Arweiniad cam wrth gam
Ar gyfer ffeiliau hygyrch, mae Ally yn dweud wrthych beth wnaethoch yn gywir. Ar gyfer ffeiliau â sgorau Isel i Uchel , mae Ally yn dangos y problemau i chi ac yn rhoi cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i'w hatgyweirio.
- Sgôr hygyrchedd: Gweld y sgôr gyffredinol ar gyfer y ffeil gyfan.
- Pob problem: Dewiswch Pob broblem i weld pob problem yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.
- Disgrifiad o'r broblem a chymorth cam wrth gam: Gweld y disgrifiad ar gyfer problem â'r ffeil. Mae Ally yn trefnu'r adborth hwn mewn coeden benderfyniadau, felly'r cyfan bod rhaid ichi ei wneud yw darllen y cyfarwyddiadau ac ymateb i'r awgrymiadau. Dysgwch beth yw'r broblem, pam mae'n bwysig, a sut i'w chywiro'n briodol.
- Dewis Beth mae hyn yn ei olygu i ddysgu rhagor am y broblem.
- Dewiswch Sut i a dilynwch y camau i wella hygyrchedd y ffeil.
Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn newid yn dibynnu ar y ffeil a'r problemau hygyrchedd a ganfuwyd. Er enghraifft, â PDF, gallech weld cyfarwyddiadau ar sut i drefnu bod y PDF wedi’i thagio. Dewiswch Sut i Drefnu bod PDF Wedi’i Thagio.
- Lanlwytho: Lanlwytho ffeiliau wedi’u diweddaru i gymryd lle'r un presennol.