Golygu Priodweddau Ffolder
Ar ôl i chi greu ffolder, gallwch newid ei osodiadau. Tudalen Gosodiadau Golygu yw hefyd lle byddwch yn dod o hyd i wybodaeth fanwl ar y ffolder, megis pwy greodd y ffolder, pryd grëwyd y ffolder a phryd gafodd ei olygu ddiweddaf.
Golygu priodweddau ffolder
- Yn y Content Collection, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem.
- Dewiswch Gosodiadau Golygu o ddewislen y ffolder.
- Dewiswch yr opsiynau fel bo'n briodol.
- Dewiswch Cyflwyno.
Opsiynau sydd ar gael
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Gwybodaeth am y Ffolder | |
Enw’r Ffolder | Edrychwch ar neu newidiwch enw'r ffolder. |
URL Gwe-ffolder | URL y ffolder. Gellir cyrchu'r URL hwn yn unig gan ddefnyddwyr sydd â chyfrif defnyddiwr cyfredol a breintiau i edrych ar y ffolder. |
URL Parhaol | Y ddolen gwe ar gyfer y ffeil hon sy'n cynnwys y dynodwr unigryw, digyfnewid ar ei chyfer ond nid ei llwybr lleoliad. Mae'r dangosyddion parhaus hyn yn golygu na fod dolenni i'r Content Collection yn torri pan fyddant yn cael eu symud. |
Perchennog | Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ffolder a'i chynnwys. Os yw'r maes yn nodi SYSTEM, yna fe grëwyd y ffolder hon yn awtomatig. |
Crëwyd Gan | Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn a grëodd y ffolder. |
Crëwyd Ar | Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser y crëwyd y ffolder. |
Golygwyd Ddiwethaf Gan | Mae'n arddangos enw defnyddiwr y sawl a wnaeth newidiadau i'r eitem ddiwethaf. |
Golygwyd Ddiwethaf | Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser diweddaraf y gwnaethpwyd newidiadau i'r ffolder. |
Gwybodaeth am y Cwota | |
Maint | Mae'n arddangos maint y ffolder mewn megabeitiau. |
Cwota mewn Megabeitiau | Nodwch gwota o le ar gyfer y ffolder mewn megabeitiau (MB). Ni all cwota o le fod yn fwy na'r cwota ar gyfer y ffolder lle bydd y ffolder newydd yn cael ei chadw. Er enghraifft, ni all y cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes/dogfennau fod yn fwy na'r cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes. |
Cwota sydd Ar Gael | Yn dangos faint o le sydd ar gael ar gyfer y rhiant ffolder. Er enghraifft, ar gyfer y ffolder /cyrsiau/hanes/dogfennau, bydd y maes hwn yn dangos y lle sydd ar gael ar gyfer /cyrsiau/hanes. Ni all y cwota ar gyfer ffolder fod yn fwy na'r lle sydd ar gael yn y ffolder a fydd yn ei gadw. |
Opsiynau Cloi | |
Cloi | Dewiswch glo ar gyfer y ffolder o'r opsiynau canlynol:
Mae clo yn diogleu'r ffolder ei hun (enw a gosodiadau) rhag newidiadau. Mae cloi'r ffolder a'i holl gynnwys yn diogleu'r ffolder ei hun yn ogystal â'r deunydd y mae'n ei chynnwys. Os cloir ffolder, ni all y defnyddiwr olygu eitemau trwy'r ffolder gwe, er enghraifft, copïo eitem yn uniongyrchol i mewn i'r ffolder gwe. Ar y Mac, gelwir ffolder gwe yn lleoliad a rennir. |
Opsiynau ar gyfer Sylwadau | |
Sylwadau | Dewiswch opsiwn ar gyfer ymdrin â sylwadau:
|
Opsiynau Fersiwn | |
Fersiynau | Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli pennu fersiynau:
|
Opsiynau Olrhain | |
Olrhain | Dewiswch opsiwn olrhain ar gyfer y ffolder hon:
|
Opsiynau Alinio | |
Aliniadau | Dewiswch opsiwn alinio ar gyfer y ffolder hon:
|
Opsiynau Metadata | |
Metaddata | Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli metadata ar gyfer y ffolder hon:
Mae metadata'n cynnwys gwybodaeth am y ffeiliau yn y ffolder hon. Bydd ychwanegu metadata at y ffeiliau o fewn y ffolder hon a ’ i holl is-ffolderi yn disodli unrhyw fetadata presennol. |
Cloi is-ffolder
Mae ffolderi'n gallu cynnwys ffeiliau ac is-ffolderi. Wrth ddewis cloi neu datgloi ffolder, cofiwch y daw caniatâd a chloeon eitemau o'r rhiant ffolder. Os newidir clo'r eitem, gall hyn effeithio ar glo'r rhiant ffolder hefyd.
Er enghraifft, gall datgloi is-ffolder newid math y clo ar y rhiant ffolder. Os byddwch yn newid clo is-ffolder i Dim Clo o Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys, bydd y rhiant ffolder yn cael ei osod yn awtomatig i Dim Clo. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os mai Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys oedd gosodiad y rhiant ffolder.
Yn yr un modd, ni ddylid cloi is-ffolderi os yw rhiant ffolder eisoes wedi'i gloi. Bydd y weithred hon yn torri'r clo ar y rhiant ffolder, ac yn ei osod i Dim Clo, gan adael yr is-ffolder wedi'i gloi a'r rhiant ffolder heb glo.