PDFs wedi'u sganio
Mae sganio tudalennau o hen lyfrau testun yn arwain at ddogfennau anhygyrch
Mae paratoi i addysgu cwrs yn llawer o waith, ac weithiau efallai y cewch gopi wedi'i sganio o lyfr yn eich ffeiliau. Yn anffodus, mae testunau wedi’u sganio'n anhygyrch iawn, ac yn creu llawer o heriau i bob myfyriwr eu darllen a’u hastudio'n effeithiol.
Pan fyddwch chi'n dod ar draws PDF wedi’i sganio, gwnewch eich gorau i roi dogfen destun ddigidol briodol yn ei le.
Mae PDFs wedi'u sganio yn cael dangosydd sgôr hygyrchedd isel.
Dewiswch y dangosydd Sgôr Hygyrchedd i ddysgu rhagor ac i ychwanegu disgrifiad.
Esboniad o’r broblem ac adnoddau
Mae'r ffeil 0% yn hygyrch oherwydd ei bod yn creu heriau i fyfyrwyr ddarllen ac astudio'r deunydd.
Dewiswch Beth mae hyn yn ei olygu i gael esboniad.
Lanlwytho fersiwn sy'n seiliedig ar destun
Allwch chi ddod o hyd i fersiwn testun? Dewiswch Ie a lanlwythwch fersiwn testun digidol i Ally i wella'ch sgôr.
Ychwanegwch gyfeirnod llyfrgell
Gallai fod yn anodd i chi ganfod fersiwn testun digidol o hyd. Gall ymestyn allan i'ch llyfrgell neu wasanaethau hygyrchedd cyn dechrau'r tymor helpu i sicrhau nad yw myfyrwyr sydd angen y fformatau hynny’n mynd ar eu hôl hi.
Hefyd gallwch ychwanegu cyfeirnod llyfrgell at Ally i helpu'ch myfyrwyr.
- Dewiswch Na pan ofynnir ichi a allwch gael gafael ar fersiwn seiliedig ar destun.
- Dewiswch Ie pan ofynnir ichi a oes modd dod o hyd i'r ddogfen yn y llyfrgell.
- Llenwch gymaint o wybodaeth yn ffurflen adborth Ally ag y gallwch a dewiswch Ychwanegu cyfeirnod.
Ar ôl i chi ychwanegu’r cyfeirnod llyfrgell, gall myfyrwyr weld gwybodaeth y ddogfen trwy fynd i'r ffeil, a dewis Fformatau Amgen o'r ddewislen wrth ymyl enw'r ffeil. Dewiswch Cyfeirnod Llyfrgell.
Fformat amgen OCR
Os ydych chi'n dewis Na i’r cwestiynauseiliedig ar destun a llyfrgell yn adborth Ally, mae Ally yn perfformio "Cydnabyddiaeth Optegol o Nodau" (OCR) i geisio canfod elfennau testun yn well. Yn anffodus, nid yw hwn yn ateb terfynol felly ni fydd yn gwella'r sgôr. Byddwch yn dal eisiau amnewid y fersiwn wedi'i sganio pan fydd yn bosibl.