Ar ôl i chi greu ffolder, gallwch newid ei osodiadau. Tudalen Gosodiadau Golygu yw hefyd lle byddwch yn dod o hyd i wybodaeth fanwl ar y ffolder, megis pwy greodd y ffolder, pryd grëwyd y ffolder a phryd gafodd ei olygu ddiweddaf.
Golygu priodweddau ffolder
- Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys yr eitem.
- Dewiswch Gosodiadau Golygu o ddewislen y ffolder.
- Dewiswch yr opsiynau fel bo'n briodol.
- Dewiswch Cyflwyno.
Opsiynau sydd ar gael
| Maes | Disgrifiad |
|---|---|
| Gwybodaeth am y Ffolder | |
| Enw’r Ffolder | Edrychwch ar neu newidiwch enw'r ffolder. |
| URL Gwe-ffolder | URL y ffolder. Gellir cyrchu'r URL hwn yn unig gan ddefnyddwyr sydd â chyfrif defnyddiwr cyfredol a breintiau i edrych ar y ffolder. |
| URL Parhaol | Y ddolen gwe ar gyfer y ffeil hon sy'n cynnwys y dynodwr unigryw, digyfnewid ar ei chyfer ond nid ei llwybr lleoliad. Mae'r dangosyddion parhaus hyn yn golygu na fydd dolenni i'r Casgliad o Gynnwys yn torri pan fyddant yn cael eu symud. |
| Perchennog | Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ffolder a'i chynnwys. Os yw'r maes yn nodi SYSTEM, yna fe grëwyd y ffolder hon yn awtomatig. |
| Crëwyd Gan | Mae'n arddangos enw defnyddiwr yr unigolyn a grëodd y ffolder. |
| Crëwyd Ar | Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser y crëwyd y ffolder. |
| Golygwyd Ddiwethaf Gan | Mae'n arddangos enw defnyddiwr y sawl a wnaeth newidiadau i'r eitem ddiwethaf. |
| Golygwyd Ddiwethaf | Mae'n arddangos y dyddiad a'r amser diweddaraf y gwnaethpwyd newidiadau i'r ffolder. |
| Gwybodaeth am y Cwota | |
| Maint | Mae'n arddangos maint y ffolder mewn megabeitiau. |
| Cwota mewn Megabeitiau | Nodwch gwota o le ar gyfer y ffolder mewn megabeitiau (MB). Ni all cwota o le fod yn fwy na'r cwota ar gyfer y ffolder lle bydd y ffolder newydd yn cael ei chadw. Er enghraifft, ni all y cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes/dogfennau fod yn fwy na'r cwota ar gyfer /cyrsiau/hanes. |
| Cwota sydd Ar Gael | Yn dangos faint o le sydd ar gael ar gyfer y rhiant ffolder. Er enghraifft, ar gyfer y ffolder /cyrsiau/hanes/dogfennau, bydd y maes hwn yn dangos y lle sydd ar gael ar gyfer /cyrsiau/hanes. Ni all y cwota ar gyfer ffolder fod yn fwy na'r lle sydd ar gael yn y ffolder a fydd yn ei gadw. |
| Opsiynau Cloi | |
| Cloi | Dewiswch glo ar gyfer y ffolder o'r opsiynau canlynol:
Mae clo yn diogleu'r ffolder ei hun (enw a gosodiadau) rhag newidiadau. Mae cloi'r ffolder a'i holl gynnwys yn diogleu'r ffolder ei hun yn ogystal â'r deunydd y mae'n ei chynnwys. Os cloir ffolder, ni all y defnyddiwr olygu eitemau trwy'r ffolder gwe, er enghraifft, copïo eitem yn uniongyrchol i mewn i'r ffolder gwe. Ar y Mac, gelwir ffolder gwe yn lleoliad a rennir. |
| Opsiynau ar gyfer Sylwadau | |
| Sylwadau | Dewiswch opsiwn ar gyfer ymdrin â sylwadau:
|
| Opsiynau Fersiwn | |
| Fersiynau | Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli pennu fersiynau:
|
| Opsiynau Olrhain | |
| Olrhain | Dewiswch opsiwn olrhain ar gyfer y ffolder hon:
|
| Opsiynau Alinio | |
| Aliniadau | Dewiswch opsiwn alinio ar gyfer y ffolder hon:
|
| Opsiynau Metadata | |
| Metaddata | Dewiswch opsiwn ar gyfer rheoli metadata ar gyfer y ffolder hon:
Mae metadata'n cynnwys gwybodaeth am y ffeiliau yn y ffolder hon. Bydd ychwanegu metadata at y ffeiliau o fewn y ffolder hon a ’ i holl is-ffolderi yn disodli unrhyw fetadata presennol. |
Cloi is-ffolder
Mae ffolderi'n gallu cynnwys ffeiliau ac is-ffolderi. Wrth ddewis cloi neu datgloi ffolder, cofiwch y daw caniatâd a chloeon eitemau o'r rhiant ffolder. Os newidir clo'r eitem, gall hyn effeithio ar glo'r rhiant ffolder hefyd.
Er enghraifft, gall datgloi is-ffolder newid math y clo ar y rhiant ffolder. Os byddwch yn newid clo is-ffolder i Dim Clo o Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys, bydd y rhiant ffolder yn cael ei osod yn awtomatig i Dim Clo. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os mai Cloi'r ffolder hwn a'i holl gynnwys oedd gosodiad y rhiant ffolder.
Yn yr un modd, ni ddylid cloi is-ffolderi os yw rhiant ffolder eisoes wedi'i gloi. Bydd y weithred hon yn torri'r clo ar y rhiant ffolder, ac yn ei osod i Dim Clo, gan adael yr is-ffolder wedi'i gloi a'r rhiant ffolder heb glo.