yn y Golofn Teitl. Mae rhestr opsiynau'n ymddangos ar waelod y dudalen.
Tabl Mapio Cynllun
Mae gan y tabl Mapio Cynllun bum colofn.
- Graddau wedi'u Sgorio Rhwng: Defnyddiwch y meysydd golygu yn y golofn hon i ddiffinio'r sgorau isaf ac uchaf mewn amrediad. Mae gan y rhes gyntaf feysydd golygu ar gyfer gwerthoedd isaf ac uchaf yr amrediad. Mae gan resi ychwanegol un maes golygu'n unig. Mae'r holl feysydd golygu yn y golofn hon wedi'u labelu "Llai na".
- Yn Hafal Â: Defnyddiwch y maes golygu yn y golofn hon i ddiffinio pa sgorau y mae'r Graddau wedi'u Sgorio Rhwng yn hafal â nhw.
- Graddau Wedi'u Nodi Eich Hun Fel: Bydd y golofn hon yn dangos yr un gwerth â'r golofn Yn Hafal Â.
- Yn Cyfrifo Fel: Defnyddiwch y maes golygu i ddiffinio'r ganran radd gyffredinol.
- Mewnosod Rhesi: Dewiswch Mewnosod Rhes Newydd Yma i ychwanegu rhes uwchben y rhes bresennol. Mae'r gwerth yn y rhes wreiddiol yn cael ei addasu i weithio gyda'r rhes a gwerthoedd newydd.
Defnyddiwch orchmynion llywio tabl JAWS , Alt + Ctrl + bysellau Saeth i symud rhwng meysydd golygu.
Enghraifft:
Mae gennych dair gradd wedi'u diffinio mewn cynllun: Rhagorol, Da, ac ac Angen Gwella. Rydych eisiau diffinio dwy radd newydd: Da Iawn a Methu.
I greu'r radd Da Iawn, symudwch i'r rhes Da a gwasgwch Alt + Ctrl + Shift + De i neidio i'r golofn olaf. Y golofn Mewnosod Rhesi. Dewiswch Mewnosod Rhes Newydd Yma. Gwasgwch Alt + Ctrl + I Fyny i symud i'r rhes sydd newydd gael ei hychwanegu. Defnyddiwch Alt + Ctrl + Chwith i symud rhwng colofnau. Addaswch y pwyntiau gwerth ac enwch ef "Da Iawn".
I greu'r radd Methu, gwasgwch Alt + Ctrl + Shift + I Lawr i neidio i'r rhes olaf. Gwasgwch Alt + Ctrl + Shift + De i neidio i'r golofn Mewnosod Rhesi. Dewiswch Mewnosod Rhes Newydd Yma. Rhes olaf y tabl hwn yw'r radd Methu newydd. Y rhes newydd sy'n cael ei mewnosod yw Angen Gwella. Golygu gwerthoedd y rhes olaf. Disodlwch Angen Gwella gyda Methu yn y golofn Yn Hafal Â. Gwasgwch Alt + Ctrl + I Fyny i symud i'r rhes newydd a diffinio gwerthoedd Angen Gwella.